Cryfhau Cydweithredu a Dwyieithrwydd mewn Addysg yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Anne Lewis, Interim Chief Executive, Agored Cymru; Alan Woods, Chief Executive, VTCT; Meri Huws, Welsh Language Commissioner.

Anne Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro, Agored Cymru; Alan Woods, Prif Weithredwr, VTCT; Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Partneriaeth newydd i gryfhau hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru

Mae Agored Cymru, y corff dyfarnu blaenllaw yng Nghymru, wedi lansio partneriaeth newydd gyda sefydliad dyfarnu VTCT er mwyn hyrwyddo cyfleoedd addysgol ehangach ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.

Wrth ymateb i ddatblygiadau addysg diweddar, sy’n rhoi mwy o bwyslais ar brentisiaethau a chymwysterau sgiliau a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011[1], bydd y ddau sefydliad yn cydweithredu er mwyn cynnig dull ‘integredig’ ar gyfer eu canolfannau.

Bydd cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru gan Agored Cymru yn gysylltiedig â chymwysterau galwedigaethol VTCT. Bydd y sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd yn ogystal i ehangu’r cyfleoedd ar gyfer asesu dwyieithog, menter y mae Agored Cymru eisoes yn cyfranogi ynddi drwy fuddsoddi mewn datblygu cymwysterau yn yr iaith Gymraeg.

Wrth siarad yn y digwyddiad lansio yng Ngholeg y Cymoedd i ddathlu’r cydweithrediad hwn, cafodd y bartneriaeth newydd hon a fydd yn darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgwyr dwyieithog yng Nghymru ei llongyfarch gan Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

“Mae’r ddeddfwriaeth yn creu mwy o hawliau ar gyfer pobl Cymru i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn eu bywydau bob dydd..
“Mae addysg bellach yn chwarae rhan flaenllaw mewn paratoi’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau a hyfforddi pobl i allu gweithio’n broffesiynol yn y ddwy iaith. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried yr amrediad o wasanaethau a fydd angen gweithwyr sy’n meddu ar sgiliau yn yr iaith Gymraeg, fel iechyd a gofal, chwaraeon a swyddi gweinyddol amrywiol.”

Dywedodd Anne Lewis, Prif Weithredwr Dros dro Agored Cymru: “Mae Agored Cymru wedi bod ar y blaen wrth ddarparu cymwysterau dwyieithog sydd wedi cael eu teilwra ar gyfer Cymru ers nifer o flynyddoedd.

Rydw i’n falch a chyffrous iawn ynglyn â’r bartneriaeth hon a fydd yn parhau i gryfhau ac ehangu’r mynediad at ddarpariaeth ddwyieithog, a chynyddu’r gystadleuaeth a’r dewis i ganolfannau ar gyfer dysgwyr a darparwyr drwy Gymru.”

Dywedodd Alan Woods OBE, Prif Weithredwyr VTCT: “Rydw i wrth fy modd y bydd VTCT ac Agored Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gynyddu’r dewis ar gyfer ein cwsmeriaid yng Nghymru a chryfhau ein presenoldeb yng Nghymru.

Bydd eu sgiliau arbenigol yn ein cefnogi ni drwy gynnig pecyn cyflawn o gymwysterau i gwrdd ag anghenion colegau a’u dysgwyr.”

Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd digyffelyb o ddatblygu cyfleoedd dysgu dwyieithog yng Nghymru, mae Agored Cymru yn falch o gynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol mewn amrediad eang o bynciau, o Addysg Bersonol a Chymdeithasol at Adeiladu Amlgrefft. Mae Agored Cymru yn ymrwymedig i ehangu cyfleoedd ar gyfer ddysgwyr i astudio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae pob un o’i gymwysterau ar gael trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Mae VTCT yn darparu cymwysterau i golegau a darparwyr hyfforddi preifat yng Nghymru drwy nifer o sectorau, yn cynnwys therapi harddwch, trin gwallt a gwaith barbwr, chwaraeon a hamdden egnïol, a lletygarwch.

Mae Anne Lewis yn mynd ymlaen i ddweud: “Rydym ni’n falch o fod y corff dyfarnu o ddewis ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddi yng Nghymru.

“Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu talent yng Nghymru, ar gyfer Cymru.

“Ffordd arall yn unig yw’r bartneriaeth hon inni ddangos ein hymrwymiad i Gymru, Agenda’r Iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.”

More News Articles

  —