Darparwyr Hyfforddiant yn Croesawu Lansio Canllaw Arferion Gorau

Postiwyd ar gan karen.smith

Lansiwyd llawlyfr arferion gorau ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru ac fe’i croesawyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru fel ffordd o sicrhau gwelliant parhaus.

Lansiwyd ‘Beth sy’n gwneud darparwr hyfforddiant da?’ gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r NTfW.

Mae’r llawlyfr yn elwa ar gyfoeth o brofiad a thystiolaeth gan Estyn i gynnig arweiniad, argymhellion ac astudiaethau achos i gyflwyno arferion da. Bydd y darllenwyr yn cael cyfle i ddilyn taith y dysgwr, o’r broses recriwtio i’r cyfnod o gyflawni a symud ymlaen yn y gwaith.

Cynhelir dwy gynhadledd ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru fis nesaf i hyrwyddo’r llawlyfr fel cymorth i ddatblygu’n barhaus a gweithredu’r arferion gorau.

Bydd Arwyn Watkins, Cadeirydd NTfW, yn ymuno ag Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru a’r Athro David Hawker, Cyfarwyddwr Cyffredinol APADGOS, sef siaradwyr allweddol y cynadleddau. Fe’u cynhelir yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd ar 28 Ebrill a Venue Cymru, Llandudno, ar 30 Ebrill.

Dywedodd Mr Watkins fod darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru hwythau wedi bod ar daith ddysgu dros y pedair blynedd flaenorol, wrth iddynt ganfod y ffordd tuag at welliannau.

Mae aelodau’r NTfW yn dysgu sgiliau galwedigaethol i dros 60,000 o unigolion yng Nghymru ac mae gan y rhaglen brentisiaethau gyfradd lwyddo o dros 70 y cant erbyn hyn o’i gymharu â 34 y cant yn 2004-’05.

“Rydym yn dal yn benderfynol o sicrhau gwelliant parhaus yn y ffederasiwn ac rydym yn ymwybodol o’r heriau sy’n ein hwynebu gydag agenda trawsnewid Llywodraeth Cynulliad Cymru, dull newydd o sicrhau dyfodol dysgu seiliedig ar waith trwy dendro, mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd,” meddai Mr Watkins.

“Yn ein gwasanaeth ni, rydym yn cydnabod nad yr hyn yr ydym ni’n ei gyfrannu ond yr hyn y mae’r dysgwr yn ei gael ohono yw “ansawdd”. Er mwyn y cyhoedd, mae’n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn a sicrhau bod yr holl gyngor ac arweiniad a roddir am yrfaoedd yn cynnwys prentisiaethau fel llwybr tuag at lwyddiant, lles ariannol a bodlonrwydd yn y gwaith.”

Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru: “Mae ‘na elfennau sy’n allweddol i bawb sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith er mwyn sicrhau safon ac ansawdd eu gwaith. Mae hunanasesu trwyadl i hybu gwelliant, partneriaethau cryf i feithrin cyfleoedd dysgu, ac amgylchedd dysgu dwyieithog yn hanfodol er mwyn codi safonau i’r lefel nesaf.

“Rydym am annog pawb sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith i ddefnyddio’r llawlyfr hwn i feincnodi ansawdd eu darpariaeth.”

Mae 90 o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd ledled Cymru yn aelodau o’r NTfW. Maent yn gweithio dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwerth £121 miliwn o raglenni dysgu seiliedig ar waith o allan o ddyraniad o £127 miliwn. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys darparwyr hyfforddiant o’r sector annibynnol, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, elusennau a’r sector gwirfoddol.

More News Articles

  —