NTfW yn addo helpu i lunio awdurdod newydd ar gyfer dysgu ôl-16

Postiwyd ar gan karen.smith

Sarah John, Chair NTfW

Sarah John, Cadeirydd NTfW

Mae’r NTfW wedi addo cymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi heddiw y bydd awdurdod strategol newydd yn goruchwylio sgiliau, cyllid ar gyfer gwaith ymchwil a’r sectorau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a ddywedodd fod Llywodraeth Cymru’n derbyn argymhellion adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan yr Athro Ellen Hazelkorn y llynedd. Bydd ymgynghoriad llawn yn dilyn yn y gwanwyn.

Bydd yr awdurdod newydd yn cwmpasu addysg bellach ac addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned. Bydd yn gyfrifol am waith cynllunio, cyllido, contractio, sicrhau ansawdd a monitro ariannol ac ef fydd prif ariannwr gwaith ymchwil.

Bydd swyddogaethau presennol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael eu trosglwyddo i’r awdurdod newydd a fydd yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd adroddiad Hazelkorn ym mis Mawrth 2016 ac awgrymodd:

  • Y dylid sefydlu un awdurdod i reoleiddio, goruchwylio a chydlynu y sector addysg ôl-orfodol.
  • Y bydd y corff newydd yn gyfrifol am ariannu’r ddarpariaeth ar bob lefel, gan sicrhau ansawdd ac mai ef fydd prif ariannwr gwaith ymchwil.
  • Y dylid gwneud anghenion dysgwyr yn ganolog i’r system addysg gan sefydlu llwybrau dysgu a llwybrau gyrfa clir a hyblyg.
  • Y dylid rhoi yr un gwerth ar lwybrau galwedigaethol ac academaidd a’r un gefnogaeth iddynt, a bod angen gwella’r cysylltiadau rhwng cymwysterau a’r farchnad lafur.

Dywedodd cadeirydd NTfW, Sarah John: “Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad ac yn edrych ymlaen at drafod gyda chyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith er mwyn sicrhau ymateb cynhwysfawr i helpu Llywodraeth Cymru a rhoi gwybodaeth iddynt am strwythur yr awdurdod newydd hwn.

“Rydym ni fel rhwydwaith wedi rhoi lle canolog i’r dysgwyr yn y ddarpariaeth erioed ac wedi cynnig cefnogaeth un-i-un yn y gweithle. Ein nod o hyd yw sicrhau bod dysgwyr sy’n dilyn llwybrau galwedigaethol a rhai sy’n dilyn llwybrau academaidd yn cael yr un parch a chyfleoedd cyfartal.

“Mae rhwydwaith yr NTfW yn ymfalchïo ei fod yn darparu addysg a hyfforddiant ôl-16 sy’n diwallu anghenion economi Cymru. Rydym wedi cefnogi’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i helpu’r economi i wella ac rydym yn awyddus i weld hynny’n parhau trwy’r awdurdod newydd hwn. Rydym eisoes yn gweithio ar y llwybrau dysgu, yn enwedig mewn sectorau blaenoriaeth.

“Edrychwn ymlaen at gyfrannu at greu a llunio’r corff newydd hwn er mwyn sicrhau na chaiff gwaith da a llwyddiannau’r sector dysgu seiliedig ar waith eu colli. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod prentisiaid yn dal i lwyddo a symud ymlaen gystal ag y buont.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg: “Mae’r ffiniau rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn chwalu. Mae bywyd gweithiol pobl yn para’n hirach erbyn hyn ac yn newid yn gyflym. Mae arnom angen system sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddysgu a chael y sgiliau y bydd arnynt eu hangen trwy gydol eu gyrfa. Mae hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o newid sydyn mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, a Brexit.

“Mae’r gwahanol sectorau a darparwyr yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio a’u hariannu mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol gyrff, sy’n achosi cystadleuaeth, bylchau a dryswch i ddysgwyr.

“Daeth yr Athro Hazelkorn i’r casgliad nad yw’r system bresennol yn canolbwyntio’n ddigonol ar ddysgwyr ac nad yw’n gwneud digon i sicrhau gwerth am arian. Pwysleisiodd yn ei hadroddiad bod angen i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol weithredu fel un sector.

“Rwyf wedi ystyried y cynlluniau hyn yn ofalus ac mae’r model y mae hi’n ei gynnig yn adeiladu ar elfennau sydd wedi profi eu bod yn gweithio mewn systemau addysg llwyddiannus. Rwy’n awyddus i Gymru fwynhau’r un manteision.

“Dyma gyfle i lunio system lle caiff sefydliadau o bob math eu hannog i gydweithio i ateb anghenion dysgwyr, gan roi cyfle iddynt symud ymlaen a meithrin cysylltiadau cryf gyda busnesau, gan ddarparu’r sgiliau y mae ar ein heconomi eu hangen.”

More News Articles

  —