Angen gwell sgiliau cyflogadwyedd ar weithwyr y dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi dysgu a phrofiad ymarferol, yn ôl y darparwr prentisiaethau Educ8

Ychydig wythnosau yn ôl cafodd prentisiaethau gryn sylw unwaith eto a’u canmol am chwarae rhan ganolog yn system sgiliau ac addysg y Deyrnas Unedig – gan y Brenin Charles ei hun y tro hwn.

Jude Holloway, rheolwr yn Educ8, gyda Zenzy Flowers, prentis, yn ei seremoni raddio.

Rheolwr Gyfarwyddwr Educ8, Jude Holloway (chwith) gyda Zenzy Flowers, prentis.

Ac yntau’n ymddangos mewn pennod arbennig o The Repair Shop cyn dod yn frenin, canmolodd y Tywysog werth sgiliau technegol a phrentisiaethau, gan ddweud: “Rwy’n gweld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud i bobl sydd â sgiliau technegol, sy’n angenrheidiol trwy’r amser. Mae’n rhoi boddhad mawr i bobl. ”

Yn y gorffennol, câi prentisiaethau eu hystyried yn ‘opsiwn ail orau’, rhywbeth ar gyfer pobl nad oedd yn ffynnu yn academaidd ac y byddai’n well iddynt gael hyfforddiant galwedigaethol yn hytrach na mynd i brifysgol neu goleg fel disgyblion oedd yn llwyddo yn yr ysgol.

Mae darparwyr fel Educ8 Training Group yn ymdrechu i chwalu’r camsyniad hwn gan bwysleisio bod prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol amhrisiadwy a chyfle i symud ymlaen yn eich gyrfa i ddysgwyr mewn amryw o sectorau.

Fel un o brif ddarparwyr prentisiaethau Prydain, mae prentisiaethau ardderchog Educ8, sydd wedi’u hariannu’n llawn, yn cynnwys cyrsiau mewn Gwasanaeth i Gwsmeriaid, TG trwy’r cwmni datrysiadau digidol Aspire 2Be, Gweinyddu Busnes, Arwain a Rheoli, Marchnata Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwallt a Harddwch, a Gofal Ceffylau ac Anifeiliaid trwy’r cwmni uchel ei barch Haddon Training.

Gwneud eich marc: yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano

Eleni, am y tro cyntaf ers dechrau cadw cofnodion, roedd mwy o swyddi gwag nag o bobl ddi-waith in y Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, mae sefydliadau’n cael trafferth llenwi swyddi gweigion, gyda 61% o fusnesau’r DU yn wynebu prinder sgiliau. Amcangyfrifir bod mynd i’r afael â’r prinder hwn yn costio cyfanswm o tua £6.1 biliwn y flwyddyn mewn costau hyfforddiant, cyflogau uwch, ffioedd recriwtio a staff dros dro. Nodwyd hefyd bod diffyg ‘sgiliau cyflogadwyedd’ ymhlith ymgeiswyr; sef sgiliau datrys problemau, cynllunio a chyfathrebu sy’n hanfodol i alluogi staff i symud ymlaen ac addasu wrth i’r gweithle ddatblygu.

Mae prifysgolion yn newid yn sgil yr adborth hwn gan gyflogwyr, gyda chyrsiau’n cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol. Serch hynny, hyd yn oed os yw graddau prifysgol yn esblygu, mae ymchwil gan y CIPD yn dangos bod dros draean (36%) o raddedigion y DU yn or-gymwys ar gyfer eu swyddi, gyda chyfran gynyddol yn cael eu caethiwo mewn swyddi sgiliau isel.

Yn ogystal, mae’r astudiaeth yn dangos bod cyfran y graddedigion mewn swyddi sgiliau isel/canolig wedi dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf, a bod graddedigion gor-gymwys yn llai bodlon yn eu swyddi a’u bywyd, eu bod yn llai brwdfrydig am eu gwaith ac yn fwy tebygol o fod eisiau rhoi’r gorau iddi, na graddedigion sydd mewn swyddi sy’n addas i’w cymwysterau.

Mae prentisiaethau’n pontio’r bwlch rhwng cyflogaeth ac astudio, ac yn mynd i’r afael â’r mater hwn trwy sicrhau bod prentisiaid yn cael y profiad a’r wybodaeth ymarferol y mae arnynt eu hangen yn eu dewis faes. Trwy gael y cyfle i roi’r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith yn syth, mae gan brentisiaid fantais a gallant symud ymlaen yn gyflym yn eu swydd gyda mwy o foddhad a gwell canlyniadau.

Mae Zenzy Flowers wedi cael sawl swydd, o ofalwr i reolwr cofrestredig, gan wneud sawl cymhwyster gydag Educ8 Training: “Rydw i wedi gweithio gydag Educ8 ers 8 mlynedd. Rydw i wedi astudio ar gyfer Lefel 2, 3, 5 a 5 Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wedi symud ymlaen i wneud yr ILM Lefel 5.

“Mae astudio ar gyfer y cymwysterau wedi bod yn wych gan ei fod wedi fy helpu i gael sawl dyrchafiad yn fy ngweithle a gweithio fy ffordd i fyny. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb hyn.”

Y ffactor mawr arall sy’n pwyso ar bob myfyriwr neu ddarpar fyfyriwr prifysgol yw’r gost: gyda ffioedd bellach tua £9,250 y flwyddyn, mae graddedigion yn eu cael eu hunain â dyled gwerth bron £30,000 a chyflog cyfartalog o £21-25,000.

Mae prentisiaethau’n cynnig llwybr gyrfa gwych i ddysgwyr: cael eich talu i ennill eich cymhwyster. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi dros £360m i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed dros y tair blynedd nesaf, caiff y cyrsiau eu hariannu’n llawn (yn dibynnu ar gymhwysedd) ac mae’r cyflogau’n gystadleuol.

Dywedodd Joe George, prentis : “Wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth Lefel 3 yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes yn ddiweddar. Roedd cael treulio amser mewn swydd a chael amser i astudio hefyd yn gweithio’n dda i mi ac mae wedi bod yn wych gallu ennill cymhwyster a chael fy nhalu ar yr un pryd. ”

Paratoi cenedlaethau’r dyfodol i lwyddo

Gyda chyflogwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau ymarferol, mae’n amlwg bod prentisiaethau’n dod yn fwyfwy poblogaidd fel llwybr i fyd gwaith, gan ganiatáu i ddysgwyr gerdded i mewn i swydd a chael effaith gadarnhaol o’r dechrau.

Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i farchnad sgiliau’r DU, a bydd penderfyniadau pobl ifanc am eu haddysg a’u gyrfa yn cael effaith fawr ar dwf y genedl.

Felly, mae’r cyngor a’r gefnogaeth a gânt yn hollbwysig, gyda rhieni, ysgolion a chynghorwyr gyrfaoedd yn chwarae rhan enfawr. Â phrentisiaethau wedi cael sêl bendith y Brenin, mae’n bryd anghofio’r stereoteipiau a mynd ati i gefnogi dysgwyr ifanc i wneud y dewis cywir drostynt eu hunain.

Dro ar ôl tro yn Educ8, mae dysgwyr yn dangos mai cymeriad – eu huchelgais a’u dycnwch – sy’n sicrhau llwyddiant mewn bywyd, nid dim ond y llwybr addysg a ddewisant.

Educ8

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —