Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru: Y daith tuag at wella ansawdd

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae’r daith wedi bod yn hir a throellog i bawb sy’n ymwneud â chyflenwi Dysgu Seiliedig ar Waith yng Nghymru. Rwy’n cyfeirio’n benodol at y ddwy haen allweddol o Ddysgu Seiliedig ar Waith o dan gontract i APADGOS, sef rhaglenni Adeiladu Sgiliau a Phrentisiaethau.

Ar un adeg, roedd dechrau blwyddyn galendr newydd yn bwrw cysgodion du dros y Rhwydwaith Dysgu Seiliedig ar Waith yn gyfan. Roedd hyn yn dod ar ffurf Datganiad Newyddion gan Estyn ac yna lansiad cyhoeddus Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd yn dynn wrth ei sodlau.

Rwy’n cofio cael datganiad newyddion â’r pennawd bras SAFONAU ADDYSG A HYFFORDDIANT YN GWELLA YNG NGHYMRU – ond dysgu seiliedig ar waith yn achos pryder Embargo: 11.00am Dydd Llun 23 Ionawr 2006.

Roeddwn eisoes yn rhagweld y penawdau ar newyddion BBC Cymru y noson honno a’r Western Mail a’r Daily Post drannoeth.

Roedd hwnnw’n drobwynt ar y daith. Teimlwn nad oedd dyfodol i ddysgu seiliedig ar waith gyda’r rhwydwaith cyfredol o ddarparwyr. Ar y pryd, roedd 115 o gyrff yn darparu dysgu seiliedig ar waith o dan gontract, sef 14% yn Awdurdodau Lleol, 20% yn Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a 66% yn sefydliadau annibynnol neu’n perthyn i’r Trydydd Sector.

Nôl ym mis Mawrth 2005, wrth gymryd tystiolaeth gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ynghylch Adroddiad Blynyddol 2003-2004, cafodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes wybod mai pryder mwyaf Estyn oedd safonau dysgu seiliedig ar waith. Nid oedd digon o hyfforddeion wedi ennill yr holl gymwysterau yr oedd arnynt eu hangen i gwblhau eu fframwaith cymwysterau. Roedd hyn yn gyfle i’r aelodau holi’r Prif Arolygydd yn fwy manwl ac, yn sicr, fe wnaethant fynegi pryderon am ansawdd dysgu seiliedig ar waith.

Daeth yn amlwg iawn bod angen i ni yn NTfW edrych yn fanwl ar y dystiolaeth a phenderfynu ar ddull gweithredu strategol er mwyn sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith. Yr hyn a wnaed oedd canolbwyntio’n hegni a’n hadnoddau ar lunio mecanwaith i helpu arweinwyr a rheolwyr i wella’r ansawdd. Roedd yn amlwg iawn bod angen i ni weithredu fel ffederasiwn i sicrhau safonau uchel mewn dysgu seiliedig ar waith.

Ym mis Ionawr 2006, cafodd yr Arglwydd Ted Rowlands, llywydd NTfW a minnau gyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes. Doedd hynny ddim yn dasg hawdd fel yr oedd yr hinsawdd ar y pryd ac o ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd i ni fel sector.

Yn ein cyflwyniad, roeddem pwysleisio bod NTfW yn ymwybodol o swyddogaeth a phwysigrwydd dysgu seiliedig ar waith. Soniwyd am y rhan bwysig oedd ganddo i’w chwarae er mwyn sicrhau ffyniant trwy alluogi pobl ddi-waith i gael swyddi a thrwy wella sgiliau gweithlu Cymru ar y pryd ac i’r dyfodol. Mae’r byd wedi newid yn syfrdanol ers 2006, ac mae ansawdd dysgu seiliedig ar waith wedi newid hefyd.

Fe soniwyd am ein pryder am ddelwedd dysgu seiliedig ar waith a’r canfyddiad ohono. Nid oedd, ac nid yw, dysgu galwedigaethol yn cael yr un parch â dysgu academaidd. Fe wnaethom ni gytuno i fynd ati i geisio newid y ddelwedd er mwyn denu dysgwyr galluog i ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith, gan gael cyfle i ddysgu sgiliau pwysig a, thrwy hynny, i fwynhau swyddi llwyddiannus, proffidiol a diddorol.

Felly, pa gamau a gymerwyd gennym mewn Rhwydwaith cystadleuol iawn o ddarparwyr a phawb ohonynt yn sylweddoli na ellid cadw’r status quo? Llwyddodd yr NTfW i gael arian o’r Quality Investment Fund i ddatblygu llawlyfr arferion da mewn Arwain a Rheoli ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

A minnau’n is-gadeirydd NTfW ar y pryd, cefais y dasg o sefydlu a chadeirio grŵp llywio o blith aelodau NTfW a oedd yn gallu rhannu arferion da o’u meysydd penodol nhw er mwyn llunio’r llawlyfr. Cafwyd cynrychiolaeth gan ein partneriaid APADGOS, ESTYN a Fforwm i gryfhau’r grŵp llywio. Roedd sefydlu’r bartneriaeth hon i wella ansawdd yn gam hollbwysig.

Credaf fod y llawlyfr arferion gorau a grewyd o ganlyniad i’r cam hwn gan NTfW yn un o’r prif gerrig milltir ar y daith i wella ansawdd. Roedd angen ei ddosbarthu wedyn a dangos yr arferion gorau a soniai amdanynt i’r holl ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith. Gwnaed hyn trwy gynnal sioe deithiol i bob rhan o Gymru. Credaf ein bod yn arloesi trwy rannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn Rhwydwaith cystadleuol iawn ac y bydd yr arfer hwn yn dal i ddigwydd.    

Cyfrifwyd bod yr Adolygiad o Berfformiad Darparwyr, a gyflwynwyd ar ôl ymgynghori ag NTfW yn 2005 yn ddull grymus o wella ansawdd a safonau.

Nid yw hon yn daith y gellir carlamu ar ei hyd. Yn gyntaf, mae’n rhaid penderfynu sut i deithio, pa fath o danwydd i’w ddefnyddio a phwy fydd yn gyrru. Hefyd, mae’n rhaid deall na fydd yr holl deithwyr yn cyrraedd pen y daith.

Ar hyn o bryd, rydym ar ddiwedd cylch cyfredol y Fframwaith Arolygu Cyffredin ac ar fin cychwyn ar daith newydd. Bydd hyn yn adeiladu ar y pethau gorau a gafwyd trwy rannu arferion gorau trwy gyhoeddi’r llawlyfr arferion gorau a chynnal cyfres o sioeau teithiol i rannu’r neges. Y tro hwn, Estyn sy’n arwain y gwaith o ddatblygu’r llawlyfr mewn partneriaeth â rhanddeiliaid sy’n cynnwys NTfW.

Rydym yn dal yn benderfynol o sicrhau gwelliant parhaus yn y ffederasiwn ac rydym yn ymwybodol o’r heriau sy’n ein hwynebu gyda’r agenda trawsnewid, dull newydd o sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith trwy dendro, a chyfnod o ansicrwydd economaidd.

Mae’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn gyfrifol am gyflenwi sgiliau galwedigaethol i dros 60,000 o unigolion ac mae cyfradd llwyddiant ar raglenni prentisiaeth dros 70% – cynnydd o tua 34% ers 2004/05.

Yn ein gwasanaeth ni, rydym yn cydnabod nad yr hyn yr ydym ni’n ei gyfrannu ond yr hyn y mae’r dysgwr yn ei gael ohono yw “ansawdd”. Er eich mwyn chi, y bobl, mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn. Mae’n rhaid i’r holl gyngor ac arweiniad a roddir am yrfaoedd gynnwys prentisiaethau, gan mai dyma’r llwybr a arweiniodd at fy llwyddiant i, fy ngwobr ariannol a’m bodlonrwydd llwyr yn fy ngwaith.

More News Articles

  —