Educ8 yw’r cwmni bach gorau yng Nghymru i weithio iddo yn ôl y rhestr o ‘Gwmnïau Gorau’ y DU

Postiwyd ar gan karen.smith

Best Companies 2016

Cyhoeddwyd mai Educ8, sef darparwr gwasanaethau dysgu a datblygu staff, yw’r cwmni gorau yng Nghymru i weithio iddo, yn ôl rhestr cwmnïau bach gorau y Sunday Times 2016.

Daeth Educ8 yn drydydd, yn un o ddim ond dau gwmni o Gymru sydd yn ymddangos ar y rhestr. Y llall yw cwmni yswiriant Source, sydd wedi’i leoli ym Mhenarth, a ddaeth yn rhif 45.

Mae Cwmnïau Gorau wedi bod yn creu ac yn cyhoeddi’r rhestri mawr eu parch o’r Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt ers 2001. Rhennir y cwmnïau yn bedwar categori, sef cwmnïau mawr, cwmnïau canolig, cwmnïau bach a sefydliadau dielw.

Mae mwy na 300 o sefydliadau yn cael eu cynnwys ar y rhestri, sy’n mesur ac yn cydnabod rhagoriaeth o ran ymgysylltu yn y gweithle.

Dywedodd Colin Tucker, Prif Weithredwr Educ8: “Rydym yn falch iawn mai ni yw’r cwmni bach gorau yng Nghymru i weithio iddo yn ôl y rhestr o gwmnïau gorau’r DU, a’n bod wedi cyrraedd y trydydd safle yn gyffredinol. Yn 2014, roedd y cwmni yn rhif 51 ar y rhestr, felly mae’n naid fawr i fyny i ni eleni, sy’n dystiolaeth o waith caled pawb. Rydym yn hynod falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni ac o’n pobl ni i gyd.”

Aeth aelodau staff Educ8, un o ddarparwyr prentisiaethau yn seiliedig ar waith mwyaf blaenllaw ac sy’n datblygu gyflymaf yng Nghymru, i’r noswaith gyhoeddi ym Mharc Battersea wedi i’r cwmni dderbyn y statws achrededig tair seren nodedig gan Gwmnïau Gorau am yr ail flwyddyn.

Ychwanegodd Colin: “Mae gennym genhadaeth i gael effaith gadarnhaol ar ddyfodol cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau drwy ddatblygu, galluogi ac ysbrydoli unigolion i gyrraedd eu gwir botensial. Mae’r anrhydedd hon yn profi ein bod wedi llwyddo yn hyn o beth, nid yn unig o ran ein cwsmeriaid, ond o ran ein gweithwyr hefyd.”

Dywedodd Grant Santos, rheolwr gyfarwyddwr Educ8: “Roedd yn fendigedig cael ein gwahodd i’r digwyddiad, a phan gawsom wybod pa mor uchel yr oeddem wedi dod ar y rhestr, roeddem ni i gyd yn hynod falch ac ar ben ein digon. Rydym eisiau i’n gweithwyr fwynhau eu gwaith a theimlo bod ganddynt yr holl sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu swydd hyd eithaf eu gallu.”

More News Articles

  —