Gwobr y Bobl yn Rownd Derfynol yr Her Arian am Oes

Postiwyd ar gan karen.smith

Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group, yn cyflwyno Gwobr y Bobl i aelodau Rampart Rebels, sef Luke Murrells, Shauna Fury, Natasha Bevan, Tara Lewis, Jonathan Majors a Louise Hooper (gwisg siarc).

Sgiliau rheoli arian pobl ifanc leol yn cael eu cydnabod yn rownd derfynol Cymru o gystadleuaeth fawreddog

Mae tîm o bobl ifanc o Abertawe’n dathlu llwyddiant ar ôl i Wobr y Bobl gael ei dyfarnu iddynt yn rownd derfynol Her Arian am Oes Lloyds TSB, cystadleuaeth ledled y DU sydd wedi’i dylunio i ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau.

Creodd tîm hyfforddeion rhwng 16 ac 19 oed Rampart Rebels argraff ar y gynulleidfa oedd yn bwrw pleidlais yn y seremoni ddoe yng Nghaerdydd gyda’u prosiect ysbrydoledig er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fenthycwyr arian didrwydded sydd ar waith yn Abertawe. Dangosodd eu prosiect, a oedd yn cynnwys aelod wedi gwisgo mewn gwisg siarc, allu aruthrol y tîm nid yn unig i wella’u sgiliau rheoli arian eu hunain, ond i ddefnyddio’r rhain i gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned leol.

Bydd dau gynrychiolydd o’r tîm yn mwynhau taith i Lundain gyda’r holl gostau wedi’u talu amdanynt i fynychu Rownd Derfynol Her Arian am Oes y DU ar 23 Mai. Yno, byddant yn cystadlu am Wobr y Bobl, y bydd y gynulleidfa yn pleidleisio amdani lle gallent ennill mentor Lloyds Banking Group am flwyddyn, £1,500 i elusen o’u dewis a £100 o dalebau siopa i’r tîm.

Dywedodd Tara Lewis, o Rampart Rebels: “Nid oeddem yn disgwyl ennill y wobr ac mae’n teimlo mor dda i gael ein gwerthfawrogi. Mae wedi bod yn brosiect arbennig ac yn gyfle gwych i helpu’r gymuned.”

Dywedodd noddwr y tîm, Ian Reynolds, tiwtor yn y Ganolfan Hyfforddiant Cyflogaeth, Abertawe: “Rydw i wrth fy modd fod gwaith caled y tîm wedi dwyn ffrwyth. Mae wedi bod yn siwrnai o bedwar mis ac mae’r wobr hon yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

“Bydd y prosiect yn parhau a byddwn yn cynnal wythnos ymwybyddiaeth o fenthycwyr didrwydded ym mis Hydref.”

Dywedodd Sarah Porretta, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group: “Rydym wrth ein bodd cyhoeddi mai Rampart Rebels yw enillwyr Gwobr y Bobl Her Arian am Oes Cymru. Crëwyd argraff aruthrol ar y gynulleidfa yn sgil empathi’r tîm i bobl leol yr oeddent yn gwybod iddynt gael eu heffeithio gan fenthycwyr arian didrwydded, a’u penderfyniad i addysgu eu cymuned ynghylch ble i fenthyg arian yn ddiogel.

“Mae’r Her Arian am Oes bellach yn ei hail flwyddyn ac mae’n ysbrydoledig gweld cynifer o bobl ifanc yn cael eu grymuso i ddysgu ffyrdd newydd o reoli eu harian yn dda a chefnogi pobl eraill trwy basio’r sgiliau hyn ymlaen.

“Edrychwn ymlaen at groesawu Rampart Rebels i’r Rownd Derfynol Fawreddog ar 23 Mai a dymunwn bob lwc iddynt.”

Roedd y panel beirniaid yn cynnwys Simon Farrington, golygydd y Wales on Sunday a’r golygydd datblygu busnes ar gyfer Media Wales, Essex Havard, cydlynydd ymgyrchoedd a chodi arian Niace Dysgu Cymru, Mike Lewis, cysylltydd busnes BITC sydd ar secondiad o Lloyds Banking Group, Stephanie Lloyd, llywydd UCM Cymru a Garin Wilcock o Goleg Catholic Dewi Sant.

Mae’r Her Arian am Oes yn rhan o raglen Arian am Oes, sef partneriaeth unigryw rhwng Lloyds Banking Group a phartneriaid y sector addysg bellach ym mhedair gwlad y DU, gan gynnwys ColegauCymru / CollegesWales a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i’r ffyrdd mwyaf llwyddiannus ac arloesol o wella sgiliau rheoli arian dysgwyr, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae aelodau’r tîm rhwng 16 a 24 oed ac mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith neu ddysgu oedolion yn y gymuned.

I gael mwy o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i moneyforlifechallenge.org.uk, neu ymunwch â ni ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter yn www.twitter.com/moneyforlifeuk

More News Articles

  —