Datblygwr gwefannau talentog yn annog eraill i gystadlu yn WorldSkills y DU

Postiwyd ar gan karen.smith

David Bowen

David Bowen

Mae Llywodraeth Cymru yn annog prentisiaid, dysgwyr a gweithwyr y genedl i gystadlu yn WorldSkills UK 2016, cystadleuaeth sgiliau galwedigaethol fwyaf Prydain.

Cafodd menter i recriwtio cystadleuwyr o bob cwr o Gymru i fynd benben â rhai o bobl ifanc mwyaf dawnus Prydain ei lansio heddiw. Mae’r ymgyrch yn cynnwys detholiad o gystadleuwyr WorldSkills gan gynnwys David Bowen, datblygwr gwefannau o fri sy’n mynychu Coleg Sir Gâr ac sydd wedi ennill medal.

Ers iddo gystadlu am y tro cyntaf yn WorldSkills 2009, mae’r llanc 23 oed wedi crwydro’r byd wrth gynrychioli Cymru yng ngharfan y DU, gan ennill medalau aur ac arian yn Ffrainc ac Awstralia yn y categori dylunio gwefannau.

Mae David nawr yn gweithio fel datblygwr gwefan i Ridgeon Network Ltd yng Nghaerlŷr, ac yn parhau i weithredu fel llysgennad i gystadlaethau WorldSkills, gan hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer y cylchoedd cenedlaethol, a theithio i Tsieina fel rhan o sioe deithiol i hyrwyddo sgiliau a phrentisiaethau galwedigaethol.

Meddai David: “Mae cystadlu yn WorldSkills wedi bod yn ffordd wych o fagu hyder a rhoi hwb i’m gobeithion o gael swydd. Mae’n annhebygol iawn y byddwn i wedi llwyddo i gael y swydd sydd gen i heddiw heb y gystadleuaeth. Mae’r broses gyfan yn rhoi cyfle i chi ennill profiad a chael mantais ar ymgeiswyr eraill wrth wneud cais am swyddi.

“Mae WorldSkills wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau dylunio gwefannau, ac rwy’n defnyddio’r rhain fel rhan o’m gwaith bob dydd erbyn hyn. Mae’n anhygoel meddwl fy mod wedi teithio cymaint mor ifanc, ac rwy’n mwynhau rhannu fy ngwybodaeth a’m profiad o’r gystadleuaeth gydag eraill a’u hannog i gymryd rhan.”

Mae Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, hefyd yn annog pobl ifanc i gofrestru ar gyfer WorldSkills y DU.

Mae David yn stori lwyddiant berffaith ac yn dangos pa mor bell mae’r cystadlaethau hyn yn gallu mynd â chi. Mae cystadlaethau WorldSkills yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gystadlu yn erbyn y gorau yn eu diwydiant ar lwyfan y byd.

“Mae’n ysbrydoli pobl ifanc talentog eraill yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd mae WorldSkills yn eu cynnig gan ei fod yn rhoi’r cyfle iddyn nhw deithio’r byd, creu cysylltiadau gwych, datblygu sgiliau ac yn rhoi hwb i’w gobeithion o gael swydd.”

WorldSkills yw’r gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf yn y byd. Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd ac mae tua 1000 o bobl ifanc 18 i 25 oed yn dod at ei gilydd o bedwar ban byd i gystadlu am fedalau mewn hyd at 60 o wahanol sgiliau. Drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills y DU, mae cystadleuwyr a thiwtoriaid yn gallu rhannu arferion gorau ym meysydd prentisiaethau ac addysgu galwedigaethol, gan godi safonau ar lwyfan rhyngwladol.

Ewch i www.worldskillsuk.org am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar-lein cyn y dyddiad cau ar 7 Ebrill 2016.

More News Articles

  —