Ymgeisydd terfynol gwobr dysgwr, Louis, yn edrych ymlaen at yrfa yn y Fyddin

Postiwyd ar gan karen.smith

Louis Bowen, looking forward to an Army career.

Louis Bowen, looking forward to an Army career.

Mae gan Louis Bowen lawer i ddiolch i’r Coleg Paratoi Milwrol amdano. Mynychodd y bachgen 17 oed o Sain Tathan, a oedd wedi bod eisiau ymuno â’r Fyddin erioed, y coleg a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr – rhan o MPCT (Hyfforddiant Paratoi Ysgogiadol Coleg) – ar ôl i flynyddoedd o gael ei fwlio yn yr ysgol am fod dros bwysau, ei adael yn dioddef o iselder ac yn tangyflawni.

Ond mewn blwyddyn, mae bywyd Louis wedi ei drawsnewid ac mae bellach yng Ngholeg Sylfaen y Fyddin yn Harrogate yn gwneud hyfforddiant sylfaenol milwr cyn symud i grefft gyda’r Logisteg Brenhinol.

Yn sgil ei daith ddysgu, gallai ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Mae’n un o dri ar y rhestr fer yng nghategori Dysgwr y Flwyddyn Hyfforddeiaeth Lefel Un yn y seremoni proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau 29 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn y coleg, cyflawnodd Louis Dystysgrif BTEC Lefel 1 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymhwyso a Chyfathrebu. Ond yn fwy na hynny, cynyddodd ei hyder, wrth iddo gyflwyno araith dystiolaethol bum munud i 300 o westeion, gweithio fel rhan o dîm i godi arian ar gyfer y gymuned leol a datblygu sgiliau i lenwi ei ffurflen gais i’r Fyddin.

Fe wnaeth hyn hefyd ei ysgogi i ddatblygu ei ffitrwydd, gan golli tair stôn mewn pwysau. Cymerodd ei hyfforddiant 1.5 milltir cyntaf 15 munud ac 20 eiliad. Erbyn hyn, mae bum munud yn gyflymach.

Dywedodd prif hyfforddwr y Coleg Paratoi Milwrol Steve Tallis: “Mae Louis yn enghraifft wych o’r ffordd y gall gwaith caled ac ymroddiad dalu ar ei ganfed. Ers iddo ymuno â’r Fyddin, mae wedi dychwelyd yn ystod pob cyfnod i ffwrdd i roi cyngor i fyfyrwyr.”

Dywedodd Louis: “Roeddwn yn rhan o goleg rhagorol a ddarparodd yr holl offer oedd eu hangen arnaf i gyflawni fy nodau. Roedd bwlio wedi rhoi ergyd i’m hyder ond rhoddodd hefyd y cryfder i mi lwyddo. Roedd y coleg yn teimlo fel teulu.”

Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Louis a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.

“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”

More News Articles

  —