Cylchlythyr NTfW – Gorffennaf 2016

Postiwyd ar gan karen.smith











Atebion Polisi – Gwerth Sgiliau i’r Economi

Policy-Solutions-Email-Banner
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), ColegauCymru a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnal cyfres o bum digwyddiad Atebion Polisi er mwyn sicrhau syniadau ffres a safbwyntiau newydd wrth wynebu heriau allweddol ym maes polisi cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar addysg a hyfforddiant ôl-16.

Nod y drydedd yn ein cyfres o seminarau Atebion Polisi, Gwerth Sgiliau i’r Economi, yw hybu trafodaeth ar swyddogaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 mewn diwydiant.

Sut allwn ni gydweithio’n well, bod yn fwy dyfeisgar a chefnogi twf yn economi Cymru?

Credwn ei bod yn bryd dathlu arferion da presennol yn ogystal ag edrych mewn ffordd strategol ar y potensial ar gyfer arloesi a newid.

Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at bartneriaethau ardderchog rhwng diwydiant a’r sector addysg a sgiliau. Bydd hefyd yn ystyried beth y mae angen ei wneud i sicrhau model cyd-drefnus, cydweithrediadol, strategol a chynaliadwy at y dyfodol.

Y ddwy seminar sy’n weddill yn y gyfres Atebion Polisi yw:
Dydd Iau 4 Awst
Sgiliau Iaith Gymraeg i’r Gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni

Dydd Mawrth 16 Medi 2016
Darparu Prentisiaethau o’r Safon Uchaf yng Nghymru yn Nhy Hywel, Bae Caerdydd

Os hoffech ragor o wybodaeth neu gadw lle yn y digwyddiadau hyn, ebostiwch Wendy.Ellaway-Lock@learningandwork.org.uk

Yn ôl i’r brig»

Gwobrau VQ yn dathlu llwyddiant dysgwyr a chyflogwyr

07.06.16-VQ-Awards-Cardiff-211-sml
Menyw ifanc o Lanelli sy’n arloesi yn y diwydiant lletygarwch, menyw sydd wedi’i dyrchafu o fod yn weinyddwr i fod yn oruchwyliwr y dociau a’r marina ym Mhorthladd Aberdaugleddau, a chwmni ailgylchu llwyddiannus o’r gogledd oedd y prif enillwyr yng Ngwobrau VQ (Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol) Cymru neithiwr (nos Fawrth).

Daeth deg o unigolion a chyflogwyr oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynghyd â’u darparwyr dysgu at ei gilydd yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Caerdydd ar noswyl Diwrnod VQ i glywed pwy oedd wedi ennill y gwobrau. Fe’i cyflwynwyd gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.

Trefnir y gwobrau blynyddol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Colegau Cymru i ddathlu llwyddiant dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru.

Aeth Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel Ganolradd) i Elizabeth Forkuoh, Gwesty Parc y Strade, Llanelli, a enwebwyd gan Goleg Sir Gâr, Llanelli. Mae Elizabeth, 20 oed, yn amlieithog – mae’n siarad Eidaleg, Saesneg, Twi, Ffrangeg a thipyn o Gymraeg – ac mae wedi ennill gwobrau aur yng Nghystadlaethau Sgiliau Cymru a WorldSkills UK. Erbyn hyn, mae wedi llwyddo i gael lle yn Sgwad WorldSkills UK ac mae’n gobeithio cystadlu yn WorldSkills Abu Dhabi yn 2017. Darllen mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Codi Proffil Sgiliau Dwyieithog

Gwhoddiad Invitation-Cyflogiaith
Mae Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW yn gweithio’n agos gyda Sgiliaith i gyd-drefnu’r ail gynhadledd ‘Cyflogiaith’, a chynhelir at Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd ar ddydd Iau 21 Gorffennaf rhwng 10yb a 3:30yh.

Nod y gynhadledd yw rhannu arferion da ar draws y sector dysgu seiliedig a’r waith (DSW) yng Nghymru, ond hefyd mynd cam ymhellach wrth wahodd cyflogwyr lleol i siarad am eu hagweddau ac anghenion ynglyn â sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Nad oes yna gost i fynychu’r gynhadledd sydd wedi ei anelu at Reolwyr ac Ymarferwyr o du fewn i’r sector DSW; ond hoffai NTfW a Sgiliaith clywed gan gyflogwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn trafod pwysigrwydd sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y gynhadledd.

Yn dilyn llwyddiant y Cystadlaethau Galwedigaethol at Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint ym mis Mehefin 2016, mae’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd DSW yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru, ColegauCymru ac Inspiring Skills Excellence in Wales (ISEiW) er mwyn cyflwyno cystadlaethau ychwanegol i Eisteddfodau yn y dyfodol. Y nod yw ehangu mynediad i’r Eisteddfod, ond hefyd i bwysleisio sgiliau Cymraeg yn y gweithle; tra hefyd yn caniatáu dilyniant i gystadlaethau WorldSkills.

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan; ond os hoffech chi helpu creu cystadlaethau newydd, yna cysylltwch â’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd trwy e-bost ryan.evans@ntfw.org

Yn ôl i’r brig»

SkillsCymru

skills-cymru-logo
Cyfres o ddau ddigwyddiad ysbrydoledig a rhyngweithiol yw SkillsCymru sy’n helpu i gysylltu pobl ifanc ddawnus â chyfleoedd swyddi, gyrfaoedd a sgiliau ledled Cymru.

Mae arddangos yn SkillsCymru yn cynnig cyfle i’ch sefydliad fod yn rhan o ddigwyddiad gwych. Mae’n dod â chyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant, prifysgolion a sectorau gyrfa ynghyd o dan un to, ar yr un pryd, i ymgysylltu â 10,000 o ymwelwyr cryf eu cymhelliant.

Os oes diddordeb gennych mewn arddangos galwch Gabrielle McEvans ar 01823 362811 neu e-bostiwch gabrielle.mcevans@prospects.co.uk

Yn ôl i’r brig»

Penodiadau newydd yn cryfhau’r rhwydwaith darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

The NTfW’s new interim chairperson Sarah John (centre) with Kelly Edwards (left) with Humie Webbe.

The NTfW’s new interim chairperson Sarah John (centre) with Kelly Edwards (left) with Humie Webbe.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, wedi gwneud tri phenodiad newydd.

Mae Sarah John, cyfarwyddwr masnachol gyda chwmni Acorn o Gasnewydd, yn dod yn gadeirydd dros dro yn lle Peter Rees, cyn-bennaeth cynorthwyol Coleg Sir Gâr, ar ôl iddo ef ymddeol. Bydd yn parhau yn y swydd o leiaf tan gyfarfod blynyddol yr NTfW ym mis Medi.

Mae Sarah wedi bod yn gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith ers 22 o flynyddoedd a bu’n aelod o fwrdd yr NTfW ers dwy flynedd gan mai hi yw cadeirydd rhanbarthol De-ddwyrain Cymru.

Yr aelodau eraill sy’n cryfhau tîm yr NTfW yw Kelly Edwards, sy’n dod yn bennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith a Humie Webbe a benodwyd yn hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae gan y ddwy brofiad mawr yn eu maes arbenigol ac mae’r penodiadau’n cael eu cyd-ariannu am ddwy flynedd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Darllenwch mwy >>>

Yn ôl i’r brig»

Newyddion gan y Rhanbarthau

Lansio cyfeirlyfr busnes newydd i dynnu sylw at y sector ynni yn y gogledd

North Wales Business Directory
Mae’n bleser gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) gyhoeddi ei fod yn lansio’i ail gyfeirlyfr busnes rhanbarthol yn swyddogol. Bydd hwn yn canolbwyntio ar waith ym meysydd Ynni a’r Amgylchedd yn y gogledd, gan barhau i hybu economi’r rhanbarth fel y gwnaeth gyda’r cyfeirlyfr cyntaf ym maes Gweithgynhyrchu.

Gyda dros 150 o gwmnïau wedi eu rhestru, mae’r Cyfeirlyfr o Fusnesau Ynni ac Amgylcheddol newydd yn dangos yn glir gryfder a dyfnder y sector yma, ac mae’n declyn a man cyfeirio ar gyfer busnesau, darparwyr addysg a sgiliau, ac eraill, gan mai nod y Cyfeirlyfr yw cyflwyno’r darllenydd i holl amrywiaeth y busnesau rhagorol sydd yn y Sector Ynni a’r Amgylchedd ledled y gogledd.

Dyma grynodeb o brif ddibenion y Cyfeirlyfr:

  • Codi proffil y gogledd fel lle ardderchog i fusnesau yn y sector ynni a’r amgylchedd i ffynnu
  • Hwyluso rhagor o gontractau busnes i fusnes a gweithgareddau yn y gadwyn gyflenwi;
  • Annog rhwydweithio rhanbarthol a chydweithio rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat,
  • Cyfeirio at wybodaeth, addysg a hyfforddiant ar gyfer y sector sgiliau.

Bu’r BUEGC yn cydweithio â chyflogwyr ledled y rhanbarth trwy gynrychiolwyr o bob un o chwe awdurdod lleol y gogledd. Daethant at ei gilydd i ddarparu’r wybodaeth fusnes a chysylltiadau â chyflogwyr arbenigol ac allweddol yn y sector hwn, a manylion amdanynt, i’w cynnwys yn y cyfeirlyfr.

Mae’r Cyfeirlyfr i’w weld ar-lein yn: http://energyandenvironmentaldirectorynorthwales.co.uk/

Yn ôl i’r brig»

Myfyrwyr yn cau’r bwlch rhwng y cenedlaethau trwy gynnal sioe mewn cartref gofal yn Wrecsam

Wrexham-care-home-sml
Mae myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Cambria wedi bod yn ymweld â thrigolion cartrefi gofal Hillbury a Gwern Alyn sy’n rhan o grwp Parc Pendine fel rhan o’u cwrs. Aethant ati i nodi diwedd eu prosiect saith mis trwy gynnal sioe ‘dawns de’ ar gyfer y trigolion gydag adloniant i’w hatgoffa o’r 1940au.

Cyflwynwyd un o sgetshys Laurel and Hardy a theyrnged i The Andrews Sisters, ac roedd gweddill y sioe’n cynnwys canu, dawnsio a barddoniaeth.

Bu’r myfyrwyr yn ymweld â thrigolion y cartrefi bob wythnos ers saith mis er mwyn cael golwg ymarferol ar weithio gyda phobl oedrannus a phobl sydd â dementia, dod i nabod y trigolion a meithrin perthynas gref â nhw.

Mae’r ddau gartref yn rhan o grwp gofal Parc Pendine.

Dywedodd Ann Farr, rheolwr canolfan hyfforddi Academi Pendine: “Mae gynnon ni gysylltiad â Choleg Cambria ers amser ac ryden ni wedi cynnig lleoliadau gwaith i rai o’r myfyrwyr gofal cymdeithasol yn y gorffennol.

“Ond yn 2016, fe benderfynon ni gynnig cwrs ar gyfer grwp, gan helpu i sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr yn dysgu’r sgiliau sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer gyrfa yn y sector gofal.

“Ryden ni wrth ein bodd â’r canlyniad – cafodd y myfyrwyr groeso cynnes gan ein trigolion oedrannus ac roedden nhw’n dangos parch a gofal gwirioneddol at y trigolion yr oedden nhw’n helpu i ofalu amdanyn nhw.”

Dywedodd Wendy Fowler, cyfarwyddwr gofal iechyd a gofal plant yng Ngholeg Cambria: “Mae hwn wedi bod yn brofiad gwych a fyddai dim modd i ni ei gynnig heb gymorth Parc Pendine.

“Roedd yn gyfle gwerthfawr i’r myfyrwyr ddod allan o’r ystafell ddosbarth a chyfarfod y trigolion oedrannus a gweithio gyda nhw yn eu hamgylchiadau arferol. Rydyn ni’n ddyledus iawn i Ann, Claire a’r tîm cyfan.”

Mae tair o’r myfyrwyr a gymerodd ran, Emily Williams, Lauren Evans ac Alisha Bagnall, y tair yn 17 oed, wedi cael gwaith rhan amser gyda Pharc Pendine o ganlyniad uniongyrchol i’r cwrs.

Byddant yn gweithio gyda thimau ‘rhaglenni cyfoethogi’ llawn amser y sefydliad.

Meddai Emily: “Byddwn ni’n helpu gyda phopeth o ddigwyddiadau mawr fel y ddawns de a’r adloniant a drefnwyd ar gyfer y trigolion heddiw, gêmau bwrdd, boreau coffi a digwyddiadau codi arian, i weithgareddau cymdeithasol ar raddfa fach fel eistedd i lawr a sgwrsio gyda’r trigolion.

“Mae’r sgiliau rydyn ni wedi’u dysgu trwy’r cwrs wedi bod o help mawr iawn i ni wrth wneud cais am y swyddi rhan amser ac wrth agor ein llygaid i ochr ymarferol gweithio yn y sector gofal yn y dyfodol.”

Dywedodd Olga Ord, a oedd yn dathlu ei phen blwydd yn 84 ar ddiwrnod y ddawns de, fod y trigolion yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr yn dod.
Meddai: “Maen nhw mor llawen a bob amser yn gwenu, ac maen nhw’n gweithio’n galed hefyd. Mae’n braf cael eu gweld nhw a sgwrsio.”

Yn ôl i’r brig»

Gwirfoddolwyr ifanc o Rathbone Training yng Nghastell-nedd yn ennill gwobr genedlaethol

Rathbone-Neath-sml
Mae gwirfoddolwyr ifanc o Gastell-nedd wedi ennill gwobr genedlaethol am gefnogi banc bwyd lleol.

EnilloEnillodd dysgwyr o Rathbone Cymru Training glod yng Ngwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) am eu gwaith gyda Banc Bwyd Castell-nedd lle maent yn helpu’n rheolaidd i bwyso, didoli, pacio a dosbarthu hamperi bwyd.

CyflwynCyflwynwyd y wobr fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr Cymru a gynhaliwyd rhwng 1 Mehefin a 12 Mehefin eleni ac a estynnwyd i gynnwys dathliadau pen blwydd y Frenhines yn 90.

“Rwy’n eithriadol o ddiolchgar am yr help y mae pobl ifanc a staff Rathbone wedi’i roi i’r fenter gymunedol. Maen nhw’n help mawr gyda’r holl dasgau sydd ynghlwm wrth rannu parseli bwyd i bobl lai breintiedig ac maen nhw wedi dangos ymroddiad a charedigrwydd wrth ein helpu i ateb anghenion pobl eraill yn yr ardal,” meddai Yvonne Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr gyda Banc Bwyd Castell-nedd.

Dechreuwyd helpu â’r banc bwyd dros flwyddyn yn ôl. Trefnwyd y gwaith gan diwtor, Amy Evans, a chymhorthydd dosbarth, Sophie Kendall, fel gweithgaredd cyfoethogi ar gyfer dysgwyr newydd oedd yn cyrraedd Rathbone Cymru Training a phobl ar rhaglen hyfforddeiaeth oedd yn chwilio am brofiad gwaith.

“Mae gan ein pobl ifanc berthynas weithiol ardderchog gyda’r banc bwyd ac mae’r prosiect wedi bod yn werthfawr iawn yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu a gwella eu sgiliau cyfathrebu a rhifedd, yn dod i wybod mwy am faterion cymunedol, yn dysgu sgiliau gweithio mewn tîm, hyder, a nifer o sgiliau rhyngbersonol a chyflogadwyedd,” meddai Christina Thomas, Rheolwr Rhaglenni Ieuenctid gyda Rathbone Training yng Nghastell-nedd.

Yn ogystal, mae’r prosiect wedi helpu’r dysgwyr ac wedi rhoi budd cymunedol i’w gwaith tuag at fenter Llywodraeth Cymru, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) i adeiladu cymunedau gwell.

““Mae gweithio yn y banc bwyd wedi helpu i chwalu rhai o’r syniadau oedd gan rai o’n dysgwyr am y rhesymau pam y mae pobl yn defnyddio banc bwyd. Mae wedi rhoi’r angen am fanciau bwyd ac anawsterau pobl ifanc sy’n wynebu problemau fel diweithdra, digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau mewn perspectif,” meddai Christina.

Yn ôl i’r brig»

Cynnal Adolygiad Strategol o’r Bartneriaeth Dysgu Rhanbarthol

RLP_logo_bilingual-sml
Mae SQW newydd gwblhau adolygiad strategol o’r Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol i ganfod ffactorau allweddol a all symud y bartneriaeth ymlaen tua’r flwyddyn 2020. Mae’r adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion yn cynnwys newid enw’r sefydliad i’r Bartneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol ac annog cyflogwyr i chwarae mwy o ran yn dylanwadu ar y ddarpariaeth hyfforddiant yn ôl gofynion diwydiant yn y rhanbarth. Yn unol â daearyddiaeth y Bartneriaeth, bydd y cynllun yn ceisio cefnogi gwaith Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, gan dalu sylw manwl i’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer yr ardaloedd hynny a sicrhau synergedd lle bo modd.

Caiff y cynllun ei weithredu fesul rhan – pob rhan â chanolbwynt ac amcanion unigryw. Cwblhawyd y rhan gyntaf ddiwedd Mawrth 2016. Roedd yn cynnwys amlinellu’r ffordd ymlaen a phennu ffynonellau data a thystiolaeth priodol yn ogystal â chydweithio â LSkIP i gomisiynu ymarferiad ymchwil dwys ar y cyd ar gyfer cwmnïau mawr yn ne a chanolbarth Cymru, a chynnal ein harolwg ar-lein ein hunain gyda busnesau bach a chanolig eu maint. Mae’r arolygon yn rhoi dadansoddiad trwyadl o ddata a fydd yn darparu gwybodaeth amserol a chynrychioliadol defnyddiol iawn am yr heriau y mae rhai o’n cyflogwyr allweddol yn eu hwynebu.

Mae’r ail ran ar y gweill ar hyn o bryd ac mae’n cynnwys llawer o ymgynghori â chyflogwyr a darparwyr. Caiff y gwaith ymgynghori ei gefnogi gan waith y rhaglen Deall, Cydgynhyrchu, Dylanwadu, Dysgu (UCIL) a arweinir gan dîm yn y Bartneriaeth sydd wrthi’n gweithio gyda busnesau bach yn y rhanbarth i ganfod rhwystrau ac i gyd-greu ffyrdd newydd o sicrhau bod rhagor o bobl yn manteisio ar gynlluniau sgiliau. Bydd hyn yn ychwanegu gwerth at y cynllun. Caiff y cynllun llawn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Gorffennaf 2016.

Yn ôl i’r brig»

Pobl Ifanc yn cael Cyfle Da yn y Diwydiannau Creadigol trwy Brentisiaethau yn y Cfryngau

Creative-Industries-Media-Apprenticeships-sml
Mae ugain o bobl ifanc a hoffai weithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn dathlu llwyddiant eu prentisiaethau yn y cyfryngau sy’n dod i ben ar ôl blwyddyn brysur o hyfforddiant a gwaith ymarferol gyda chwmnïau fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac Orchard Entertainment.

Bydd pob un ohonynt naill ai’n dechrau gweithio neu’n symud ymlaen i addysg bellach o ganlyniad i’r cynllun a gyflwynir gan Sgil Cymru.

Bu’r prentisiaid, sydd rhwng 16 a 24 oed, yn gweithio ledled y de ac maent wedi dysgu am agweddau hanfodol ar y cyfryngau creadigol a digidol trwy hyfforddiant Sgil Cymru yng nghanolfan Pinewood Studio Cymru. Roeddent yn dysgu am hanfodion gyrfa yn y cyfryngau – o gynhyrchu fideos i ysgrifennu CV.

Mae Tom Parry, 19 oed, o Gaerffili, yn dod i ben cyfnod o flwyddyn yn gweithio fel prentis camera ar y ddrama feddygol enwog, Casualty, ac mae wedi cael cynnig contract deuddeng mis gyda BBC Cymru Wales. Meddai Tom: “Fyddwn i byth wedi cyrraedd y sefyllfa yma heb y brentisiaeth. Mae wir wedi newid fy mywyd.”

Mae prentisiaid eraill wedi cael cynnig gwaith gan y cwmnïau lle buont yn gweithio hefyd, yn cynnwys Cardiff Theatrical Services a’r cwmni cynhyrchu ffilm a theledu Sports Media Services.

Bu Nia Yorke, 19 oed, o Drelái yng Nghaerdydd, yn gweithio yn adran cynhyrchu rhaglenni ITV Cymru Wales. Mae ar fin cychwyn ei gyrfa fel arbenigwr cynhyrchu llawrydd, ac mae ITV Cymru Wales eisoes wedi gofyn iddi weithio ar eu rhaglenni am refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Meddai Nia: “Cyn hyn, roeddwn i’n gweithio shifftiau nos mewn lle bwyd brys a nawr dwi’n gweithio trwy’r nos ar raglenni etholiadau! Flwyddyn yn ôl, fyddwn i byth wedi disgwyl y byddai gen i swydd fy mreuddwydion.”

Er bod y rhaglen brentisiaethau hon yn dod i ben, mae gan Sgil Cymru 30 o brentisiaethau newydd Lefel 3 a Lefel 4 yn cychwyn yn yr haf, yn amrywio o gynhyrchu ar gyfer y cyfryngau gyda BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales i nifer o swyddi marchnata gan ddwsin o wahanol gwmnïau yn cynnwys Golley Slater, Equinox a chylchgrawn Buzz.

Dywedodd Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru “Mae rhaglen y flwyddyn gyntaf wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus ac mae’r tîm yma, a chyflogwyr blaenllaw ledled de Cymru, yn edrych ymlaen at groesawu ein prentisiaid newydd fis nesaf.

“Bydd nifer o gyfleoedd arbennig ac amrywiol ar Lefel 3 ar gael yn fuan gyda BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales ar gyfer pobl ifanc 16 – 24 ac mae llefydd Lefel 4 ar gael mewn cwmnïau cyffrous ym meysydd marchnata, dylunio, technoleg gwybodaeth a digwyddiadau ar gyfer pobl 18 oed a throsodd.”

Mae’r rhaglen brentisiaethau hon yn cael ei rhan-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Gwnaed y Brentisiaeth yn bosibl gan Brentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro, y darparwr hyfforddiant arweiniol ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael contract gan Lywodraeth Cymru i gynnig rhaglenni dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae’r Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) yn cynnwys 22 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n gweithio mewn sectorau arbenigol ac sy’n dod â’u sgiliau a’u harbenigedd i fyd prentisiaethau. Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro a’r QSA yn gwasanaethu ardal ddaearyddol helaeth ac maent yn darparu ar gyfer Cymru gyfan. Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd a’r Fro a’r QSA yn cynnig dewis helaeth o raglenni ac yn gweithio mewn 25 o wahanol lwybrau galwedigaethol.

Yn ôl i’r brig»

Adroddiad Estyn cyntaf VSP yn addawol iawn

VSP_Logo_colour-sml
Mae Partneriaeth Sgiliau Galwedigaethol (Cymru) Cyf (VSP) wedi cael canmoliaeth fawr yn ei hadroddiad cyntaf gan Estyn.

Mae’r consortiwm hyfforddiant, sy’n trefnu cymwysterau dysgu seiliedig ar waith a chyfleoedd Twf Swyddi Cymru o safon uchel, wedi’i gydnabod am “enghreifftiau o arferion sydd gyda’r gorau yn y sector” wrth helpu dysgwyr i gyflawni eu prentisiaethau.

Yn ôl Estyn, roedd perfformiad cyfredol y consortiwm yn “dda” ac roedd ei ragolygon ar gyfer gwella yn “rhagorol.”

Yn yr adroddiad, dywedodd y corff gwarchod addysg bod gan VSP “drefniadau partneriaeth rhagorol” a’i fod yn “cydweithio â nifer fawr o wahanol bartneriaid, cyflogwyr a rhanddeiliaid i ddiwallu anghenion dysgwyr yn dda.”

Sefydlwyd VSP yn 2010 mewn ymateb i agenda drawsnewid Llywodraeth Cymru ac mae’n fenter ar y cyd rhwng Aspiration Training Ltd, Educ8 Ltd, Network Training Services Ltd a TSW Training Ltd.

Dywedodd Lynn Forrester-Walker, cadeirydd bwrdd VSP: “Mae pawb ohonon ni mor falch o’r llwyddiannau a nodwyd yn ein hadroddiad cyntaf fel consortiwm.
“Mae cael ein cydnabod am weithio mewn partneriaeth yn cadarnhau’r cysylltiadau rydyn ni wedi gweithio mor galed i’w meithrin rhyngon ni a sefydliadau eraill. Mae’r cysylltiadau hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni fframweithiau eu prentisiaethau yn llwyddiannus a llawer ohonyn nhw’n symud ymlaen i hyfforddiant uwch.”

Mae VSP yn gweithio ar draws nifer o sectorau yn cynnwys Gweinyddu Busnes, Cigyddiaeth, Gofal Plant, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gweithgynhyrchu ac mae’n un o ddim ond 25 o gyrff yng Nghymru sydd â chontractau dysgu seiliedig ar waith.

Dywedodd yr arolygwyr fod gan yr aseswyr a’r tiwtoriaid “berthynas dda iawn gyda nifer o gyflogwyr lleol a chenedlaethol.”

Wrth drafod y rhagolygon ar gyfer gwella, dywedodd yr arolygwyr fod cyfraddau cyflawni dysgwyr VSP “yn gwella’n gyson gyda’r holl bartneriaid”.

Dywedodd Grant Santos, cyfarwyddwr ansawdd gyda VSP: “Mae’r dysgwyr yn ganolog i’n gwaith. Rydyn ni’n credu’n gryf yn eu helpu i ennill sgiliau a chymwysterau gan ennill arian ar yr un pryd.

“Mae’n bwysig iawn i ni fel consortiwm bod Estyn yn cydnabod bod cyfraddau cyflawni’r dysgwyr yn gwella gan ein bod yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd gorau i lwyddo.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma a’r effaith gadarnhaol y mae VSP yn ei chael ar yr unigolion rydyn ni’n gweithio gyda nhw.”

Mae VSP yn ymroi i rannu arferion gorau, gan wella safonau gyda’r holl bartneriaid a datblygu profiadau dysgu eithriadol ar gyfer unigolion yng Nghymru.

Llwyddodd y consortiwm i sicrhau cyfradd fodlonrwydd o 90% gan ddysgwyr ar draws yr holl bartneriaid a chafodd pob un o’r sefydliadau sy’n aelodau safon Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae wedi datblygu adnodd ar-lein sydd gyda’r gorau yn y sector i feithrin lles y dysgwyr, www.mywellbeinghub.co.uk

I weld adroddiad Estyn yn llawn, ewch i: https://www.estyn.gov.wales/sites/default/files/documents/Vocational%20Skills%20Partnership.pdf

Yn ôl i’r brig»

Dyddiadau i’ch Dyddiadur

21 Gorffennaf 2016
Cynhadledd Cyflogiaith

5-6 Hydref 2016
SkillsCymru, Llandudno

12-13 Hydref 2016
Skills Cymru, Caerdydd

20 Hydref 2016
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

17-19 Tachwedd 2016
The Skills Show

24 Tachwedd 2016
Cynhadledd Flynyddol NTfW

Yn ôl i’r brig»

Digwyddiadau Iaith Gymraeg/Diwylliant Cymreig

18-21 Gorffennaf 2016
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd

29-31 Gorffennaf 2016
Gwyl y Caws Mawr, Caerffili

29 Gorffennaf – 6 Awst 2016
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Fynwy

I gael gwybod rhagor am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, ewch i’r wefan hon: http://www.visitwales.com/things-to-do/whats-on

Yn ôl i’r brig»

Geiriau Cymraeg ar gyfer Haf

[TABLE=12]
Dilynwch @yrawrgymraeg ar drydar ar gyfer ‘Yr Awr Gymraeg’. Ymunwch a’r drafodaeth bob nos Fercher rhwng 8yh a 9yh wrth ddefnyddio #yagym

Yn ôl i’r brig»

More News Articles

  —