BBC Cymru’n manteisio ar weithlu creadigol a deinamig i ennill gwobr prentisiaeth

Postiwyd ar gan karen.smith

Rheolwr talent adran ddrama BBC Cymru Wales, Tom Morrey a Sue Jeffries o’r darparwr hyfforddiant Cyfle gyda’r wobr.

Adran ddrama’r BBC yng Nghymru oedd y ceffyl blaen pan enillodd wobr brentisiaeth genedlaethol fawreddog.

Enwyd BBC Cymru Wales, sydd yng nghyfleuster gynhyrchu Porth y Rhath yng Nghaerdydd, yn Facro Gyflogwr y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2014, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Celtic Manor Resort, Casnewydd ar ddydd Gwener (31 Hydref).

“Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn ac mae’n anrhydedd ac yn fraint enfawr,” meddai Tom Morrey, rheolwr talent BBC Cymru Wales. “Rydym yn ceisio gwneud rhywbeth yn y diwydiant sydd heb ei wneud unrhyw le arall ac mae’n gyfiawnhad ein bod ni’n gwneud gwaith da.

“Fel y BBC, dylem fod yn ceisio gwneud pethau mawr ac rwy’n gobeithio y bydd y wobr hon yn eu hannog i ehangu eu rhaglen brentisiaeth i gymryd mwy o brentisiaid.”

Trefnwyd y gwobrau, a rannwyd yn 13 chategori, ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddwyd y gwobrau gan Pearson PLC a’i bartner yn y cyfryngau, Media Wales i arddangos rhagoriaeth mewn datblygiad sgiliau yng Nghymru gan ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maen nhw’n ffordd wych hefyd o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn ffactor llawn cymhelliant gwych ar gyfer unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Roedd datblygiad adran ddrama’r BBC yng Nghymru’n golygu bod angen i’r sefydliad fanteisio ar weithlu creadigol a deinamig sy’n gallu bodloni’r safonau angenrheidiol mewn cynhyrchiad teledu.

Arweiniodd sefydliad cyfleuster cynhyrchu Porth y Rhath at greu Rhaglen Brentisiaeth mewn Drama a brofodd yn llwyddiant i’r BBC ers iddo gael ei sefydlu.

“Roedd angen i ni ddatblygu ffordd o sicrhau y gallem feithrin a datblygu gweithlu lleol lle’r oedd gennym fylchau sgiliau allweddol,” meddai Mr Morrey, rheolwr talent yn y BBC. “Ystyriodd ein hadrannau cynhyrchu sawl opsiwn i fodloni’n gofynion a gofynion ein cyflogeion. Ystyriwyd sawl rhaglen hyfforddiant ond roedd Rhaglen Brentisiaeth yn ticio pob blwch.”

Ymunodd y BBC â Rhaglen Brentisiaeth a achredwyd gan Set Sgiliau Creadigol a gyflwynwyd gan Cyfle, darparwr hyfforddiant sydd wedi ennill ei blwyf yn niwydiant y cyfryngau.

Mae’r Rhaglen Brentisiaeth wedi bod yn rhedeg ers tair blynedd ac wedi recriwtio 28 prentis – dechreuodd 10 o’r rheiny yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae tri pellach wedi’u recriwtio gan BBC Wales Sport a’r adrannau Rhyngweithiol.

“Roedd canlyniadau’r cynllun yn glir. Mae’r prentisiaid yn cael llwybr i’r diwydiant hynod gystadleuol hon gan ddysgu sgiliau allweddol ar yr un pryd, sy’n darparu dewis arall i fynd i’r brifysgol. Mae gan y BBC weithlu creadigol a deinamig sy’n hyfforddi i safonau uchel sy’n sicrhau bod allbwn ein rhaglenni’n cyrraedd y safon yr ydym ni a’n cynulleidfaoedd yn ei disgwyl,” meddai Mr Morrey.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae prentisiaethau’n un o’r ffyrdd mwyaf ymarferol a chost effeithiol i fusnes adeiladu gweithlu medrus. Gall prentis ddysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwr eu hangen i gadw i fyny gyda datblygiadau yn eu diwydiant a chyflwyno gofynion cwsmeriaid y gwasanaeth. Rwy’n falch fod cyflogwyr fel BBC Cymru Wales yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyfforddi’n gweithlu i’r dyfodol.”

Mynychodd dros 400 o randdeiliaid allweddol o’r sector addysg a hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru’r seremoni wobrwyo lle bu’r gwesteion yn gwledda gyda chogyddion Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

More News Articles

  —