Pobl ifanc o Wcráin yn mwynhau ymweld â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Fel rhan o Ddiwrnod Cyfoethogi arbennig, bu grŵp o ddysgwyr o Wcráin sy’n astudio gydag ACT yn crwydro’r safle treftadaeth helaeth gan gael cipolwg ar fywyd Cymru ar draws y cenedlaethau.

Myfyrwyr yn sefyll wrth gownter siop

Myfyrwyr o Wcráin yn siop Gwalia yn ystod ymweliad â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mae Diwrnodau Cyfoethogi yn rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ a ddarperir gan ACT ac maent yn rhoi cyfle i ddysgwyr gael profiadau na fyddent yn eu cael fel arfer. Trwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau y mae eu cyfoedion mwy breintiedig yn eu cymryd yn ganiataol, maent yn helpu i daclo anghydraddoldebau ac yn hwb i ddatblygu sgiliau cysylltiedig â gwaith, fel gwaith tîm a chyfathrebu.

Daeth yr Anogwr Dysgu Diana Oleksiuk gyda’r dysgwyr i Sain Ffagan. Un o Wcráin ydi hithau a ddechreuodd weithio gydag ACT ychydig fisoedd yn ôl. Dywedodd y myfyrwyr o Wcráin – sy’n dysgu Saesneg ar raglen ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) ACT – bod pawb ohonynt wedi mwynhau cael golwg ar hanes Cymru ynghanol harddwch Sain Ffagan.

Dywedodd Tamara Podolska, 16: “Roedd yna adeiladau hen iawn o bob rhan o Gymru, a oedd wedi’u tynnu’n ddarnau a’u hailadeiladu yn yr amgueddfa. Roedd yn cŵl! Ers dod i Gymru, dwi’n hoffi bod yna lawer o gestyll a pharciau hardd. Hefyd, mae yna bobl garedig!”

Dywedodd yr Anogwr Dysgu, Diana Oleksiuk, sy’n dod o ddinas Chernivtsi, yng ngorllewin Wcráin, fod y dysgwyr wedi’u swyno wrth gamu i orffennol Cymru yn yr amgueddfa. Ac meddai: “Wrth ymweld â Sain Ffagan fe wnaethon ni sylweddoli gymaint sydd gan y Cymry a phobl Wcráin yn gyffredin! Mae’r Cymry’n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn. Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac yn un i’w gofio!”

Mae Diana, sydd wedi bod yn dysgu ers dros 15 mlynedd, yn gobeithio gwahodd rhai o drigolion Cymru i Wcráin rhyw ddiwrnod, pan fydd heddwch.

Meddai: “Bydd mor braf croesawu Cymry i Wcráin, ar ôl y rhyfel, i gymharu traddodiadau a dangos sut mae pobl Wcráin yn byw. Mae’n gyfnod anodd iawn nawr, ond rwy’n meddwl ei fod hefyd yn gyfle i ddangos diwylliannau gwahanol i bobl ifanc a gwella eu sgiliau iaith.”

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yw Twf Swyddi Cymru+. Mae’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad y mae arnynt eu hangen i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Twf Swyddi Cymru+ ac mae wedi’i chynnwys yn y Warant i Bobl Ifanc. Mae’n cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

ACT Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —