Y Coleg a Phartneriaeth Diwydiant i ddatblygu cronfa dalent awyrenegol
Mae Grŵp Llandrillo Menai a Grŵp Rhyngwladol Babcock wedi cyhoeddi’r wythnos hon y byddant yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cronfa leol o brentisiaid awyrenegol talentog. Bydd y prentisiaid yn hyfforddi gyda Babcock yn RAF Fali ac yn astudio eu cymhwyster Peirianneg Awyrenegol yn adran Beirianneg Coleg Menai.
Mewn memorandwm o ddealltwriaeth a arwyddwyd yn gynharach y flwyddyn hon rhwng Coleg Menai a Babcock, cytunodd y ddau sefydliad i weithio gyda’i gilydd i hyfforddi 33 o beirianwyr awyrenegol dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020. Bydd y cytundeb hwn yn help i dair carfan o bobl ifanc lleol i ennill y cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Perianneg Awyrenegol.
Meddai Bethan McCrohan o Babcock, Nid oes darparwr lleol wedi cynnig y BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol yn lleol o’r blaen ac mae angen i ni gyflogi pobl gyda’r cymhwyster hwn yn y dyfodol. Drwy weithio gyda Choleg Menai rydym yn ymrwymo ein hunain i ddatblygu ffynhonnell o dalent beirianyddol addas.
Bydd y myfyrwyr sydd yn ddigon ffodus i gael eu derbyn ar y cynllun hyfforddi yn cael eu cyflogi ar gynllun Prentisiaeth Technegwyr Awyreneg cwmni Babcock. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cytundeb dwy flynedd a chyflog cystadleuol, serch hynny bydd y broses ddethol yn un caled. Bydd rhaid i’r ymgeiswyr nid yn unig ragori yn Lefel 2 Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg a Lefel 3 Diploma Atodol ym maes Perianneg bydd rhaid iddynt hefyd gwblhau cyfnod o brofiad gwaith gyda Babcock yn RAF Valley.
Meddai Dafydd Evans: Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Babcock ar y cynllun prentisiaeth gyffrous yma, nid yn unig mae’n galluogi Coleg Menai i ehangu eu darpariaeth peirianneg mae hefyd yn golygu bod hyd yn oed mwy o gyfleoedd newydd ar gael ar gyfer pobl ifanc lleol, dwyieithog i ddod yn beirianwyr o safon uchel heb orfod gadael yr ardal.
Mae ymrwymiad Babcock i ddatblygu’r cynllun newydd hwn yn newyddion gwych i Ynys Môn. Mae Coleg Menai ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddatblygu astudiaethau peirianneg er mwyn sicrhau bod gan bobl leol y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i gael gwaith gydag un o ddatblygiadau Ynys Ynni, neu yn y diwydiant peirianneg ehangach yn lleol.
More News Articles
« Dysgwyr Educ8 yn ennill gwobrau Efydd, Arian AC Aur yng Ngwobrau Gofal Cymru 2016 — Dathlu llwyddiant dysgwyr o Gymru’n bwysig, medd cadeirydd »