Dweud eich dweud – Ymgynghoriad De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Roedd 2020 yn flwyddyn eithriadol o brysur a heriol. Lluniwyd tri Adroddiad ar Effaith Covid-19 gennym ac mae eu canfyddiadau’n cyfrannu at y camau y gall gwahanol sefydliadau, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, eu cymyd i helpu busnesau i ddod dros yr argyfwng presennol.

Rydym wedi ymgynghori â channoedd o fusnesau dros y misoedd diwethaf ac, er bod hyn wedi’n galluogi i gyflwyno llawer o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru, mae arnom angen rhagor! Mae wedi bod, ac mae’n dal i fod, yn gyfnod anodd iawn ac mae’n hollbwysig bod pob busnes yn cael dweud ei ddweud er mwyn i’r dystiolaeth fod yn sail i benderfyniadau ar y lefel uchaf. Os ydych chi’n fusnes yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys neu Abertawe, hoffem glywed oddi wrthych.

Yr arolwg byr hwn yw’r prif ddull a ddefnyddiwn i gyfleu’r heriau sy’n eich wynebu, unrhyw broblem ynghylch sgiliau, a pha gefnogaeth y mae arnoch ei hangen i ddod dros yr argyfwng a rhoi’r rhanbarth ar seiliau economaidd cadarn.

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud – llanwch yr holiadur a’i rannu gyda busnesau eraill!

Cliciwch yma i fynd i’r holiadur – https://www.surveymonkey.co.uk/r/YSWKCNF

Diolch i’r busnesau a’n partneriaid mewn diwydiant sydd wedi rhannu eu storïau gyda ni hyd yma. Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r llu o bartneriaid sy’n dal i gefnogi ein gwaith.

rlp.org.uk/cym/home

More News Articles

  —