Fforwm Ieuenctid Sir Cynwy yn cyrraedd rownd derfynol Cymru, Her Arian am Oes, Banc Lloyds

Postiwyd ar gan karen.smith

David Rowsell, pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group, yn cyflwyno tystysgrifau i aelodau o dîm Engage 2 Change.

Bu aelodau o Fforwm Ieuenctid a gefnogir gan Gyngor Sir Fynwy yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru, Her Arian am Oes y Lloyds Banking Group sy’n ceisio ysbrydoli pobl mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i feithrin gwell sgiliau rheoli arian.

Daeth y tîm Engage to Change yn agos at ennill Gwobr y Bobl. Pleidleisiau’r gynulleidfa yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ddoe (dydd Mawrth) oedd yn penderfynu ar enillydd y wobr hon.

Trefnodd y tîm ddigwyddiad lle’r oedd pobl ifanc o bob rhan o’r sir yn cael dweud eu dweud am y toriadau oedd yn wynebu’r awdurdod lleol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd y Sir, Trefynwy, ac fe gafodd y bobl ifanc wybodaeth am y toriadau. Defnyddiwyd sawl dull o alluogi pobl ifanc i ddweud eu dweud, yn cynnwys waliau graffiti. Cafodd y tîm gyfle i ddysgu sgiliau trefnu arian a gwaith tîm.

Pencampwyr Cymru oedd tîm Fashion on a Budget, criw o bobl ifanc 17-19 oed o raglen wrth-dlodi yng Nghaerdydd. Enillwyr Gwobr y Bobl oedd Broke but Beautiful o Goleg Pen-y-bont.

Roedd 11 tîm yn cystadlu yn rownd derfynol Cymru. Sefydlwyd eu prosiectau ym mis Ionawr pan gawsant grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith. Dewiswyd nhw i gyrraedd y rownd derfynol ar ôl dangos i feirniaid Her Arian am Oes bod y gallu ganddynt i wella eu sgiliau rheoli arian nhw eu hunain, a sgiliau eu ffrindiau, eu teuluoedd a hyd yn oed eu cymunedau hefyd.

Dywedodd David Rowsell, pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn y Lloyds Banking Group: “Y peth a wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid oedd angerdd yr holl dimau i ddweud wrth eraill beth yr oedden nhw wedi’i ddysgu. Mae mwy i’r rhaglen hon na chael pobl i ddysgu drostyn nhw’u hunain; mae’n rhoi pwyslais ar ddysgu pobl eraill, ymestyn i’r gymuned ac ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am reoli arian.

“Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn golygu bod y timau hyn yn cyflwyno’u hangerdd dros addysg ariannol i gymunedau ehangach am amser maith i ddod.”

Cafodd Her Arian am Oes ei chydlynu a’i chyflenwi gan ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Os hoffech ragor o wybodaeth am Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu’r dudalen Facebook, www.facebook.com/moneyforlifeuk a Twitter, www.twitter.com/moneyforlifeuk.

More News Articles

  —