Cyhoeddi pwy sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2016

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae 33 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae ceisiadau am y gwobrau pwysig, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), wedi bod yn llifo i mewn o bob rhan o’r wlad. Cafodd panel o feirniaid y dasg anodd o ddewis pwy sydd yn y rownd derfynol ac yn awr mae’n rhaid i’r rheiny aros tan y seremoni derfynol yn Venue Cymru, Llandudno ar 20 Hydref i gael gwybod a ydynt wedi ennill gwobr.

Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau, Twf Swyddi Cymru a Phrentisiaethau.

Roedd y panel beirniaid yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau, wedi dangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant ac wedi dangos blaengarwch, menter, dyfeisgarwch, creadigrwydd ac ymroddiad i wella gwaith datblygu sgiliau yng Nghymru.

Ariannir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a chânt eu noddi gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Llongyfarchwyd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, a diolchodd i’r holl ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu oedd wedi ymgeisio am y gwobrau eleni.

“Rwy’n clywed bod safon y gystadleuaeth yn uwch nag erioed eleni ac mae hynny’n dangos bod rhaglenni dysgu Llywodraeth Cymru yn dal i lwyddo,” meddai. “Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ac mae cyfraddau llwyddiant yng Nghymru yn dal ymhell dros 80 y cant.

“Mae meithrin pobl fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi. Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau. Mae’r darparwyr dysgu a’r cyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig.”

Eleni, mae 12 gwobr, yn cynnwys dwy mewn dosbarth newydd ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith: asesydd y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith a thiwtor y flwyddyn dysgu seiliedig ar waith.

Mae’r dosbarth hwn yn cyndabod ymroddiad, egni a brwdfrydedd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a’r rhan allweddol y maent yn ei chwarae yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau’r gweithle ac i lwyddo yn eu gyrfa a goresgyn rhwystrau oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen yn eu haddysg neu eu gwaith.

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer dysgwr y flwyddyn (ymgysylltu) a dysgwr y flwyddyn (lefel un) ac, yn y dosbarth Twf Swyddi Cymru, mae gwobr ar gyfer cyflawnydd eithriadol y flwyddyn.

Rhoddir sylw arbennig i Brentisiaethau gyda gwobrau unigol ar gyfer prentis sylfaen, prentis a phrentis uwch y flwyddyn.

Bydd busnesau bach a mawr ledled Cymru’n cael cyfle i ddod i sylw cenedlaethol gyda gwobrau ar gyfer cyflogwr bychan (1 – 49 o weithwyr), cyflogwr canolig (50 – 249 o weithwyr), cyflogwr mawr (250 – 4,999 o weithwyr) a macro-gyflogwr y flwyddyn (5,000+ o weithwyr). Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Cameron Thomas, Llaneirwg, Caerdydd a hyfforddwyd gan Sgiliau a Chyflogaeth Itec; Cassidy Rhian Jones, Bethesda a hyfforddwyd gan Grŵp Llandrillo Menai a Leon Proudlock, Henllan, Dinbych a hyfforddwyd gan Grŵp Llandrillo Menai. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Angharad Jones, y Fali, Caergybi a hyfforddwyd gan Grŵp Llandrillo Menai; Darren Watts, Tre-biwt, Caerdydd a hyfforddwyd gan ACT Limited a Rhys Pugh, Pontyberem, Llanelli a hyfforddwyd gan Goleg Sir Gâr. Twf Swyddi Cymru: Callum Jones, Pont-y-pŵl a hyfforddwyd gan Sgiliau a Chyflogaeth Itec; Marc Pugh, Llanfaredd a hyfforddwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian ac Oliver Chatfield, y Farteg, Pont-y-pŵl a hyfforddwyd gan Sgiliau a Chyflogaeth Itec.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Gwilym Bowen Rhys, Bethel, Caernarfon; Niall Perks, y Mynydd Bychan, Caerdydd a Rhys Donovan, Merthyr Tudful. Prentis y Flwyddyn: Leanne Williams, Wrecsam; Maria Brooks, Porthcawl a Michael Leach, Rhydfelin, Pontypridd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Adam Harvey, y Barri; Jamie Stenhoff, y Fflint a Matthew Edwards, Wrecsam.

Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lisa Marie Winter o Acorn Learning Solutions, Casnewydd sy’n byw yn Llanharan; Mark McDonough o Grŵp Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos; Michael Ramsden o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng sy’n byw yng Nghaerdydd a Chris Hughes o ACT Limited, Caerdydd sy’n byw yn Hengoed, Caerffili.

Cyflogwr Bychan y Flwyddyn: Crimewatch Alarms Ltd a C W Electrical, Casnewydd; Ken Picton Salon, Caerdydd ac Adran Gwasanaethau Gofal Plant PDC, Trefforest, Pontypridd. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Arthur J. Gallagher, Llantrisant; Little Inspirations, Pontyclun a Values in Care Ltd, Hengoed, Caerffili. Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Argos, BT, Dŵr Cymru Welsh Water, Treharris, Caerffili; OP Chocolates, Dowlais, Merthyr Tudful ac RWE Innogy UK, Llanidloes

More News Articles

  —