Penodiadau newydd yn cryfhau’r rhwydwaith darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

The NTfW’s new interim chairperson Sarah John (centre) with Kelly Edwards (left) with Humie Webbe.

Cadeirydd dros dro newydd yr NTfW, Sarah John (canol) gyda Kelly Edwards (chwith) a Humie Webbe.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled y wlad, wedi gwneud tri phenodiad newydd.

Mae Sarah John, cyfarwyddwr masnachol gyda chwmni Acorn o Gasnewydd, yn dod yn gadeirydd dros dro yn lle Peter Rees, cyn-bennaeth cynorthwyol Coleg Sir Gâr, ar ôl iddo ef ymddeol. Bydd yn parhau yn y swydd o leiaf tan gyfarfod blynyddol yr NTfW ym mis Medi.

Mae Sarah wedi bod yn gweithio ym maes dysgu seiliedig ar waith ers 22 o flynyddoedd a bu’n aelod o fwrdd yr NTfW ers dwy flynedd gan mai hi yw cadeirydd rhanbarthol De-ddwyrain Cymru.

Yr aelodau eraill sy’n cryfhau tîm yr NTfW yw Kelly Edwards, sy’n dod yn bennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith a Humie Webbe a benodwyd yn hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae gan y ddwy brofiad mawr yn eu maes arbenigol ac mae’r penodiadau’n cael eu cyd-ariannu am ddwy flynedd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Sarah John

Sarah John

Mae Sarah’n dod i’r gadair mewn cyfnod pan fo darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru’n disgwyl yn eiddgar i gael gwybod sut y bydd yr ardoll prentisiaethau, a gyflwynir gan Lywodraeth San Steffan ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, yn effeithio ar y ffordd y darperir hyfforddiant.

“Fy nhasg i fydd hyrwyddo agenda’r NTfW a sicrhau bod y rhwydwaith yn cael y newyddion diweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar yr ardoll prentisiaethau a’r newidiadau sy’n digwydd yn Lloegr, lle maen nhw’n cyflwyno prentisiaethau Trailblazer,” meddai.

“Mae angen i ni gael wybod sut y bydd yr ardoll yn effeithioi ar Gymru a phasio’r wybodaeth ymlaen i’r cyflogwyr. Fodd bynnag, mae gennym ddarparwyr contractau dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, mae rhaglenni wedi’u comisiynu ac mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir nad ydyn nhw am newid y fframweithiau prentisiaethau fel y maen nhw wedi’i wneud yn Lloegr.”

Bydd yn canolbwyntio ar “wneud y gwaith” yn ystod ei phenodiad dros dro a dywedodd fod nifer o benderfyniadau allweddol i’w gwneud cyn mis Medi a fyddai’n dylanwadu ar gyfeiriad yr NTfW i’r dyfodol.

“Rwy’n credu bod cyfleoedd gwych ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru wrth i’r rhwydwaith ganolbwyntio ar amcanion allweddol Llywodraeth newydd Cymru, sy’n cynnwys denu rhagor o gyflogwyr i gymryd rhan a recriwtio rhagor o bobl ifanc i wneud prentisiaethau,” meddai. “Mae’n bwysig ein bod yn deall beth yw anghenion economi Cymru a’n bod ni fel rhwydwaith yn ymateb i hynny.

“Mae llawer o brosiectau datblygu mawr newydd yn dod i Gymru, yn cynnwys y carchar newydd yn Wrecsam a’r Metro sy’n rhan o’r Fargen Ddinesig yng Nghaerdydd. Mae angen i’r rhwydwaith fod yn hyblyg i ymateb i anghenion cyflogwyr, gan ddefnyddio’r gyllideb brentisiaethau. Bydd cydweithio’n bwysig iawn.

“Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wrthi’n gweithio ar asesiadau cyflenwad a galw a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r NTfW a’i rwydwaith ar anghenion economi Cymru at y dyfodol ac yn helpu’r rhwydwaith i gynllunio neu newid y ddarpariaeth o ganlyniad i hynny.”

Kelly Edwards

Kelly Edwards

Cyn hyn, bu Kelly, o Bentre’r Eglwys, yn gweithio i WEA YMCA CC CYMRU am flwyddyn fel uwch swyddog ymchwil a pholisi.

Cyn hynny, bu’n gweithio i Brifysgol De Cymru am ddeng mlynedd fel uwch-ddarlithydd mewn dysgu seiliedig ar waith, swyddog datblygu dysgu a chynghorydd gyrfaoedd i raddedigion. Yn ogystal, treuliodd ddwy flynedd gyda Gyrfa Cymru fel cynghorydd yn gweithio gyda phobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

“Mae’n gyfle cyffrous i godi proffil addysg alwedigaethol,” meddai Kelly am ei swydd newydd. “Fy mhrif her yw ceisio sicrhau bod llwybrau galwedigaethol yn cael yr un parch â llwybrau academaidd.

“Y peth rwy’n ei hoffi am y swydd hon yw ei bod yn cyfuno gwaith ymchwil, polisi a chynllunio strategol gyda darparu cymwysterau. Gan Gymru mae cyfraddau llwyddiant gorau’r Deyrnas Unedig mewn prentisiaethau a fy nhasg i yw codi’r safonau eto er mwyn cynyddu lefelau sgiliau a chefnogi anghenion busnesau ledled Cymru.”

Ar ôl cael cyfarfodydd gyda’r sefydliadau sy’n dal y contract dysgu seiliedig ar waith, bydd yn paratoi cynllun gweithredu i gefnogi’r rhwydwaith darparwyr.

Humie Webbe

Humie Webbe

Mae gan Humie, sy’n byw yng Nghaerdydd, brofiad helaeth o weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Yn y flwyddyn 2000, cafodd ei chynnwys yn Power List y Western Mail fel un o’r 1,000 o bobl mwyaf dylanwadol yng Nghymru.

Symudodd rhieni Humie i Gymru o Saint Kitts yn y Caribî yn y 1950au ac mae’n ymuno â’r NTfW o Mind Cymru lle bu’n gydlynydd amrywiaeth cenedlaethol Amser i Newid, Cymru, sef yr ymgyrch i fynd i’r afael â stigma ym maes iechyd meddwl.

Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru fel rheolwr gweithredol Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Caerdydd lle’r aeth ati i sefydlu partneriaethau yn ardaloedd mwyaf amddifadus y ddinas.

Bu hefyd yn arweinydd ym maes awtistiaeth gydag All Youth Matters, sef elusen ieuenctid ym Mro Morgannwg, yn rheolwr datblygu gyda ProMo-Cymru sy’n cefnogi mentrau ieuenctid ac yn gadeirydd Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru.

Mae wrth ei bodd â cherddoriaeth a’r celfyddydau a bu’n gynghorydd cenedlaethol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn aelod o’r Grŵp Cynghori Sgiliau Creadigol a Diwylliannol.

“Yn fy swydd newydd gyda’r NTfW, byddaf yn chwilio am enghreifftiau o arferion da ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith darparwyr hyfforddiant ac yn eu rhannu trwy’r rhwydwaith cyfan,” meddai Humie. “Rwy wedi cael ymateb cadarnhaol iawn gan ddarparwyr sy’n awyddus i ehangu’r prentisiaethau a gynigir ganddynt.

“Fy nod yw dathlu’r cyfleoedd y mae prentisiaethau’n eu cynnig i bobl o wahanol gefndiroedd, yn enwedig pobl o grwpiau anabl. Rwy’n defnyddio’r rhwydweithiau rwy wedi’u hadeiladu dros y blynyddoedd ac yn defnyddio fy mhrofiad, fy ngwybodaeth a’m sgiliau ymgysylltu i wneud prentisiaethau’n fwy deniadol i bawb.

“Yn ogystal, byddaf yn gweithio gydag ysgolion a rhieni gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn y dewisiadau y mae pobl ifanc yn eu gwneud o ran gyrfa.”

More News Articles

  —