Gweinidog yn diolch i ddarparwyr hyfforddiant Cymru ond yn galw am fwy o hwb i sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Welsh

L-R: Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol) , CBAC; Dr John Graystone, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Agored Cymru; Andrea Melvin, Pennaeth y Ddarpariaeth Ddysgu, Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru; Eluned Morgan AM, Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Sarah John, Cadeirydd, NTfW.

Ch-Dd: Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol) , CBAC; Dr John Graystone, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Agored Cymru; Andrea Melvin, Pennaeth y Ddarpariaeth Ddysgu, Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru; Eluned Morgan AM, Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Sarah John, Cadeirydd, NTfW.

Roedd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn llawn canmoliaeth i ddarparwyr dysgu gydol oes ledled Cymru yn eu cynhadledd flynyddol ond fe’u heriodd hefyd i wneud hyd yn oed ragor i sicrhau gweithlu medrus iawn.

Daeth dros 180 o gynadleddwyr ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd i wrando ar y Gweinidog a nifer o siaradwyr eraill yn cyfeirio at y newid a welir ym maes cyflogaeth yng Nghymru, sy’n golygu bod darparwyr hyfforddiant yn wynebu gofynion newydd.

Thema cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) oedd ‘Adeiladu economi hynod fedrus ar sylfeini cadarn’ a bu cryn dipyn o edrych i mewn i’r belen risial i weld sut olwg fydd ar y dyfodol.

Diolchodd y Gweinidog i aelodau’r NTfW am helpu Llywodraeth Cymru i gadw at yr amserlen wrth geisio sicrhau bod 100,000 o bobl yn dechrau ar brentisiaethau o safon uchel yn ystod tymor presennol y Llywodraeth. Mae 24,000 wedi dechrau ar brentisiaethau yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Diolch i bawb ohonoch am eich cyfraniad sylweddol at ddysgu gydol oes yng Nghymru ac am ein helpu i gyrraedd ein nod,” meddai.

Cyfeiriodd at bwysigrwydd dysgu gydol oes a dweud wrth y cynadleddwyr: “Beth bynnag y buom yn ei wneud hyd yma, mae angen rhoi hwb fawr iddo oherwydd mae disgwyl i’r gweithiwr cyffredin newid swyddi 12 gwaith mewn oes – sy’n golygu bod angen i bawb ohonom addasu.

“Er mwyn sicrhau ffyniant hirdymor i bawb, mae angen i ni feddwl a gwneud pethau’n wahanol ac mae dysgu’n hollbwysig. Mae’n hanfodol meithrin diwylliant o ddysgu gydol oes er mwyn helpu pobl i symud i wahanol swyddi. Mae angen i ni feddwl am wahanol ddulliau o baratoi ar gyfer newidiadau mawr ym myd gwaith. Eich meddwl a’r hyn a roddwch ynddo yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennych.”

Datgelodd fod Llywodraeth Cymru’n dymuno datblygu cyfrif dysgwr unigol i helpu gweithwyr i ailhyfforddi mewn sectorau lle mae prinder sgiliau. Galwodd ar gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i annog gweithwyr i uwchsgilio ac ymrwymo i ddysgu gydol oes a dywedodd ei bod yn hanfodol bod prentisiaethau yn cael yr un parch â chymwysterau academaidd.

Galwodd ar ddarparwyr hyfforddiant i ymateb yn well i anghenion cyflogwyr wrth gynllunio a chyflenwi hyfforddiant o safon uchel ac i ystyried y blaenoriaethau a bennir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Mae pobl fregus mewn cymdeithas yn bwysig iddi hefyd. Er bod 79% o bobl Cymru sydd heb anableddau yn gweithio, dywedodd fod y ganran yn syrthio i 45% ar gyfer pobl anabl. Gofynnodd i’r darparwyr annog cyflogwyr i ymgysylltu â phobl anabl ac i’w cyflogi.

Dywedodd fod yr iaith Gymraeg yn “un o drysorau Cymru” a’i bod yn awyddus i ragor o ddarparwyr hyfforddiant gyflenwi prentisiaethau yn y Gymraeg. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mewn anerchiad oedd yn gwneud i chi feddwl, soniodd yr Athro Karel Williams, o Ysgol Fusnes Alliance Manchester am bwysigrwydd dysgu gydol oes a dywedodd bod angen i Gymru addasu ei pholisïau hyfforddi i gefnogi perchnogion a rheolwyr meicro-fusnesau Cymru, sy’n rhan mor fawr o economi’r wlad.

Rhybuddiodd y byddai awtomeiddio’n “newid y byd o’n cwmpas” o fewn yr 20 mlynedd nesaf ac y byddai angen set wahanol o sgiliau ar weithwyr Cymru. Byddai awtomeiddio’n golygu na fyddai angen llawer o sgiliau gwaith dwylo ond byddai angen sgiliau datrys problemau a chyfathrebu, sy’n sgiliau trosglwyddadwy, ac yn gofyn am “ddeallusrwydd emosiynol”.

“Mae angen i ni ddwyn hyfforddiant seiliedig ar waith ac addysg alwedigaethol yn nes at ei gilydd er mwyn darparu hyfforddiant ar gyfer meicro-fusnesau,” meddai. “Dylem ddechrau holi pobl ifanc beth yw eu nod mewn bywyd a sut y gallwn ni eu helpu i gyrraedd y nod hwnnw.”

Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr CBI Cymru, bod prinder sgiliau’n dal yn broblem i gyflogwyr ledled Cymru a bod llawer o ffactorau’n cyfrannu at hyn.

Galwodd am roi’r un parch i gymwysterau galwedigaethol ag i rai academaidd a dywedodd ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wella’r cysylltiadau rhwng ysgolion a chyflogwyr ac i gyflwyno addysg drydyddol ledled Cymru. “Mae cymaint o waith i’w wneud yn addysgu’r addysgwyr,” meddai.

Dywedodd ei fod o blaid dull gweithredu hyblyg a chydgysylltiedig gan ysgolion, darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, colegau addysg bellach, busnesau a Llywodraeth Cymru i ddarparu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Andrea Melvin, pennaeth y ddarpariaeth ddysgu seiliedig ar waith yn Llywodraeth Cymru, Dr John Greystone, cadeirydd gweithredol Agored Cymru a Sarah Harris o CBAC, prif noddwr y gynhadledd.

Dywedodd Sarah Harris, y cyfarwyddwr cynorthwyol sy’n gyfrifol am gymwysterau galwedigaethol, Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol yng Nghyd-bwyllgor Addysg Cymru, bod gan CBAC ran bwysig i’w chwarae ym myd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Wrth ganmol NTfW, dywedodd: “Rwy bob amser yn cael fy ysbrydoli gan y ffordd gadarnhaol y mae’r rhwydwaith yn addasu ac yn ymateb i newid.”

Yn ogystal, cafodd y cynadleddwyr gyfle i fynd i gyfres o weithdai’n ymwneud â phrif bynciau’r gynhadledd.

Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW, ei bod yn gynhadledd gyffrous, gyda siaradwyr oedd yn procio’r meddwl ac yn llawn gwybodaeth. Roedd yn hanfodol bod yr aelodau’n cynnwys blaenoriaethau a nodwyd gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn eu cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â newid swyddi, awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.

Dywedodd ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori â’r NTfW am unrhyw raglenni newydd y byddai gofyn i’w aelodau eu cyflenwi.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.

More News Articles

  —