Cwmnïau o Gaerdydd ac Abergele’n dathlu llwyddiant dwbl mewn gwobrau prentisiaethau

Postiwyd ar gan admin

Cafodd darparwr hyfforddiant o Gaerdydd a chanolfan gwastraff ac ailgylchu o’r gogledd lwyddiant dwbl yn noson wobrwyo fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2015 neithiwr (nos Iau).

Daeth ACT Limited i’r brig mewn cystadleuaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng ar gyfer y Wobr i Ddarparwr am Weithio mewn Partneriaeth ac enwyd un o’u gweithwyr, Louisa Gregory, yn Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Enillodd ACT y Wobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd hefyd. Mae ganddo 2,161 o ddysgwyr ar ei lyfrau ac mae rhwydwaith cyfan ACT yn cyflenwi rhaglenni dysgu i 4,331 o unigolion mewn 22 o wahanol sectorau ledled Cymru.

Enwebwyd Louisa, sy’n 28 oed ac yn dod o Gaerdydd, oherwydd ei hynni, ei brwdfrydedd a’i hagwedd greadigol at ddysgu: Llwyddodd 27 o’r 30 o ddysgwyr y bu’n gweithio gyda nhw yn y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau gwaith llawn amser.

Cafodd ACT Limited ragor o lwyddiant pan gasglodd un o’i ddysgwyr, Cory Rowlands, 18 oed o’r Barri, wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1). Mae Cory’n gweithio fel gwerthwr gyda chwmni teuluol y Cardiff Bed Store.

Cwmni arall a gafodd lwyddiant dwbl oedd Thorncliffe Abergele sy’n rhedeg safle gwastraff ac ailgylchu yn Abergele. Enillodd y cwmni Wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn ac enillodd un o’i weithwyr, Sean Williams, cyndroseddwr sydd wedi newid er gwell, Wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Dywedwyd bod gan y cwmni agwedd “ysbrydoledig” at gyflogi a hyfforddi staff. Mae ganddo 52 o weithwyr ac mae wedi cymryd 28 o brentisiaid yn y tair blynedd ddiwethaf.

Roedd y seremoni wobrwyo fawreddog, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor, Casnewydd, yn ffenest siop ar gyfer llwyddiant dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu i ddatblygu sgiliau. Daeth 450 o wahoddedigion i’r seremoni, yn cynnwys 37 o bobl oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dwsin o ddosbarthiadau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC. Media Wales yw’r partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae’r gwobrau uchel eu parch yn dathlu llwyddiant eithriadol rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, ac ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Bridge Dental Care, Trecelyn, ger Caerffili, enillodd Wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn. Maen nhw wedi recriwtio dau brentis ifanc mewn nyrsio deintyddol i helpu i ehangu’r busnes.

Cwmni Mitel o Gil-y-coed, sy’n gweithio ym myd cystadleuol cyfathrebu mewn busnes, a meddalwedd a gwasanaethau cydweithredu, a enwyd yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn. Mae’r cwmni’n cyflogi pum prentis, pob un wedi cychwyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn yr adran gwasanaethu cwsmeriaid.

EE, un o’r cwmnïau cyfathrebu digidol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a gasglodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, i gwmnïau â dros 5,000 o weithwyr. Mae’r cwmni’n gwasanaethu dros 30 miliwn o gwsmeriaid ac mae’n cyflogi dros 750 o staff rheng flaen a staff cymorth yn ei ganolfan ym Merthyr Tudful, yn cynnwys 251 o brentisiaid.

Aeth Gwobr Prentis y Flwyddyn i Liam Gill, 26 oed, o Abertawe a newidiodd ei yrfa o fod yn hyfforddwr personol i fod yn beiriannydd mecanyddol gyda chwmni moduron Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Llwyddodd i arbed dros £80,000 y flwyddyn i’r cwmni gydag un o’i syniadau.

Janet Bevan o Dreorci, sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Llantrisant, enillodd wobr Prentis Uwch y Flwyddyn. Llwyddodd i adfywio’i gyrfa pan oedd yn 53 oed, trwy ddilyn Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac, ar yr un pryd, cafodd ei dyrchafu’n brif therapydd galwedigaethol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn.

Rhys Lloyd, 24 oed o Hengoed, yw Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn – Twf Swyddi Cymru. Mae Rhys yn dioddef o ddyslecsia a gadawodd yr ysgol yn ifanc heb gymwysterau. Ac yntau’n un o ddysgwyr Itec, mae’n gweithio erbyn hyn i GM Polystyrene lle mae’n dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Warws.

Saffron Tinnuche, 18 oed, o Bontarddulais enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu). Coleg Sir Gâr yw darparwr dysgu Saffron sydd wedi dod dros drychinebau yn ei bywyd i osod sylfeini gyrfa fel Redcoat yn Butlins.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac i bawb a ddaeth i rownd derfynol y Gwobrau Prentisiaethau. Mae gennym brentisiaid a dysgwyr gwirioneddol eithriadol yng Nghymru ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau. Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig.

“Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ac mae cyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell dros 80 y cant. Mae meithrin pobl ifanc fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi.”

Hefyd yn y rownd derfynol roedd: Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Chris Hughes, ACT Limited, Caerdydd; Steven Manning, Coleg y Cymoedd, Ystrad Mynach a Sue Jeffries, Cyfle, Caerdydd. Macro-gyflogwr y Flwyddyn: BT, Caerdydd a Lloyds Banking Group, Caerdydd. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Celtic Manor Resort, Casnewydd a Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Little Inspirations Ltd, Llantrisant a Randall Parker Foods Ltd, Dolwen Llanidloes. Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Destek Accessible Technology Solutions, Port Talbot a Nemein Ltd, y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Steve Bergiers, Cydweli sy’n gweithio i Heddlu Dyfed Powys, Caerfyrddin ac Ellen Evans, Treffos Cottage Nursery, Llansadwrn, Porthaethwy. Prentis y Flwyddyn: Drew Barrett, y Rhŵs sy’n gweithio i Openreach, Caerdydd, Megan Wilkins, Casnewydd sy’n gweithio i fferm Cwmnofydd, Machen a Zoe Batten, Pontypridd sy’n gweithio i British Airways Avionics Engineering, Pontyclun. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Dylan Jones, Glantwymyn, Machynlleth sy’n gweithio i RWE Innogy Ltd, Llanidloes a Lloyd Price, Merthyr Tudful sy’n gweithio i EE, Merthyr Tudful.

Yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Corey McDevitt, 22, Trelái, Caerdydd; Lisamarie Jones, 19, Llanisien, Caerdydd, sy’n ddysgwyr gydag Itec Skills and Employment, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Jac Ellis, 18, Caernarfon a Tamsin Austen, 18, Llangefni, y ddau o Grŵp Llandrillo Menai, Llangefni. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Elliot Stephens, 17, Cwmbrân o Goleg QS, Cwmbrân a Louis Bowen, 17, Sain Tathan, y Barri o Motivational Preparation College Training, Pen-y-bont ar Ogwr.

More News Articles

  —