Elliot yn trawsnewid ei fywyd ac ar y rhestr fer ar gyfer gwobr flaenllaw
Mae Elliot Stephens wedi trawsnewid ei fywyd gyda chymorth Coleg QS a’r busnes yng Nghasnewydd, AM Plastering.
Gadawodd y bachgen 18 oed yr ysgol heb lawer o gymwysterau, ymunodd â chriw gwael ac roedd dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid pan ddechreuodd yng Ngholeg QS, sydd wedi ei leoli yng Nghwmbrân. Bellach, mae ei daith ddysgu yn golygu y gallai ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.
Mae Elliot yn un o dri ar y rhestr fer yng nghategori Dysgwr y Flwyddyn Hyfforddeiaeth Lefel Un yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, 29 Hydref.
Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.
Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Yn flaenorol, roedd Elliot wedi gweithio gyda darparwr hyfforddiant, yn mynd ar leoliadau mewn ceginau yn KFC a Thai Bron Afon cyn iddo benderfynu ei fod eisiau mynd ar raglen adeiladu Coleg QS.
Bellach mae ganddo gasgliad o gymwysterau adeiladu Lefel 1 yn ei focs offer sydd wedi arwain at waith amser llawn gydag AM Plastering a Phrentisiaeth Sylfaen mewn gwaith plastro.
Dangosodd pa mor benderfynol oedd i lwyddo ar ei leoliad gwaith trwy wneud pedair taith ar fws bob dydd o Gwmbrân i Gasnewydd, lle dangosodd ei sgiliau cynyddol i benaethiaid ei leoliad gwaith yn AM Plastering.
Dywedodd Rhianna Noyes, o Goleg QS: “Mae Elliot wedi defnyddio dysgu seiliedig ar waith i’w lawn botensial. Mae ef yn personoli diben rhaglen Hyfforddeiaeth.”
Dywedodd Elliot: “Rwyf wedi rhoi’r gorffennol y tu cefn i mi a hoffwn ddiolch i Goleg QS ac AM Plastering am roi’r cyfle i mi ddangos sut y gallwn newid. Mae fy hyder wedi cynyddu wrth iddyn nhw gredu ynof i.”
Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Elliot a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.
“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”
More News Articles
« Canu i’r wal yn eiliad arwyddocaol i’r ymgeisydd terfynol Tamsin — Ymgeisydd terfynol gwobr dysgwr, Louis, yn edrych ymlaen at yrfa yn y Fyddin »