Darparwyr hyfforddiant yn galw ar Brif Weinidog y DU i wneud iawn am yr arian a gollir o’r Undeb Ewropeaidd

Postiwyd ar gan karen.smith

Sarah John, Chair NTfW

Sarah John, Cadeirydd NTfW

Mae’r corff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, i gadarnhau y bydd ei Lywodraeth yn gwneud iawn am unrhyw gyllid Ewropeaidd a fuddsoddir yng Nghymru ar hyn o bryd ond a gollir yn dilyn y bleidlais Brexit.

Mae Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sydd â dros 100 o aelodau a chysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a gwleidyddion San Steffan i sicrhau y cedwir yr addewidion a wnaed cyn y refferendwm na fydd gostyngiad yn yr arian a gaiff ei wario yng Nghymru.

Mae Mae’r NTfW yn cefnogi galwad frys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am eglurder gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac mae wedi ysgrifennu at David Cameron i geisio cadarnhad.

Rhwng 2014 a 2020, roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu buddsoddi £245 miliwn o gyllid o’r Undeb Ewropeaidd i helpu pobl i fynd i weithio ac i wella sgiliau trwy raglenni fel prentisiaethau, REACT, Pontydd i Waith, Sgiliau Gwaith i Oedolion ac Upskilling@Work.

Yn ystod yr un cyfnod, roedd bwriad i fuddsoddi £95m o gyllid o’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi pobl ifanc trwy raglenni fel Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau.

CCyfarfu’r cadeirydd dros dro, Sarah John, â’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, ddydd Mercher, i gael trafodaethau pwysig gyda’r nod o leddfu pryderon cyflogwyr am gyllido rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yn y dyfodol. Mae’r sector wedi addo cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru yn y cyfnod pontio wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydym “Rydym yn eithriadol o falch o’r rhaglen brentisiaethau lwyddiannus sydd gennym yng Nghymru, sy’n gwneud yn well na gweddill y Deyrnas Unedig,” meddai Mrs John. “Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd yn dilyn canlyniad y refferendwm, rydym yn barod i chwarae ein rhan yn dal ati i uwchsgilio gweithlu Cymru ac i sicrhau bod prentisiaethau’n dal i ddiwallu anghenion busnes ac anghenion sgiliau pob math o wahanol gyflogwyr.

“Rydym yn rhannu siom Llywodraeth Cymru â chanlyniad y refferendwm a deallwn y bydd ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn cael effaith sylweddol ar y cyllid a fydd ar gael i gyflenwi ei pholisi sgiliau, a gâi ei gefnogi gan arian o Ewrop.

“Mae canlyniad y refferendwm yn dipyn o her i’r cyllid a ddaw i ddysgu seiliedig ar waith ac mae’r NTfW yn addo cydweithio â Llywodraeth Cymru mewn ffordd adeiladol yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd o’n blaen.”

Mae’r NTfW yn canolbwyntio ar sicrhau bod rhaglen brentisiaethau ragorol Llywodraeth Cymru yn dal i lwyddo. Mae cyfradd llwyddiant prentisiaid yng Nghymru yn 84 y cant o’i gymharu â 68.9 y cant yn Lloegr.

Datgelodd adroddiad a gomisiynwyd gan yr NTfW, ‘Gwerth Prentisiaethau i Gymru’, y llynedd fod prentisiaethau yng Nghymru yn cynhyrchu dros £1 biliwn y flwyddyn i economi’r wlad a bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru ynddynt yn talu ar ei ganfed. Mae dros 51,000 o brentisiaid yng Nghymru.

“Rydym yn rhannu uchelgais Llywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant polisïau blaenorol ym meysydd dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau,” meddai Mrs John. “Deallwn fod yr addewid a wnaeth Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn dal yn un o’i blaenoriaethau allweddol.”

More News Articles

  —