Partneriaeth sgiliau’n allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd i Gymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Wales’ Minister for Skills and Science Julie James (centre) with Sarah John, NTfW chair and Kelly Edwards, the NTfW’s head of work-based learning quality.

Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, Julie James (canol) gyda Sarah John, cadeirydd NTfW a Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith gydag NTfW.

English | Cymraeg

Er mwyn cael llwyddiant economaidd, mae’n hanfodol sicrhau partneriaeth rhwng pob sefydliad sy’n ymwneud â chyflenwi sgiliau seiliedig ar waith yng Nghymru, clywodd digwyddiad o bwys yng Nghaerdydd ddoe (dydd Iau).

Daeth dros 180 o gynadleddwyr, yn cynnwys darparwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr o bob rhan o Gymru, i gynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), a noddwyd gan Pearson, yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar recriwtio prentisiaid a chynyddu sgiliau’r gweithlu.

‘Prentisiaethau yng Nghymru – Sylfaen economi ar gyfer y dyfodol’ oedd thema’r gynhadledd a’i nod oedd annog cyflogwyr a darparwyr dysgu i gydweithio er budd gweithwyr, busnesau ac economi Cymru yn ehangach.

Bu Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Cymru, yn amlinellu’r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau, a oedd yn cynnwys creu 100,000 o brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed yn eu tymor presennol.

Dywedodd ei bod yn dymuno creu diwylliant lle mai recriwtio prentis oedd y norm ac mae’n bwriadu cynnig cymhellion i annog rhagor o fusnesau bach a chanolig eu maint i gynnig prentisiaethau.

Addawodd ddatblygu llwybrau sgiliau tryloyw a hawdd i’w deall trwy gynnwys prentisiaethau yn y system addysg yn ehangach a mynd i’r afael â phrinder sgiliau mewn sectorau twf a mathau newydd o swyddi yn unol â’r blaenoriaethau a bennwyd gan y tair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol.

Bwriedir canolbwyntio ar brentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd, a monitro effeithiolrwydd a pherthnasedd prentisiaethau sylfaen.

Pwysleisiodd fod cyflogwyr yn allweddol ar gyfer rhaglenni prentisiaethau llwyddiannus ac mae’n awyddus iddynt ddylanwadu ar ffurf y dysgu.

Yn ogystal, diolchodd y Gweinidog i gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant am eu hymroddiad i agenda sgiliau Llywodraeth Cymru, gan danlinellu pwysigrwydd y bartneriaeth.

Cyfeiriodd hefyd at gynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio cymorth ar gyfer cyflogadwyedd. “Rydym yn sylweddoli bod cyflogadwyedd yn golygu mwy na swyddi a sgiliau. Mae’n golygu sicrhau bod pob agwedd ar bolisi’r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai, cymunedau – yn cydweithio i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy,” meddai.

“Bydd rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer oedolion a phobl ifanc yn y dyfodol yn gwneud mwy i helpu pobl y mae angen cefnogaeth arnynt i sicrhau a chadw swyddi ystyrlon,” meddai. “Bydd gwybodaeth am y farchnad lafur gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r gwaith a wnawn ni ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrannu at y rhaglenni.”

Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o symleiddio cymorth cyflogadwyedd er mwyn sicrhau bod holl ddarnau’r jig-so yn dod ynghyd a bod unrhyw fylchau’n cael eu llenwi. “Mae partneriaeth yn hollbwysig ac allwn ni ddim gwneud dim heb gydweithio,” meddai.

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi manylion llawn y Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd ym mis Gorffennaf a phwysleisiodd y bydd gan ddarparwyr dysgu ran allweddol i’w chwarae.

Soniodd Sarah John, cadeirydd NTfW, wrth y cynadledddwyr am y gwaith da y mae’r rhwydwaith yn ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, yn cynnwys trafod ymholiadau am brentisiaethau o wefan Busnes Cymru.

“Erbyn hyn, mae’r NTfW yn chwarae rhan cyfryngwr, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gyflogwyr ac yn cyfeirio darparwyr at gyfleoedd,” meddai. “O fewn pythefnos, rydym wedi cael ymholiadau gan dros 70 o gyflogwyr, sy’n dangos yr effaith gadarnhaol a gawn, yn enwedig gan fod yr Ardoll Brentisiaethau wedi codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.”

Datgelodd fod yr NTfW yn gobeithio cyflogi pum aelod ychwanegol o staff i ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen brentisiaethau a’i hyrwyddo, nid wrth gyflogwyr yn unig, ond wrth ysgolion a rhieni ledled Cymru hefyd.

Mae cyfres o dair sesiwn wybodaeth ranbarthol yn cael ei threfnu gan NTfW ar ran Llywodraeth Cymru i roi gwybod i gyrff yn y sector cyhoeddus am yr Ardoll Brentisiaethau a sut i ddechrau cynnig prentisiaethau – yn Llandudno ar 11 Gorffennaf, Llandrindod ar 18 Gorffennaf a Chaerdydd ar 20 Gorffennaf.

Bu Sandra Sexton, Uwch Reolwr Rhaglen Brentisiaethau Grŵp BT yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, yn sôn am y ffordd y mae’r busnes yn defnyddio’r Ardoll Brentisiaethau i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes gyda Llywodraeth Cymru, Edwyn Williams, pennaeth Rhaglen Datganoli Cyflogaeth Llywodraeth Cymru a Kevern Kerswell, prif weithredwr Agored Cymru.

Yn ogystal, roedd y gynhadleddyn cynnwys cyfres o weithdai’n ymwneud â pholisi prentisiaethau yng Nghymru, yr Awdurdod Addysg Drydyddol, datblygu gweithlu proffesiynol, dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, deall y ddyletswydd Atal ar gyfer gwrthderfysgaeth, datblygu Rhaglen Brentisiaethau o safon uchel, dylanwadu ar y system gymwysterau, fframwaith arolygu newydd Estyn, deall anghenion dysgwyr, a gweledigaeth ar gyfer dysgu digidol i ryddhau potensial.

Roedd y noddwyr eraill yn cynnwys Agored Cymru, SQA, Gyrfa Cymru, City & Guilds, Cymwysterau Cymru, Cognisoft, LearnOn, Panda a SgiliauCymru.

More News Articles

  —