Darparwyr hyfforddiant yn croesawu adduned Plaid Cymru i greu 50,000 o brentisiaethau newydd

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae’r sefydliad sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant yng Nghymru wedi rhoi croeso cynnes i adduned gan Blaid Cymru i greu 50,000 o brentisiaethau newydd i bobl ifanc dros y pum mlynedd nesaf os daw’r blaid i rym yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai.

Dywed cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Peter Rees, ei fod wrth ei fodd bod Plaid Cymru’n cydnabod gwerth prentisiaethau i economi Cymru a’i bod yn ymroi i sicrhau’r un parch i brentisiaethau ag i raddau prifysgol.

Cyhoeddodd Llefarydd Cysgodol Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, ddoe (dydd Mercher) y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio cyfran Cymru o’r ardoll prentisiaethau newydd i greu 50,000 o brentisiaethau ychwanegol dros gyfnod y Cynulliad nesaf.

Disgwylir y bydd yr ardoll yn dod â thua £150m i Gymru bob blwyddyn o ganlyniad i gynnydd yn y gwariant yn Lloegr, a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd.

Ychwanegodd fod Plaid Cymru’n ymrwymo i weithio i sicrhau nad oedd yr un person ifanc yng Nghymru, rhwng 16 a 24 oed, heb fod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant, er mwyn gwella’r rhagolygon ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Mr Rees: “Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad polisi hwn gan Blaid Cymru ynghylch creu 50,000 o brentisiaethau ychwanegol. Mae hefyd yn dda bod y blaid yn cydnabod yr angen i esbonio manteision prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yn iawn wrth ysgolion a phobl ifanc fel eu bod yn eu deall yn iawn ac yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am y gwahanol gyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt.

“Credwn fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn dilyn y cyrsiau hyfforddiant neu addysg mwyaf addas ar eu cyfer nhw a’u gyrfa, a bod buddsoddiad y llywodraeth yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol.

“Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan yr NTfW yn dangos bod y buddsoddiad presennol mewn prentisiaethau yng Nghymru yn cynhyrchu dros £1 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi’r wlad, ac mae hynny’n werth ardderchog am arian i Lywodraeth Cymru.

“Gallai pob punt o arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn Prentisiaeth Sylfaen neu Brentisiaeth esgor ar gymaint â £26 a £28 yn y drefn honno. Mae cyfradd llwyddiant gyffredinol prentisiaethau yn 84% yng Nghymru o’i gymharu â 68.9% yn Lloegr.

“Rydym wrthi’n ceisio cael gwybod yn iawn sut y bydd yr ardoll prentisiaethau, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gweithio yn ymarferol ac rydym yn croesawu pob galwad ar i’r buddsoddiad ychwanegol hwn, pan ddaw, gael ei wario ar greu rhagor o brentisiaethau yng Nghymru.”

Yn ogystal, datgelodd gwaith ymchwil yr NTfW, ‘Gwerth Prentisiaethau i Gymru’, bod:

  • Prentisiaethau’n sicrhau enillion o £74 am bob £1 a fuddsoddir o’i gymharu â £57 yn achos gradd arferol;
  • O ystyried enillion oes, cyfrifir bod Prentisiaeth Sylfaen yn werth rhwng £48,000 a £74,000 i unigolion, a bod y sawl sy’n dilyn Prentisiaeth ar eu hennill o rhwng £77,000 a £117,000.
  • Mae cost arferol gradd gyntaf yn £27,000, o leiaf, o’i gymharu â rhwng £4,000 ac £16,000 ar gyfer Prentisiaeth.

Cyfeiriodd Mr Thomas at y gwaith ymchwil wrth gyhoeddi polisi Plaid Cymru ar gyfer y dyfodol. “Ar hyn o bryd, mae 12,200 o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yng Nghymru sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant,” meddai. “Maent yn cynrychioli un o bob 10 o bobl ifanc o fewn yr amrediad oed hwnnw.

“Dyna pam y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio cyfran Cymru o’r ardoll prentisiaethau i fuddsoddi mewn 50,000 o brentisiaethau dros gyfnod y Cynulliad nesaf. Credwn fod prentisiaethau yn cynnig trywydd yr un mor werthfawr i waith â graddau prifysgol, ac rydym yn anelu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddau drywydd hyn.

“Byddai’r buddsoddiad allweddol hwn yn nyfodol ein pobl ifanc yn rhoi hwb i obeithion y genhedlaeth nesaf, yn cau’r bwlch sgiliau mewn sectorau hollbwysig megis peirianneg a chyfrifiadureg, ac yn gwella iechyd yr economi Gymreig.”

More News Articles

  —