Dathlu llwyddiant dysgwyr o Gymru’n bwysig, medd cadeirydd

Postiwyd ar gan karen.smith

Ethan Davies, Coleg Cambria at EuroSkills 2016

Ethan Davies, Coleg Cambria yn EuroSkills 2016

Mae cadeirydd newydd sefydliad sy’n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi canmol llwyddiant dysgwyr o Gymru a enillodd 45 o fedalau yn rownd derfynol WorldSkills UK.

Dywedodd Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ei bod yn bwysig dathlu llwyddiant a galwodd ar yr aelodau i gymryd rhan yn yr Wythnos Brentisiaethau, Diwrnod VQ, Gwobrau Prentisiaethau Cymru a chystadlaethau sgiliau ar lefel ranbarthol, lefel Gymreig a lefel Brydeinig er mwyn rhoi llwyfan i sgiliau Cymru.

Dywedodd fod gan Gymru 86 o gystadleuwyr yn rownd derfynol WorldSkills UK yn y Skills Show yn yr NEC, Birmingham, 37 ohonynt yn brentisiaid. Llongyfarchodd y Cymry ar ennill y nifer fwyaf o fedalau a Choleg Sir Gâr a Choleg Cambria am ddod yn gydradd drydydd y tu ôl i ddau goleg o’r Alban o ran nifer y medalau.

“Roedd hon yn gamp aruthrol ac yn dangos safonau uchel ac ymroddiad tiwtoriaid, dysgwyr a chyflogwyr,” meddai.

Aeth dau gystadleuydd o Gymru, Nathan Jones o Grŵp NPTC ac Ethan Davies o Electroimpact a Choleg Cambria ymlaen i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn Euroskills Gothenburg mewn Dylunio Gwefannau a Melino CNC, yn y drefn honno, rhwng 1 a 3 Rhagfyr. Bu pum cant o weithwyr ifanc medrus o 28 o wledydd yn cystadlu dros dri diwrnod mewn 35 o sgiliau i ennill gwobrau am fod y gorau yn Ewrop. Enillodd Ethan fedaliwn rhagoriaeth.

Bydd y ddau ymgeisydd yn parhau â’u taith fel rhan o Sgwad y Deyrnas Unedig, gan gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi a datblygu a fydd yn cynnwys dewis Tîm y Deyrnas Unedig cyn WorldSkills Abu Dhabi 2017.

Aeth Mrs John ymlaen i longyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro am ennill Gwobr Pearson am hyrwyddo a chyflenwi prentisiaethau llwyddiannus yn y Beacon Awards a gynhelir bob blwyddyn.

“Mae angen i ni gymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau a chystadlaethau sgiliau er mwyn rhoi llwyfan i Gymru a hoffwn annog ein holl ddarparwyr dysgu i gymryd rhan,” meddai. “Mae’n ffordd wych o ysbrydoli y timau cyflenwi, y dysgwyr a’r cyflogwyr.”

Dywedodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James, ei bod yn teimlo’n falch o gael bod yn y Skills Show i gefnogi’r ymgeiswyr o Gymru a wnaeth yn ardderchog yn y cystadlaethau.

Canmolodd agwedd Tîm Cymru, Llywodraeth Cymru, y dysgwyr, y darparwyr dysgu a’r cyflogwyr am fod pawb yn tynnu gyda’i gilydd i’r un cyfeiriad.

Dywedodd bod llwyddiant pobl ifanc ddawnus Cymru yn rownd derfynol WorldSkills UK yn glod i waith darparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau Cymru.

More News Articles

  —