Gwobr Genedlaethol i Ferch Trin Gwallt Ifanc o Fangor

Postiwyd ar gan karen.smith

Lucy Price gyda gwobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Lefel 1).

Mae merch trin gwallt ifanc o Fangor wedi ennill gwobr genedlaethol o fri ar ôl dangos dawn eithriadol ac ymroddiad mawr i ddysgu.

Lucy Price, 17 oed, a enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2013, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yng nghwmni dros 400 o wahoddedigion yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

“Mae’n anhygoel mod i wedi ennill y wobr. Fedra i ddim credu mod i wedi dod mor bell,” meddai Lucy. “Mae’n meddwl y byd i mi achos dw i wedi gweithio mor galed ac mae’n dangos gymaint maen nhw’n fy ngwerthfawrogi yn y gwaith.”

Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau o safon a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Gadawodd Lucy yr ysgol heb lawer o obaith nac uchelgais ond erbyn hyn mae’n gweithio yn salon gwallt TH1 ym Mangor lle mae’n cael ei chyfrif yn weithwraig eithriadol gyda gwir botensial i symud ymlaen yn y maes.

Gadawodd Lucy yr ysgol heb gymwysterau. Trin gwallt oedd ei hunig ddiddordeb a chychwynnodd ar Hyfforddeiaeth gyda Choleg Menai, lle cafodd ei dawn a’i brwdfrydedd eu cydnabod yn fuan iawn.

Yn y salon ddysgu, dangosodd ei bod yn fedrus ac yn ddeheuig iawn, ac felly cafodd fynd trwy’r cwrs ymgysylltu yn sydyn a mynd ymlaen i ennill cymhwyster Lefel 1 yn gynt na’r arfer.

Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn trin gwallt a disgwylir iddi gwblhau hwnnw yn fuan iawn hefyd.

“Pan ddechreuais i ar y cwrs trin gwallt, mi wnes i ddarganfod, am y tro cyntaf, rywbeth roedd arna i wir eisiau ei wneud,” meddai Lucy. “Dw i’n caru’r gwaith a dw i’n ddiolchgar iawn i’r coleg am y cyfle dw i’n ei gael.

“Swn i’n hoffi gweithio fy ffordd i fyny yn y salon ac, efallai, hyfforddi i fod yn diwtor coleg fy hun rhyw ddiwrnod fel y medra i helpu pobl ifanc fel fi.”

Dywedodd Tracey Roberts o Goleg Menai: “Mae llawer o bobl yn dweud bod rhywun yn rhoi 100% ond, yn achos Lucy, mae’n hollol wir. Mae’n ferch ifanc ryfeddol sy’n haeddu cael ei gwobrwyo am ei hymdrechion a’i chydnabod am ei llwyddiant.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

More News Articles

  —