Jessica, a fu’n brentis, yn cyflogi prentisiaid yn ei salon ei hunan erbyn hyn

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Hairdresser and apprentice in salon

Jessica Davies yn goruchwylio’i phrentis, Caitlin Simmonds, wrth ei gwaith yn y salon.

Roedd Jessica Davies mor falch o’r prentisiaethau trin gwallt a ddilynodd ar ddechrau ei gyrfa fel ei bod hi’n cyflogi prentisiaid yn ei salon ei hunan erbyn hyn.

Mewn dim ond 10 mlynedd, datblygodd Jessica, sy’n 26, o fod yn ferch ifanc oedd â swydd dydd Sadwrn i fod yn berchennog ar JD Hairdressing yn Abersychan, Torfaen, lle mae’n cyflogi dwy brentis, Caitlin Simmonds, 19, a Jordan Jones, 17.

Llwyddodd i wireddu breuddwyd plentyndod trwy ennill cymwysterau trin gwallt ond freuddwydiodd hi erioed y byddai’n berchen busnes yn ddim ond 21 oed.

Ar ôl ennill cymhwyster Trin Gwallt Lefel 1 tra oedd yn yr ysgol ac yn gweithio yn Hair on Harpers ar ddyddiau Sadwrn, symudodd ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen yn 16 oed.

Yna, gwnaeth Jessica Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr a Phrentisiaeth mewn Trin Gwallt cyn manteisio ar y cyfle i brynu cynnwys Hair on Harpers bum mlynedd yn ôl. Newidiwyd enw’r salon i JD Hairdressing ac, erbyn hyn, mae Jessica’n ymdrechu i ddatblygu’r busnes cyn chwilio am gyfleoedd i ehangu.

Trefnwyd ei phrentisiaethau gan ISA Training, Caerffili, ar ran Llywodraeth Cymru, a nhw sy’n hyfforddi prentisiaid Jessica erbyn hyn.

“Fues i’n lwcus iawn i gael cyfle i ddysgu wrth weithio a mynd ymlaen i gwblhau prentisiaethau mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr,” meddai Jessica, sy’n byw ym Mhont-y-pŵl. “Doeddwn i byth yn meddwl y cawn i fy salon fy hunan.

“Yr uchafbwyntiau i mi yw gweld fy mhrentisiaid a’r busnes yn tyfu – mae hynny’n wych. Mae’n anhygoel bod cleientiaid wedi bod yn ffyddlon i mi ers pan o’n i’n gweithio yma ar dyddiau Sadwrn pan o’n i yn yr ysgol.

“Yn fy marn i, prentisiaeth yw’r ffordd orau i ddysgu. Fe ddysgais i lawer iawn gan y prentisiaid eraill ar y dechrau. Rwy eisiau rhoi yr un cyfle i bobl ifanc heddiw ag y ces i pan o’n i’n brentis.

“Mae cael prentisiaid yn y salon yn help enfawr i’r busnes ac i mi. Heblaw amdanyn nhw, fyddwn i ddim yn y man lle’r ydw i heddiw a fyddai’r busnes ddim mor llwyddiannus.”

Bu Caitlin, sy’n byw yn Nhrefddyn, yn gweithio i Jessica ers dwy flynedd ac mae wedi cwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt. Ei bwriad yn awr yw ychwanegu Gwaith Barbwr at ei CV.

“Mae Jessica yn fòs ardderchog,” meddai. “Mae wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus trwy fy ngwthio i wneud pethau nad o’n i’n gyfforddus yn eu gwneud i ddechrau. Ro’n i eisiau gwneud prentisiaeth achos, yn fy marn i, rydych chi’n dysgu mwy wrth weithio nag wrth fynd i’r coleg.”

Dywedodd Donna Friend, rheolwr rhaglenni ISA Training: “Rwy’n credu ei bod yn wych i ni, sy’n ddarparwr hyfforddiant, weld ein dysgwyr yn datblygu ac yn dod yn berchen ar eu busnes eu hunain – a gweld hwnnw’n tyfu trwy ddefnyddio prentisiaid.

“Mae ein cyflogwyr yn chwilio am ddysgwyr sydd â sgiliau bywyd ac sydd wedi cael profiad yn y gweithle a dyna’n union beth mae Jessica wedi’i wneud.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhelliad ariannol i gyflogwyr gyflogi prentis cyn 28 Chwefror y flwyddyn nesaf, os bydd arian ar gael, er mwyn hybu datblygiad y gweithlu.

Mae cymelldaliadau o hyd at £4,000 ar gael am gyflogi prentis 16–24 oed, hyd at £2,000 am brentis 25 oed a throsodd ac mae taliad ychwanegol o £1,500 i’w gael am bob person ag anabledd a gyflogir.

Gofynnir i gyflogwyr a hoffai wybod rhagor am y cymelldaliadau fynd i Borth Sgiliau Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/skills-and-training-programmes/apprenticeships/funding-available , ebost: apprenticeships@ntfw.org neu ffonio 03301 228338.

Tîm Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n delio â holl ymholiadau cyflogwyr am brentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y tîm a Rhaglen Brentisiaethau Cymru eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

ISA Training

More News Articles

  —