Cylchlythyr NTfW – Tachwedd 2015
Cynnwys y Cylchlythyr
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru!
Darparwyr hyfforddiant yn clywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith
Gwahodd Saith Deg Wyth o Bobl o Gymru i Rownd Derfynol Cystadleuaeth Sgiliau
Llawlyfr Arferion Da Dwyieithog
ADCDF – Dinasyddiaeth Fyd-eang
Newyddion o’r Rhanbarthau
Cwrs Ymwybyddiaeth Filwrol yn Boblogaidd!
Cynllun Prentisiaethau yn Meithrin Doniau Peirianyddol mewn Coleg
Enillwyr o Gymru yng Ngwobrau’r Diwydiant Adeiladu
Sarah yw prentis cyntaf Cymru ym maes trin a gwerthu pysgod
Busnesau o Gymru’n arwain y ffordd at Brentisiaeth Uwch gyntaf y DU mewn Bancio
Dyddiadau i’w cofio
Gwirio dyddiadau’r digwyddiadau diweddaraf
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru!
Cafodd darparwr hyfforddiant o Gaerdydd a chanolfan gwastraff ac ailgylchu o’r gogledd lwyddiant dwbl yn noson wobrwyo fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.
Roedd y seremoni wobrwyo fawreddog, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor, Casnewydd, yn ffenest siop ar gyfer llwyddiant dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu i ddatblygu sgiliau. Daeth 470 o wahoddedigion i’r seremoni, yn cynnwys 37 o bobl oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dwsin o ddosbarthiadau. Darllen mwy …
Darparwyr hyfforddiant yn clywed am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, wrth aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd, ei bod yn rhaid i bawb sy’n ymwneud â dysgu seiliedig ar waith weithredu mewn ffordd gyfrifol ac ymroddgar er mwyn gwireddu’r cynlluniau.
Cyflwynodd ei hanerchiad cynhwysfawr mewn cyfnod pryd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cyflwyno ardoll prentisiaethau ar gyflogwyr mawr. Darllen mwy …
Gwahodd Saith Deg Wyth o Bobl o Gymru i Rownd Derfynol Cystadleuaeth Sgiliau
Mae saith deg wyth o bobl o Gymru wedi’u gwahodd i The Skills Show i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth eu sector nhw. Mae’r rhan fwyaf wedi ennill eu lle trwy gystadlaethau sgiliau lleol a rhanbarthol a byddant yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK.
The Skills Show, sy’n cymryd cymaint o le â saith cae pêl-droed, yw digwyddiad mwyaf Prydain ym maes sgiliau a gyrfaoedd ac mae’n helpu i lunio dyfodol cenhedlaeth newydd. Mae’n rhoi profiadau ymarferol sy’n ysbrydoli pobl ifanc i ystyried addysg bellach, sgiliau a phrentisiaethau. Yn yr un ffordd ag yr ydym yn mawrygu ein hathletwyr, rydym yn dathlu ein sgiliau ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud eu marc mewn diwydiannau sy’n amrywio o beirianneg i ddylunio gwefannau.
Mae’n rhaid wrth sgiliau lefel uchel er mwyn i economi Cymru lwyddo ac maent yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i dyfu, datblygu a chystadlu mewn modd proffidiol. Mae The Skills Show yn gyfle i Gymru ddangos ein cefnogaeth i agenda sgiliau’r Deyrnas Unedig ac i gael ein gweld wrth galon addysg bellach, sgiliau a phrentisiaethau yn y sioe bwysig hon.
Cynhelir The Skills Show ar 19 – 21 Tachwedd yn yr NEC yn Birmingham. Dilynwch y ddolen i gael gwybod mwy ac i gadw lle am ddim – The Skills Show
Canllaw Arferion Da Dwyieithog
Lansiwyd ‘Arferion Da wrth Ddarparu Cymwysterau Galwedigaethol yn Ddwyieithog a thrwy Gyfrwng y Gymraeg’, Llawlyfr ar gyfer Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith, yng Nghynhadledd Flynyddol NTfW yn y Celtic Manor ar 29 Hydref 2015. Mae’r ddogfen yn ganllaw defnyddiol ar gyfer darparwyr DSW yng Nghymru ar sut i wneud mwy yn ddwyieithog. Mae’r ddogfen yn cyflwyno arferion da o bob rhan o Gymru o dan wahanol benawdau: Cynnwys Dysgwyr; Ymgysylltu â’r Staff; Ymgysylltu â Chyflogwyr; Arferion Da ar gyfer Sefydliadau; ac Arferion Da ar Lefel Consortiwm. Mae’r llawlyfr yn cynnwys astudiaethau achos ac adnoddau defnyddiol hefyd. Arfer Da Ar Lein
ADCDF – Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae’r digwyddiadau isod yn ddathliadau ac yn ddiwrnodau ymwybyddiaeth; mae pob un o’r digwyddiadau yn cynnwys manylion gwefannau a defnyddiau cymorth i’ch helpu i gynllunio gweithgareddau i ddysgwyr.
16-20 Tachwedd 2015 Wythnos Gwrthfwlio
Cynhelir Wythnos Gwrthfwlio 2015 rhwng 16 a 20 Tachwedd. Y thema yw “codwch dwrw am fwlio” a’r trefnwyr yw’r Anti-Bullying Alliance. Gallwch ddilyn y digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeothasol o dan #antibullyingweek.
29 Tachwedd 2015 Dechrau’r Adfent
Sul cyntaf yr Adfent yw’r Sul agosaf at Dydd Gŵyl Andreas. Dyma gychwyn y flwyddyn litwrgaidd neu’r flwyddyn eglwysig. I lawer o bobl Prydain, dyma ddechrau tymor y Nadolig.
Cwrs Ymwybyddiaeth Filwrol yn Boblogaidd!
Mae pobl ifanc sy’n ystyried ymuno â’r Lluoedd Arfog wedi ymuno â chwrs newydd Ymwybyddiaeth Filwrol yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan, gogledd Cymru.
Dyma un elfen o’r ddarpariaeth Hyfforddeiaeth Ymgysylltu a gynigir gan North Wales Training lle mae pobl ifanc yn cael cyfle i ganfod ai dyma’r yrfa orau iddyn nhw. Maent yn cael iwnifform am ddim ac yn gorfod gofalu amdani. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau sy’n eu cadw rhag cael dilyn gyrfa o’u dewis.
Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys ffitrwydd corfforol, hyder a sgiliau gwaith tîm. Cynhelir gweithgareddau ymarferol sy’n talu sylw i’w hanghenion unigol i’w helpu i oresgyn y rhwystrau.
Ar ddiwrnod arferol, cynhelir parêd gydag archwiliad i sicrhau eu bod wedi glanhau a smwddio eu hiwnifform ac wedyn efallai y bydd sesiwn gwaith tîm gyda gwahanol dasgau, gyda chasgenni a phlanciau dros bob man! Ar ôl cinio, bydd cyfle i ystyried gwahanol yrfaoedd yn y lluoedd arfog – pethau fel gyrrwr, plymer, trydanwr, meddyg. Gan fod dros 200 o wahanol fathau o swyddi ym Myddin Prydain yn unig, mae angen gofalu eu bod yn gwneud y dewis cywir.
Yna, mae’r dysgwyr yn newid i siorts, crys T a threnars ar gyfer sesiwn ymarfer corff. Caiff y dysgwyr eu hasesu ar y dechrau a chaiff cynllun ffitrwydd ei drefnu i’w paratoi ar gyfer y profion dewis.
Yn ogystal â’r hyfforddiant i’w paratoi ar gyfer bywyd milwrol, mae’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol a digwyddiadau codi arian. Maent yn dysgu hunanddisgyblaeth, sgiliau cyfweliad a sgiliau cyflwyno ac yn cael cyflwyniad i sut i fod yn arweinydd.
Mae North Wales Training yn cydweithio’n agos â Swyddfa Gyrfaoedd y Lluoedd Arfog ac yn cefnogi’r dysgwr ar hyd y daith. Os bydd yn penderfynu nad yw am ddilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, caiff gynnig lle ar ein rhaglen Aspire i’w helpu i benderfynu ar yrfa addas arall neu le mewn addysg bellach lle bydd y sgiliau a’r profiadau a gafodd ar y cwrs yn siwr o fod o gymorth.
Cynllun Prentisiaethau yn Meithrin Doniau Peirianyddol mewn Coleg
Mae asiantaeth cyflogi prentisiaid yn parhau i brofi mai gyda phrofiad gwaith a hyfforddiant ffurfiol yw’r ffordd orau i bobl ifanc sicrhau mynediad diogel i ddiwydiannau penodol.
Cafwyd Cwmni Prentis Menai ei sefydlu yn 2010 gan Goleg Menai, ac mae’n profi bod swyddi o ansawdd uchel ar gael gyda’r sgiliau cywir.
Dychwelodd saith cyn prentis i’r coleg i gyfarfod bwrdd cyfarwyddwyr Cwmni Prentis Menai i dderbyn eu tystysgrifau ar ôl cwblhau’r hyfforddiant prentisiaeth yn llwyddiannus.
Cafodd Iwan Torr, James Ross, Carwyn Griffith, Nicolas Jones, Rhys Hughes, Osian Jones, Dafydd Owen and Jason Butcher gyflogaeth yn y sector peirianneg ar ôl cwblhau eu prentisiaeth gyda chwmnïau megis Babcock International, GIG, Rheilffordd yr Wyddfa ac Wylfa.
Dywedodd Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Llandrillo a Chyfarwyddwr Cwmni Prentis Menai: “Mae cael bod yma’n brofiad gwych. Dyma saith fachgen lleol sydd wedi llwyddo cael swyddi da gyda gobeithion uchel, ac mae hyn yn crynhoi gweledigaeth Cwmni Prentis Menai – sicrhau bod pobl ifanc lleol yn derbyn y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i gymryd mantais o gyfleoedd gwaith sy’n gofyn am sgil penodol.” Darllen mwy …
Enillwyr o Gymru yng Ngwobrau’r Diwydiant Adeiladu
Mae prentisiaid a chwmnïau adeiladu o Gymru yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Prentisiaethau Asiantaethau Rheoli Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), a gynhaliwyd yn y Plaisterers Hall yng nghanol Llundain.
Enwyd cwmni Redrow o Sir y Fflint yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn ac enillodd cwmni T Richard Jones (Betws) Ltd wobr Cyflogwr BBaChau y Flwyddyn, Cymru, a’r wobr i gydnabod llwyddiant ledled Prydain.
Aeth gwobr Prentis y Flwyddyn, Cymru i Ronia Griffiths, Peiriannydd Sifil dan hyfforddiant sy’n gweithio gydag Alun Griffiths Ltd o’r Fenni.
Ar ôl cael ei gwobr, dywedodd Ronia: “Mae’n fraint ennill y wobr hon. Roedd cael fy enwebu’n wych ond mae ennill yn ffantastig! Mae fy mhrentisiaeth wedi dysgu cymaint i mi ac wedi rhoi hwb mawr i fy hyder. Roedd yn dda cael cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu set o sgiliau a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried cychwyn prentisiaeth i roi cynnig arni. Hoffwn i ddiolch i bawb yn CITB ac yn Alun Griffiths Ltd am eu holl gymorth.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB yng Nghymru, Mark Bodger:
“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr o Gymru. Mae amrywiaeth y sefydliadau a anrhydeddwyd yn dangos pa mor amrywiol yw’r diwydiant adeiladu yng Nghymru – o fusnesau teuluol i gwmnïau adeiladu mawr. Mae’n wych gweld pob rhan o’r diwydiant yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo.”
“Llongyfarchiadau mawr i Ronia Griffiths am ennill gwobr Prentis y Flwyddyn, Cymru. Mae Ronia yn esiampl ardderchog a hoffwn ddymuno llwyddiant iddi yn y dyfodol yn y diwydiant adeiladu.”
Mae Gwobrau Prentisiaethau Asiantaethau Rheoli’r CITB yn dathlu llwyddiant prentsisiaid y CITB a’r cyflogwyr sy’n helpu’r CITB i’w darparu. Cyflwynwyd y gwobrau gan Brif Weithredwr CITB, Adrian Belton.
Sarah yw prentis cyntaf Cymru ym maes trin a gwerthu pysgod
Mae dynes a roddodd y gorau i swydd yn gwerthu hysbysebion ar gyfer papur newydd y Glasgow Herald i ddechrau ei busnes ei hun yng Nghymru wedi cael ei disgrifio fel “enghraifft wych o werthu pysgod ar ei orau yng Nghymru”.
Sarah O’Connor, sy’n rhedeg The Fabulous Fish Company yng Nghanolfan Arddio Cas-gwent yng Nghas-gwent, yw’r gwerthwr pysgod cyntaf yng Nghymru i gwblhau prentisiaeth sylfaen mewn Sgiliau Pysgod a Physgod Cregyn.
Mae’r brentisiaeth yn rhan o fframwaith cenedlaethol Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, a chafodd ei darparu gan y darparwr dysgu yn y gwaith Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, sydd wedi ennill gwobrau.
Yn daer am newid gyrfa, deffrodd Sarah un bore yn y ddinas a oedd yn gartref iddi, Glasgow, a phenderfynu ei bod eisiau gwerthu pysgod. Ar unwaith dechreuodd geisio darganfod sut i wireddu ei breuddwyd. Darllen mwy …
Busnesau o Gymru’n arwain y ffordd at Brentisiaeth Uwch gyntaf y DU mewn Bancio
Mae dau fusnes uchel eu parch o Gymru yn dathlu llwyddiant chwech o brentisiaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn cwblhau Prentisiaeth Uwch mewn Bancio – Lefel 4; y gyntaf ym Mhrydain.
Daeth cwmni Acorn o Gasnewydd, un o brif asiantaethau recriwtio a hyfforddi arbenigol y Deyrnas Unedig, a Chymdeithas Adeiladu’r Principality ac ei gilydd i greu rhaglen brentisiaethau bwrpasol.
Bu chwech o reolwyr y Principality a enwebwyd gan uwch-reolwyr ac adran adnoddau dynol y gymdeithas adeiladu yn gweithio ar y ddiploma dros 18 mis.
Trwy hyn, roedd y myfyrwyr yn gallu esbonio ffactorau allweddol ym meysydd deddfwriaeth, rheoliadau a risg sy’n berthnasol i wasanaethau ariannol manwerthu ac yn gallu deall goblygiadau a dulliau gweithredu bancio manwerthu.
Y prentisiaid a enillodd y cymhwyster, a achredir gan y Sefydliad Gwasanaethau Ariannol, yw Andrew McGill, o’r Coed-duon, Ceri Thomas, o Gaerffili, Laura Palmer, o Henffordd, Carrie Ann Morris, o Groesoswallt, a Maria Vidler ac Andrew Gay, y ddau o Gaerdydd.
I gydnabod eu llwyddiant, llongyfarchwyd y prentisiaid i gyd gan Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ac AC Gorllewin Abertawe, mewn dathliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Dywedodd Julie James: “Mae llwyddiant y dysgwyr hyn yn dystiolaeth o waith caled pawb sy’n gysylltiedig â’r fenter gydag Acorn a Chymdeithas Adeiladu Principality. Trwy gydweithio, y ddau gwmni Cymreig hyn yw’r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig y Brentisiaeth Uwch, Lefel 4, hon. Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru ac yn cadarnhau bod gan Brentisiaethau le pwysig yn y diwydiant ariannol.”
Dywedodd Helena Williams, cyfarwyddwr datblygu corfforaethol Acorn: “Rydym wrth ein bodd â llwyddiant ein prentisiaid bancio.
“Rydym wedi cydweithio â’r Principality ar brentisiaethau ers sawl blwyddyn, gan ddarparu prentisiaethau sylfaen Lefel 2 a phrentisiaethau Lefel 3 ac felly, pan glywsom fod prentisiaeth uwch, Lefel 4, mewn bancio ar gael, y peth naturiol i’w wneud oedd ei threialu gyda nhw.
“Gweithiodd pawb yn galed iawn i lunio model cyflenwi o gwmpas y safonau cenedlaethol ac i sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn fuddiol i bawb.
“Gwnaeth y prentisiaid eu gorau glas i sicrhau eu bod yn cwblhau’r cymhwyster ac fe gawsant gefnogaeth eithriadol gan yr uwch-reolwyr a’r cyfarwyddwyr. Fe wnaeth y gymdeithas adeiladu ymroi yn llwyr i ddatblygu eu pobl gan ddefnyddio prentisiaethau a dyna un o’r prif resymau pam mai ni yw’r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael y llwyddiant hwn.”
Dyddiadau i’ch Dyddiadur
19 – 21 Tachwedd 2015
The Skills Show – NEC Birmingham
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
14 – 18 Mawrth 2016
Wythnos Prentisiaethau
Iaith Gymraeg/Diwylliant Cymreig
31 Rhagfer 2015
Mari Llwyd – Taith Cerdded y Flwyddyn Newydd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
25 Ionawr 2016
Diwrnod Santes Dwynwen
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
21 Chwefror 2016
Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
1 Mawrth 2016
Dydd Gŵyl Dewi
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
I gael gwybod rhagor am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill yng Nghymru, ewch i’r wefan hon:
http://www.visitwales.com/things-to-do/whats-on
Yn ôl i’r brig»
[TABLE=14]
More News Articles
« EE yn derbyn gwobr genedlaethol ar ôl i’w raglen brentisiaeth roi hwb i sgiliau a’r gyfradd cadw staff — Llwyddiant dwbl ar gyfer darparwr hyfforddiant o Gaerdydd yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru »