Newyddion gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cymerwch gamau nesaf eich gyrfa gydag Addysgwyr Cymru

Ydych chi am gymryd camau nesaf eich gyrfa ym myd addysg? Neu efallai mai sefydliad ydych chi sy’n awyddus i bostio swydd, cymhwyster neu gyfle dysgu proffesiynol? Wel, gall Addysgwyr Cymru helpu – yn rhad ac am ddim!

Ystafell ddosbarth gydag athro/athrawes a dysgwyr

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys ystod o wasanaethau i gefnogi addysgwyr a darparwyr fel ei gilydd.

Gallwch ymweld â’r porthol gyrfaoedd, lle gwelwch doreth o wybodaeth am yrfaoedd ym myd addysg, gan gynnwys y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rolau penodol.

Efallai mai hyfforddiant yw’r peth rydych chi’n chwilio amdano; os taw e, ewch i’n porthol hyfforddiant lle gallwch chwilio am hyfforddiant i gael mynediad i’r proffesiwn neu’r cyfleoedd dysgu proffesiynol diweddaraf. Gall darparwyr hysbysebu eu cyfleoedd hyfforddi hefyd.

Yn olaf, mae porthol swyddi Cymru gyfan yn darparu siop un stop i ddarparwyr sydd am bostio’u cyfleoedd gwaith diweddaraf, a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am y rôl ddelfrydol nesaf.

Mae digwyddiadau gaeaf Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau

Yn dilyn y digwyddiad llwyddiannus ‘Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol’ fis diwethaf, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynnal dau ddigwyddiad arall i gefnogi dysgu proffesiynol a chodi ymwybyddiaeth o feysydd allweddol ym maes addysg.

Lansiodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ei Canllaw Ymarfer Da diweddaraf yn ei ddigwyddiad ‘Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol’ fis diwethaf. Mae’r ddogfen yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â hiliaeth ac yn ceisio cefnogi cofrestreion i ddeall sut y gall eu hymddygiad a’u hymarfer helpu i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.

Bydd CGA yn cynnal dau ddigwyddiad arall i gefnogi dysgu proffesiynol a chodi ymwybyddiaeth o feysydd allweddol ym maes addysg dros y misoedd nesaf:

Siarad yn Broffesiynol 2022 gyda’r Athro Yong Zhao – Myfyrwyr fel perchnogion dysgu a phartneriaid newid addysgol – 26 Ionawr 2022, 19:00-20:30
Caiff y digwyddiad hwn, na ddylid ei gyflwyno gan yr Athro Yong Zhao sy’n arweinydd agweddau, yn addysgwr ac yn awdur enwog ac uchel iawn ei barch yn rhyngwladol. Trafodir ailsefydlu’r dysgwr yn ganolbwynt ymarfer drwy ystyried dysgwyr fel y sbardun ar gyfer newid addysgol. Yn ei anerchiad, bydd yn gwahodd mynychwyr i ystyried arwyddocâd amrywiaeth dysgwyr, bwriad dysgwyr, ac ymgysylltiad dysgwyr mewn newidiadau addysgol, yn arbennig ar ôl y pandemig COVID-19.

Mae pawb yn arweinydd – felly sut olwg sydd ar hynny? – Dosbarth meistr gyda Dr Lyn Sharratt – 1 Chwefror 2022, 14:00-16:00
Caiff y dosbarth meistr hwn ei arwain gan yr athro, yr ymchwilydd, yr awdur a’r cyflwynydd doniog, Dr Lyn Sharratt. Bydd yn archwilio arferion sy’n cael effaith sylweddol gan sicrhau bod pob arweinydd, ymarferydd a dysgwr yn tyfu, yn cyflawni ac yn profi lles. Cewch wybod mwy am y digwyddiadau hyn a cofrestru ar eu cyfer.
Digwyddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyhoeddi canllaw newydd i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth ym maes addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Ganllaw Ymarfer Da diweddaraf ynghylch mynd i’r afael â hiliaeth.

Cafodd y canllaw, sydd wedi cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a BAMEed Wales, ei lansio i gyd-daro â digwyddiad ar y cyd gan CGA, Addysgwyr Cymru a BAMEed, ‘Symud o ymarfer di-hiliol i ymarfer gwrth-hiliol: hyrwyddo cydraddoldeb di-hiliol mewn addysg’.

Nod y ddogfen hon, y ddiweddaraf mewn cyfres o ganllawiau ymarfer da, yw cynorthwyo’r holl gofrestreion i ddeall sut y gall eu hymddygiadau a’u hymarfer helpu i greu amgylcheddau cynhwysol a chroesawgar i ddysgwyr a phobl ifanc.

Mae’n nodi’n glir y camau y gellir eu cymryd wrth ganfod a mynd i’r afael â materion hiliaeth yn ogystal â sut i hyrwyddo cydraddoldeb – i gyd yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA.

Cyngor y Gweithlu Addysg

More News Articles

  —