Gofyn i gyflogwyr Cymru gyd-fuddsoddi mewn prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James gyda’i chyd-siaradwyr (o’r chwith): sylfaenydd a chyfarwyddwr Grŵp TYF Andy Middleton, dirprwy gyfarwyddwr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru Andrew Clark a phrif weithredwr NTfW Arwyn Watkins yn y gynhadledd.

Yn ôl y darlun a baentiwyd mewn cynhadledd bwysig yn ddiweddar, mae gostyngiad mewn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn mynd i effeithio ar brentisiaethau ar gyfer pobl dros 25 oed ac mae angen i gyflogwyr gyd-fuddsoddi yn y maes.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, wrth gynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn y Celtic Manor, Casnewydd, nad oedd lefel bresennol cymorth Llywodraeth Cymru i brentisiaethau yn gynaliadwy gan fod cyllideb y Llywodraeth wedi’i chwtogi 10 y cant mewn termau real ers 2010.

“Mae’n rhaid i ni weithredu mewn ffordd gyfrifol ym maes buddsoddi mewn sgiliau. Does dim osgoi hynny,” meddai. “Mae’n rhaid mai’r ffordd fwyaf cynaliadwy ymlaen ar gyfer prentisiaethau yw i’r Llywodraeth gyfeirio’i chyllid at ei blaenoriaethau, yn enwedig pobl ifanc a rhai sy’n dilyn prentisiaeth uwch.

“Mater i’r cyflogwyr fydd camu ymlaen i helpu i dalu costau dysgu prentisiaid nad ydynt yn perthyn i grwpiau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau £2 biliwn o’r Cronfedd Strwythurol Ewropeaidd dros y chwe blynedd nesaf ac rydym yn falch iawn o wybod hynny. Bydd rhaglenni dysgu seiliedig ar waith yn dal i elwa o’r chwistrelliad ariannol hwn.

“Serch hynny, bydd yn mynd yn fwyfwy anodd dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau ar gyfer rhai nad ydynt yn perthyn i’r grwpiau blaenoriaeth. Mae’n rhaid i ni rannu’r cyfrifoldeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a’r bobl eu hunain.”

Roedd yn achos pryder i’r gynhadledd, o dan y thema ‘Adeiladu dyfodol cynaliadwy i bawb’, glywed yr economegydd, yr Athro Brian Morgan, sy’n aelod o fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn datgelu nad yw 40 y cant o gyflogwyr Cymru yn buddsoddi mewn hyfforddiant – y gwaethaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Gofynnodd tybed a ellid cyflwyno ardoll ar gwmnïau, tebyg i’r hyn a geir yn y sector adeiladu, i sicrhau bod cyflogwyr yn cyd-fuddsoddi mewn prentisiaethau.

Galwodd Arwyn Watkins, prif weithredwr NTfW, ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o gyd-fuddsoddiad fyddai’n angenrheidiol gan gyflogwyr a rhybuddiodd y gallai gohirio’r cyhoeddiad greu gwactod.

“Os nad yw symud i fodel cyd-fuddsoddi yn gynaliadwy yn y tymor byr neu ganolig, dywedwch hynny’n glir fel y gellir trafod posibiliadau eraill gyda chyflogwyr ar gyfer y sgiliau a’r canlyniadau y maen nhw’n rhoi gwerth arnynt ac yn barod i fuddsoddi ynddynt,” meddai.

“Heb fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gwyddom y bydd y rhaglenni ar gyfer dysgwyr dros 25 oed mewn trafferthion mewn rhai sectorau a gorau i gyd po gyntaf, i bawb, y cawn ni drafodaeth am hyn. Mae pawb ohonom yn cydnabod bod rhai penderfyniadau yn anodd ond mae peidio â gwneud penderfyniad o gwbl hyd yn oed yn waeth.”

Dywedodd ei bod yn rhaid i aelodau’r NTfW baratoi i symud oddi wrth raglenni anghynaliadwy a oedd yn dilyn y cyflenwad i rai sy’n dilyn y galw, gyda’r cyflogwr wrth galon y broses.

Gan fod disgwyl i fuddsoddiad Cronfa Gymdeithasol Ewrop ostwng yn y dyfodol, dywedodd wrth y gynhadledd: “Mae’n rhaid i ni fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym a dechrau gostwng lefel y cymorth ariannol fel na fydd system sgiliau Cymru fel pe bai’n syrthio dros y dibyn ar ddiwedd y daith.”

Canmolwyd darparwyr hyfforddiant gan y dirprwy weinidog am eu llwyddiant. “Yn ddi-os, mae Cymru’n arwain y ffordd ym maes sgiliau a phrentisiaethau, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond ledled Ewrop hefyd,” meddai. “Mae hyn yn digwydd trwy gyd-ymdrechion darparwyr hyfforddiant, colegau a chyflogwyr er mwyn sicrhau’r safonau gorau oll ar gyfer ein dysgwyr.”

Aeth Mr Watkins ymlaen i annog swyddogion Llywodraeth Cymru i gydweithio â’r Ffederasiwn fel mater o frys i ganfod ffyrdd o leihau’r biwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth raglenni dysgu seiliedig ar waith. “Lle nad oes angen biwrocratiaeth, dewch i gael gwared ohono fel bod yr arian y mae’r treth-dalwyr yn gweithio mor galed amdano yn cael ei wario yn y mannau lle mae’r angen mwyaf – ar y dysgwyr yn hytrach nag ar weinyddu – er mwyn gwneud dysgu seiliedig ar waith yn fwy cynaliadwy o lawer i bawb,” meddai.

Ymhlith y prif siaradwyr eraill roedd Andy Middleton, entrepreneur cymdeithasol a sylfaenydd a chyfarwyddwr Grŵp TYF, yr Arglwydd Ted Rowlands, llywydd NTfW ac Andrew Clark, dirprwy gyfarwyddwr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.

More News Articles

  —