Enwi’r Rhai sydd yn Rownd Derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae 36 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fawr Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae’r Gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sy’n ymwneud â chyflenwi prentisiaethau a mathau eraill o raglenni dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

Disgwylir y bydd dros 250 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg alwedigaethol a hyfforddiant ledled Cymru yn bresennol yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Wener, 18 Hydref.

Nod Gwobrau Prentisiaethau Cymru yw dathlu ac amlygu llwyddiant y rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, ac ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Maent yn cydnabod cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau ac i gefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Yn ogystal, mae’r Gwobrau’n ffordd wych o werthuso gwaith hyfforddi a datblygu, ac o ysgogi unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Meddai Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr â safon a nifer y ceisiadau gan fusnesau a darparwyr.

“Mae’r holl geisiadau yn cadarnhau gwerth prentisiaethau ac yn tynnu sylw at yr hyn y mae prentisiaid dawnus a medrus wedi’i gyflawni, yn ogystal ag ymrwymiad busnesau Cymru i’w gweithlu.

“Prentisiaethau yw’r safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol i bobl ifanc uchelgeisiol. Maent yn ffordd o wella’u sgiliau a hybu eu brwdfrydedd gan helpu cwmni i dyfu. Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddilyn prentisiaethau ac yn sicrhau ein bod yn cefnogi cyflogwyr sy’n dymuno cymryd rhagor o brentisiaid.”

Eleni, mae 13 o wahanol ddosbarthiadau yn y Gwobrau, ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu, gyda dosbarth newydd ar gyfer yr un sydd wedi cyflawni fwyaf ar raglen Twf Swyddi Cymru.

Dyma’r rhai sydd yn y rownd derfynol: Cyflogwr Bychan y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Maes Manor Hotel, y Coed-duon; Spirit Hair Team, Ystrad Mynach ac Amgueddfa Stori Caerdydd, Caerdydd. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (hyd at 5,000 o weithwyr): Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun; G. E. Aviation, Nantgarw a Mabey Bridge Limited, Cas-gwent. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (dros 5,000 o weithwyr): Airbus Operations Ltd, Brychdyn; BT, Caerdydd a Chyngor Sir y Fflint, yr Wyddgrug.

Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: ISA Training, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr; Consortiwm Sgiliau Canolbarth a Gogledd Cymru, Wrecsam a Vocational Skills Partnership (Wales) Ltd, Abercynon. Gwobr i Ddarparwr am Ymatebolrwydd Cymdeithasol: Acorn Learning Solutions, Casnewydd a Chonsortiwm Sgiliau Canolbarth a Gogledd Cymru, Wrecsam.

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Paula Blundell, Ysgol Mynydd Isa, yr Wyddgrug; Joshua Jenkins, DRB Group, Cei Connah ac Ashley Jones, R. J. Auto Centre, Llanelli. Prentis Entrepreneuraidd a Phrentis y Flwyddyn: Emma Brooks, Jolly Tots Nursery, Llandrindod; April Fay Davies, Common Piece Farm and Dairy Dreams, yr Ystog; Aron Wyn Jones, Rehau Ltd, Blaenau Ffestiniog, a Nicholas Petrakis, Nickymichaels, Caerdydd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Alex Birbeck a Daniel Holland, y ddau o Airbus UK, Brychdyn ac Ann Roberts, Hafod Care Association, Cwmbrân.

Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Cymryd Rhan): Dominic Evans, Casnewydd; Tama Girdlestone, Amlwch a Shannon Mason, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) Jordan Jackson, Caerffili; Chloe Lodder, Cwmbrân a Lucy Price, Bangor. Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Sean Parsons, Casnewydd; Kevin Price, Hengoed a Nicola Sanigar, y Barri.

Cyflawnydd Eithriadol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Gareth Carpenter, Casnewydd; Ffion Malwala, Prestatyn a Craig Wadley, Pencoed.

Dewisir yr enillwyr gan banel beirniaid sy’n cynnwys Jeff Protheroe, cadeirydd, o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Essex Havard o NIACE Dysgu Cymru, Judith Cook o Pearson, Simon Farrington o Media Wales, Leon Patnett o Careers Wales, Sian Powell o Lywodraeth Cymru ac Iestyn Davies o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

More News Articles

  —