Ar 24 Hydref 2016, roedd yn bleser gan Educ8 gefnogi ‘Oscars’ maes Gofal Cymdeithasol mewn noson fawreddog yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. A ninnau’n un o noddwyr yr achlysur, roeddem yn falch iawn o gael ein cysylltu â dathliad mor deimladwy ac ysbrydoledig wrth ddathlu llwyddiannau niferus un o sectorau pwysicaf Cymru – Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Rebecca Evans, yn bresennol yn y seremoni i gydnabod ymroddiad a sgiliau’r gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Galwodd y Gweinidog am godi cyflogau yn y sector lle bu’r tâl yn isel ar hyd y blynyddoedd ac am fwy o fuddsoddi mewn meithrin sgiliau a hyfforddiant i’r gweithwyr.
Cyflwynwyd 15 o brif wobrau a phedair gwobr arbennig ar y noson, yn cynnwys y Wobr Urddas mewn Gofal, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd rhai o weithwyr Educ8 yno i ymuno yn y dathlu ac roeddem wrth ein bodd o gael llongyfarch tri o’n dysgwyr sy’n gwneud Prentisiaeth neu Brentisiaeth Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac a enillodd wobrau ar y noson; Angela Rees o Integra Community Living Options a enillodd wobr Efydd yn y dosbarth Nyrs y Flwyddyn; Helen Beecham o Care Inn, Cartref Gofal Plasgeller a gafodd y wobr Arian yn y dosbarth Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gwasanaethau Gofal Preswyl; ac, yn olaf, Andreea Schiopu o Gartref Gofal Mill View, Silvercrest Care, a enillodd y wobr AUR am Ragoriaeth mewn Gofal Lliniarol a Diwedd Oes gyda’i stori ysbrydoledig; llwyddiant rhyfeddol iddi hi a’r sefydliad.
Fe gawsom ni amser ardderchog yn y noson wobrwyo ac roedd yn anrhydedd cael bod yn rhan o’r achlysur; rydym eisoes wedi addo nawdd ychwanegol i ddigwyddiad 2017 ac edrychwn ymlaen at annog rhagor o’n dysgwyr a’n cyflogwyr i ymgeisio am wobr.