Pencampwr o Gymru’n gofyn i ymgeiswyr yn yr etholiad ddangos eu cefnogaeth i brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

Elijah Sumner

Elijah Sumner

Mae Elijah Sumner, 21 oed, prentis gyda Molotec yng Nghaerdydd sydd wedi ennill medal ryngwladol, wedi gofyn i holl ymgeiswyr etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ddangos eu cefnogaeth i brentisiaethau trwy lofnodi Adduned WorldSkills UK.

TrwyTrwy lofnodi’r Adduned, bydd yr ymgeiswyr yn dangos eu bod yn ymrwymo i hyrwyddo prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir, gan sicrhau bod ganddynt sgiliau addas i helpu economi Cymru i barhau’n gystadleuol yn awr ac i’r dyfodol.

Roedd Elijah yn cynrychioli Cymru fel rhan o Team UK yn WorldSkills São Paulo 2015, sef y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd, a gynhelir bob dwy flynedd. Enillodd Fedal Ragoriaeth am gyrraedd safon oedd gyda’r gorau yn y byd mewn Technoleg Moduron.

DyweDywedodd Elijah Sumner: “Mae fy mhrentisiaeth wedi agor llawer o ddrysau i mi. Nid yn unig y galla i ddweud mai fi yw’r prentis modurol gorau yng Nghymru, ond dwi’n un o’r goreuon yn y byd. Hoffwn i weld pob person ifanc yn cael yr un cyfleoedd â mi a dyna pam dwi’n gofyn i’r holl ymgeiswyr lofnodi’r Adduned.”

Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Mae llwyddiant prentisiaid fel Elijah yn ein cystadlaethau ni wedi dangos i ni pa mor dalentog ydyn nhw. Serch hynny, dwi’n credu’n gryf bod angen gwneud mwy i ddangos i bobl ifanc, o bob cefndir, pa gyfleoedd y mae prentisiaeth yn eu cynnig iddynt o ran hyfforddiant a gyrfa. Byddwn yn cydweithio â’r rhai sy’n llofnodi’r Adduned i hyrwyddo prentisiaethau sydd gyda’r gorau yn y byd wrth bobl ifanc yng Nghymru.”

OOs hoffech anfon neges gryf bod sgiliau a chyfleoedd i bobl ifanc yn bwysig, gallwch drydar eich cefnogaeth i @worldskillsuk #skillswork

Os hoffech ragor o wybodaeth am Adduned WorldSkills UK ewch i www.worldskillsuk.org

More News Articles

  —