CGA yn lansio Siarad yn Broffesiynol 2025

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Advertising image of event

Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer darlith boblogaidd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Siarad yn Broffesiynol 2025, fydd yn cael ei chynnal ddydd Mercher 29 Ionawr 2025, 16:00-17:30.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad CGA mai’r Athro Rose Luckin fydd prif siaradwr y digwyddiad.

Mae Rose yn ysgolhaig uchel ei pharch yn rhyngwladol ac yn gyfathrebwr dylanwadol ym maes addysg a thechnoleg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI). Gyda dros chwarter canrif o brofiad, mae hi’n arbenigwr amlwg ar AI mewn addysg, ac yn gynghorydd i lunwyr polisi, llywodraethau a diwydiant yn fyd-eang.

Bydd Rose yn archwilio potensial trawsnewidiol AI mewn addysg yng Nghymru. Bydd hi’n mynd i’r afael gyda sut mae technolegau AI eisoes yn cael effaith, tra’n rhoi mewnwelediadau i dueddiadau’r dyfodol y dylai addysgwyr eu disgwyl.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn “Ry’n ni wrth ein bodd i groesawu Rose fel y prif siaradwr ar gyfer ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol ym mis Ionawr.

“Mae AI yn prysur ddod yn rhan hanfodol o’n bywydau o ddydd i ddydd. Yn ein darlith 2025, bydd Rose yn rhoi strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori AI yn effeithiol, tra’n ein llywio ni drwy ystyriaethau moesegol a mesurau diogelu.

“Mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad na ddylid ei golli.”

Siarad yn Broffesiynol yw’r digwyddiad mwyaf mawreddog o gyfres o ddigwyddiadau CGA, y maent yn eu cynnal i gefnogi cofrestreion yn eu harfer o ddydd i ddydd. Mae siaradwyr y gorffennol wedi cynnwys yr Athrawon Pasi Sahlberg, Michael Fullan, Andy Hargreaves, a Yong Zhao.

Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys sut i gofrestru am docyn am ddim: Siarad yn Broffesiynol 2025

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —