Elen, y Llysgennad Prentisiaethau, yn teimlo galwad i ofalu

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Elen Lewis yn datblygu gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, diolch i Brentisiaeth Sylfaen ddwyieithog yng Nghartref Gofal Blaenmarlais, Arberth.

Elen Lewis standing outside the care home in her uniform.

Elen Lewis sy’n Brentis.

Mae Elen, 19, sy’n byw yn Arberth, yn teimlo galwad i ofalu a gallai ystyried hyfforddi i fod yn nyrs mewn ysbyty yn y dyfodol.

Gan ei bod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae Elen wedi’i phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Dechreuodd weithio yng Nghartref Gofal Blaenmarlais 18 mis yn ôl, ar ôl dilyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro. Ar hyn o bryd, mae’n gwneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy City & Guilds, wedi’i gyflenwi gan yr un coleg, ac mae’n gobeithio symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3.

Mae Elen yn hapus i siarad Cymraeg a Saesneg er mwyn gwella ei sgiliau iaith ac meddai: “Rwy’n cael boddhad mawr yn fy swydd, yn gofalu am ein preswylwyr ac yn dod i’w nabod. Mae rhai ohonyn nhw’n mwynhau cael sgwrs yn Gymraeg.”

Mae’n falch o fod yn Llysgennad Prentisiaethau oherwydd, meddai, mae’n rhoi cyfle iddi hybu’r Gymraeg: “Mae prentisiaethau’n dda gan eu bod nhw’n rhoi cyfle i bobl ennill cyflog wrth ddysgu. Dyna un o’r prif resymau pam nad oedd gen i ddiddordeb mewn mynd i’r brifysgol.

“Mae prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn rhoi cyfle i ddysgu yn eich dewis iaith ac maen nhw’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, sy’n bwysig.

“Rydyn ni wedi siarad Cymraeg yn fy nheulu i ers cenedlaethau. Mae’n iaith unigryw i’n gwlad ni a dylid ei gwarchod. Mae’n fonws go iawn pan fyddwch chi’n cael swydd sy’n rhoi cyfle i chi siarad Cymraeg a Saesneg.”

Helen Hill yw dirprwy reolwr Cartref Gofal Blaenmarlais, sydd â 22 o breswylwyr a 30 o staff, yn cynnwys pedwar prentis. Er mai dim ond dau o’r preswylwyr sy’n siarad Cymraeg, mae’n credu ei bod yn bwysig iddyn nhw gael sgwrsio yn eu dewis iaith.

“Rŷn ni’n hoffi rhoi’r cyfle i’n staff wneud prentisiaethau dwyieithog os ydyn nhw’n dymuno,” meddai. “Rwy’n un o bum aelod o’r staff sy’n siarad Cymraeg ac rwy’n falch o’r iaith ac o fy nhreftadaeth.”

Mae Janice Morgan, swyddog datblygu’r Gymraeg yng Ngholeg Sir Benfro, wedi cymryd rôl ychwanegol fel tiwtor cefnogi dwyieithrwydd, a ariennir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae Elen yn Llysgennad Prentisiaethau rhagorol ac mae’n llawn sylweddoli pwysigrwydd defnyddio ei sgiliau Cymraeg yn y gwaith wrth siarad â phreswylwyr a staff yn eu hiaith gyntaf,” meddai.

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru https://gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

pembrokeshire.ac.uk

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —