Gwahoddiad i gyrff o’r sector cyhoeddus gymryd rhan mewn prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

apps-wales-1-cy

Mae rheolwyr cynghorau a chyrff eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n gyfrifol am recriwtio a datblygu staff yn cael eu cynghori i fynd i un o dri digwyddiad rhanbarthol a fydd yn esbonio sut y gallant gynnig prentisiaethau.

Trefnir y digwyddiadau gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

Erbyn hyn, mae cynghorau, cyrff eraill o’r sector cyhoeddus a sefydliadau o’r sector preifat sydd â bil cyflogau o dros £3 miliwn yn talu Ardoll Brentisiaethau – 0.5% o’u bil cyflogau – i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cynnal prentisiaethau.

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gydweithio â chyrff o’r sector cyhoeddus i ymateb i’w diddordeb cynyddol mewn prentisiaethau trwy hwyluso’r ffordd iddynt recriwtio a hyfforddi eu staff ar ôl i’r ardoll newydd gael ei chyflwyno ym mis Ebrill.

Mae gwaith ar y gweill i greu cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y gweithlu yn ogystal â phrentisiaethau newydd er mwyn diwallu anghenion penodol cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal y tri digwyddiad er mwyn deall yn iawn sut y gallant ddiwallu anghenion hyfforddiant y sector preifat a’u gofynion o ran prentisiaethau.

Bydd cyfle ym mhob digwyddiad i gysylltu ar unwaith â darparwyr dysgu seiliedig ar waith o’r NTfW a fydd yn cynghori cyflogwyr sut y gallant fanteisio i’r eithaf ar y prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.
“Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gyrff cyhoeddus drefnu prentisiaethau yn sydyn, naill ai ar gyfer gweithwyr newydd neu er mwyn datblygu gyrfaoedd eu gweithwyr presennol, yn enwedig ar y lefelau uchaf,” meddai Sarah John, cadeirydd NTfW.

“Bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar gyflwyno Rhaglenni Prentisiaethau, fel y gall pobl sgwrsio’n uniongyrchol â darparwyr dysgu ledled Cymru am eu gofynion penodol nhw o ran prentisiaethau a’u hanghenion hyfforddiant ychwanegol.”

Bydd y tri digywddiad yn: Gwesty’r St George, Y Promenâd, Llandudno, ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf; Gwesty’r Metropole, Temple Street, Llandrindod, ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf; a Gwesty’r Mercure Holland House, Heol Casnewydd, Caerdydd, ddydd Iau, 20 Gorffennaf. Cynhelir yr holl ddigwyddiadau rhwng 9.30am a 12.15pm.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Gallwch gadw lle yn un o’r digwyddiadau trwy gysylltu â Karen Smith yn yr NTfW trwy ffonio: 029 20 495861 Ffôn symudol: 07425 621709 neu Ebostio: karen.smith@ntfw.org

More News Articles

  —