Pethe’n poethi i brentis o Gilgerran

Postiwyd ar gan karen.smith

Sam Everton

Sam Everton

Mae bachgen 17 oed o Gilgerran wedi ennill medal aur yn rownd derfynol cystadleuaeth goginio broffesiynol sy’n rhan o gystadleuaeth sgiliau genedlaethol.

Cyfres o ddigwyddiadau dan nawdd Llywodraeth Cymru yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n dathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu hyfedr ar gyfer Cymru’r dyfodol.

Gydag athletwyr Olympaidd wrthi’n ymarfer yn galed ar gyfer gemau Rio, mae Sam Everton ymhlith 78 o bobl ifanc Cymru sydd wedi hogi’u sgiliau yn y gobaith o ennill medal. Mewn pob math o alwedigaethau o ddylunio graffeg i wneud cacennau, mae’n bosib y bydd y pencampwyr medrus hyn, fel yr athletwyr Olympaidd hwythau, yn mynd ymlaen i herio cystadleuwyr o wledydd eraill maes o law.

Mae Sam yn astudio cwrs NVQ Lefel 3 Uwch Ddiploma Coginio Proffesiynol yng Ngholeg Sir Benfro ar hyn o bryd, a bu’n cystadlu yn erbyn pobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru. Yn y rownd derfynol, roedd disgwyl iddyn nhw gwblhau cyfres o heriau coginio o fewn tair awr, gan gynnwys paratoi a choginio cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin i ddau.

Dyma’r tro cyntaf i Sam gystadlu, ac roedd wrth ei fodd ar ôl ennill.

Meddai Sam: “Roeddwn i’n nerfus dros ben. Fe gawson ni fis i feddwl am fwydlenni ac ymarfer cymaint ag y gallem. I ddechrau, fe wnes i ddraenogyn y môr gyda chowder llysiau a chocos wedi’u ffrio’n ddwfn, yna brest cyw iâr sous-vide wedi’i stwffio â madarch a thryffls a ffagot afu cyw iâr ar rosti tatws. I bwdin wedyn, fe wnes i bavoir afal.

“Cawsom ein marcio mewn dwy ran – y gyntaf am waith paratoi, a oedd yn cynnwys ffiledu, bwtsiera a pharatoi llysiau, ac yna ar ein sgiliau coginio a chyflwyno. Dewisais i’r prydau hynny er mwyn dangos fy sgiliau i’r eithaf, sgiliau a ddysgais yn y coleg ac yng ngwesty’r Grosvenor yn Aberteifi, ble rwy’n gweithio’n rhan-amser.

“Dw i eisiau cwblhau lefel tri a mynd ymlaen i brifysgol i astudio gwyddor bwyd. Roedd yn brofiad anhygoel ac fe wnes i wthio fy hun i’r eithaf er mwyn paratoi bwyd o’r radd flaenaf o fewn yr amser penodedig. Dw i’n edrych ymlaen at fynd trwodd i’r cam nesaf, gobeithio, ac ymarfer yn galed er mwyn dangos i’r beirniaid beth rwy’n gallu’i wneud.”

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n rhan o Raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol gyda’r nod o hybu galluoedd sgiliau a ffyniant cyffredinol Cymru.

Wedi’i noddi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, a’u cynnal gan rwydwaith o golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith, bydd 33 o gystadlaethau sgiliau lleol yn cael eu cynnal rhwng misoedd Chwefror ac Ebrill – mewn pob math o sectorau, o wyddorau fforensig i fecaneg ceir, o ddylunio’r we i gelf ewinedd.

Hwyrach y bydd Sam yn mynd ymlaen i gynrychioli Coleg Sir Benfro yn rowndiau rhagbrofol coginio proffesiynol WorldSkills y DU, gyda’r bwriad o gynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham fis Tachwedd. Efallai y bydd yn gymwys wedyn i gystadlu am le yng ngharfan Prydain ar gyfer WorldSkills yn Abu Dhabi yn 2017.

Meddai Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg,
“Mae lefel y dalent yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i’w gweld yn gwella’n barhaus o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn ffordd wych o gydnabod y doniau anhygoel sydd gennym yn ein gwlad.

“Mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr dysgu yn y gwaith o Fôn i Fynwy eisoes yn rhan o fenter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac wedi gwneud cyfraniad anferthol wrth drefnu’r rowndiau terfynol a rhagbrofol, ond hoffem weld mwy o fusnesau Cymru yn cefnogi eu gweithwyr ifanc a’u hannog i gystadlu.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae’n cymryd tipyn o waith caled i gyrraedd y rownd derfynol, ond mae ennill y fedal aur yn gamp a hanner. Mae’n amlwg bod y cystadleuwyr i gyd yn llawn brwdfrydedd ac yn benderfynol o gael eu coroni gyda’r gorau yng Nghymru.

“Dymunwn bob lwc i Sam a’r enillwyr eraill, nid yn unig yn y rownd nesaf ond hefyd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

More News Articles

  —