Sut all Addysgwyr Cymru eich helpu?

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Female apprentice being given instruction by her tutor for carpentry

Caiff Addysgwyr Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i gefnogi addysgwyr a darparwyr.
Mae’r wefan yn cynnwys:

  • porth gyrfaoedd, gyda chyfoeth o wybodaeth am yrfaoedd mewn addysg, yn cynnwys y cymwysterau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rolau penodol.
  • porth hyfforddi, fel y gall darparwyr hysbysebu cyfleoedd am hyfforddiant ac y gall unigolion chwilio am hyfforddiant i ymuno â’r proffesiwn neu am y cyfleoedd dysgu proffesiynol diweddaraf.
  • porth swyddi Cymru gyfan, sy’n siop un stop ar gyfer cyflogwyr sy’n dymuno postio gwybodaeth am swyddi gwag, a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am y swydd ddelfrydol.

Ac mae’r cyfan am ddim!
Os hoffech wybod sut y gall Addysgwyr Cymru eich helpu, ewch i’r wefan.

Sut mae CGA yn helpu’ch datblygiad proffesiynol
Wrth feddwl am ddysgu proffesiynol, efallai’ch bod yn meddwl am weithgareddau fel cyrsiau neu ddyddiau hyfforddi – ond does dim angen iddo fod mor ffurfiol. Bydd llawer o brofiadau anffurfiol a gewch o ddydd i ddydd yn cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol.

Mae Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn offeryn ar-lein hyblyg a hollol ddwyieithog sydd ar gael i helpu pawb sydd wedi cofrestru i gasglu eu profiadau. Mae’n llawn dop o nodweddion sydd wedi’u trefnu i’ch helpu i gynllunio, cofnodi, strwythuro a myfyrio ar yr hyn yr ydych yn ei ddysgu (ffurfiol ac anffurfiol), gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ffordd o weithio.

Gallwch greu neu lanlwytho tystiolaeth o’ch profiadau, ac yna gymryd amser i fyfyrio. Beth aeth yn dda? Beth na weithiodd cystal? Ydych chi wedi dysgu rhywbeth? Pa newidiadau fyddwch chi’n eu gwneud o hyn ymlaen? Er mwyn eich helpu i ddechrau arni, fe welwch nifer o dempledi syml i’ch arwain trwy’r broses fyfyrio.

A chofiwch, mae’r PDP yn gyfrinachol ac yn gludadwy felly, os ydych wedi cofrestru gyda ni, chi fydd yr unig un a gaiff weld unrhyw gynnwys y byddwch wedi’i greu oni bai eich bod yn dymuno ei rannu.
Pasbort Dysgu Proffesiynol.

Cyfres ddigwyddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau

Information about event

Ym mis Ebrill, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn croesawu’r pediatregydd a’r gwyddonydd datblygiadol sy’n Athro Nodedig ym Mhrifysgol Berkeley Califfornia, Ronald E. Dahl, i gynnal digwyddiad arbennig, awr o hyd, ‘Mewnwelediadau i ymennydd y glasoed: goblygiadau ar gyfer iechyd, addysg, a pholisi cymdeithasol’.

Bydd Ron yn crynhoi’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg wrth astudio datblygiad y glasoed mewn ffordd wyddonol, gyda phwyslais ar y goblygiadau ar gyfer addysg, iechyd a pholisïau cymdeithasol yn ail ddegawd bywyd.

Os hoffech wybod mwy am y digwyddiad a chofrestru i gael lle am ddim, ewch i wefan CGA.

More News Articles

  —