Cogydd Ifanc yn Ennill Gwobr Genedlaethol yn ei Wethle ei hun

Postiwyd ar gan karen.smith

Dominic Evans a’i wobr.

Mae cogydd ifanc o Gasnewydd sy’n gweithio yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor wedi ennill gwobr genedlaethol o fri.

Dominic Evans, 18 oed, a enwyd yn Ddysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2013, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo fawreddog yn y man lle mae Dominic yn gweithio, sef Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Ar ôl ennill y wobr, dywedodd: “Gwych! Fedra i ddim credu’r peth. Mae ennill y wobr yn mynd i roi hwb enfawr i’m hyder i ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr prentisiaethau o safon a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Cafodd Dominic Evans ganlyniadau TGAU ardderchog ond, ar ôl blwyddyn yn y chweched, penderfynodd adael. Cafodd gynnig hyfforddeiaeth gydag ITEC fel cam tuag at ennill rhagor o gymwysterau a chael gwaith.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud ac ro’n i’n swil iawn,” meddai. “Fel rhan o’r hyfforddeiaeth, es i ar leoliad gwaith i geginau’r Celtic Manor. Roeddwn i wrth fy modd. Fe weithiais i’n galed iawn a chollais i ddim un diwrnod yn ystod y lleoliad chwe mis. O ganlyniad i hynny, ges i gynnig prentisiaeth.”

Erbyn hyn, mae Dominic yn gogydd dan hyfforddiant, yn gweithio gyda thîm cegin Bwyty’r Olive Tree, sy’n gwneud hyd at 700 o frecwastau bwffe bob dydd.

“Mae’n swydd wych ac rwy’n dysgu rhywbeth newydd trwy’r amser. Fyddwn i byth wedi gallu gwneud hyn heb gael yr hyfforddeiaeth ac rwy’n ddiolchgar iawn,” meddai Dominic.

“Rwy’n gweithio’n galed achos rwy’n gwybod bod hwn yn gyfle gwych a dwi ddim yn mynd i’w wastraffu.”

Cyn hir, bydd Dominic yn dechrau ar Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd ac mae’n cymryd rhan yn rhaglen hyfforddi fewnol y Celtic Manor hefyd.

Dywedodd Joel Williams o ITEC: “Roedd Dominic yn swil ac yn dawel iawn pan ymunodd â ni ond mae’n dod yn fwyfwy hyderus trwy’r amser. Mae pawb sydd wedi dod i gysylltiad â Dominic yn edmygu ei benderfyniad i lwyddo ac yn dweud yn dda amdano.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates: “Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn gyfle i ni ddathlu’r gwahanol sgiliau sydd gan ein pobl ifanc i’w cynnig a’r ymroddiad a ddangosir gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr haeddiannol.

“Roedd yn bleser gwirioneddol cael cyfarfod â phobl ifanc sy’n gweithio mor galed, sydd mor uchelgeisiol ac sydd wedi cyflawni cymaint, a’r cyflogwyr a’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi mynd yr ail filltir i helpu’r bobl ifanc i gyflawni eu potensial. Maen nhw’n haeddu eu canmol ac yn ysbrydoliaeth i bobl eraill.

“Mae’r cyhoeddiad am y gyllideb yn ddiweddar wedi cadarnhau y daw £12.5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn ein rhaglen Twf Swyddi Cymru am bedwaredd flwyddyn. Mae hyn yn golygu y gallwn greu dros 4,000 o swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed yn 2015-16. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £20 miliwn arall yn 2015-16 i gefnogi prentisiaethau. Mae hyn yn newyddion gwych i’n pobl ifanc a’n cyflogwyr ni a bydd yn golygu y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.”

Mae’r gwobrau, sy’n tynnu sylw at ragoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, yn cael eu noddi gan Pearson PLC gyda chymorth ein partner yn y cyfryngau, Media Wales.

More News Articles

  —