Mwy o alw am brentisiaethau wrth i gostau myfyrwyr prifysgol gynyddu

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Oherwydd y cynnydd yn ffioedd dysgu a chostau byw myfyrwyr prifysgol mae mwy o bobl ifanc yn ystyried prentisiaethau. Yn 2023, mynegodd 430,000 o bobl ifanc ddiddordeb drwy UCAS mewn gwneud prentisiaeth— cynnydd syfrdanol o 180% ers 2021.

Susan Billington, Educ8 Training Group

Susan Billington, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Educ8 Training Group

Yma, mae Susan Billington, Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol gyda’r Educ8 Training Group, yn sôn am y newidiadau yn newisiadau addysg bellach pobl ifanc.

“Ar gyfartaledd, mae dyled myfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu yn unig yn £27,750 am radd dair blynedd. Mae costau’n ystyriaeth bwysig wrth i bobl ifanc a’u rhieni wneud penderfyniadau ac mae’r shifft yn fwy amlwg oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant a chostau byw.”

Ychwanega, “Mae prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd gwych am yrfaoedd gan alluogi dysgwyr i ennill arian wrth ddysgu. Gall dysgwyr osgoi mynd i ddyled enfawr, gan eu harfogi eu hunain ar yr un pryd â sgiliau ymarferol a chysylltiadau ym myd diwydiant.”

Mae 91% o brentisiaid, sy’n ganran uchel iawn, yn mynd ymlaen i sicrhau swyddi neu barhau i astudio ar ôl cwblhau eu hyfforddiant.

“Does dim digon o wybodaeth am brentisiaethau i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol. Mae fy mhrentisiaeth i wedi rhoi hwb fawr i fy hyder yn barod. Dyma fy nghyngor i bobl ifanc – os ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu, efallai mai prentisiaeth yw’r dewis gorau i chi. Byddwn i’n argymell bod mwy o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn ystyried prentisiaeth,” meddai Eleri Page sy’n Brentis Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes gyda’r Educ8 Training Group.

Wrth i chwyddiant gynyddu’n gynt na chyflogau a chostau byw’n codi hefyd, mae llawer o weithwyr yn dewis gwella’u sgiliau trwy brentisiaethau, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer gwell gyrfa.

“Ymunais â’r Educ8 Training Group fel Rheolwr Cyfrifon bron saith mlynedd yn ôl. Ers hynny, rwyf wedi cwblhau tair prentisiaeth yn llwyddiannus. Yn ogystal â fy arfogi â’r sgiliau hanfodol i symud ymlaen yn fy ngyrfa, rhoddodd y cymwysterau hyn hwb sylweddol i fy hyder,” meddai Susan.

Meddai Mitchell Hughes, Prentis Cyngor ac Arweiniad:
“Pan ddechreuais i ar y brentisiaeth, roeddwn i eisoes yn gweithio i Mind fel Gweithiwr Prosiect Ymyrraeth Digartrefedd. Dim ond am gyfnod byr roeddwn i wedi bod yn fy swydd ac ychydig o brofiad oedd gen i yn y sector tai.

Cynigiwyd y brentisiaeth i mi er mwyn i mi ddeall sut i ddelio â chleientiaid a chynyddu fy sgiliau. Gan fod y modiwlau’n gysylltiedig â fy ngwaith, buan iawn y dechreuais ddefnyddio fy sgiliau newydd yn fy swydd. Sylwais yn syth gymaint roedd fy sgiliau wedi gwella. Roeddwn i’n teimlo’n fwy cyfforddus gyda chleientiaid wrth ddefnyddio’r dulliau strwythuredig a ddysgais ar y brentisiaeth.”

Mae’r cynnydd mawr yn y galw am brentisiaethau mewn meysydd penodol, yn cynnwys marchnata digidol a rheoli ac arwain, fel gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), yn dystiolaeth bod cyflogwyr a gweithwyr yn defnyddio prentisiaethau i wella perfformiad, cadw staff a lleihau costau recriwtio.

Educ8

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —