Llywio dyfodol polisi prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Mae byd sgiliau a phrentisiaethau yng Nghymru, ac yn wir yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn mynd trwy gyfnod o newid mawr ac mae’n wych gweld bod Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei gweledigaeth ar gyfer y rhaglen brentisiaethau yng Nghymru.

Felly, beth yw’r prif elfennau yng Nghynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru a fydd yn cysoni’r rhaglen yng Nghymru ag anghenion economi’r wlad. Yn gyntaf, mae’n canolbwyntio fwy ar ddatblygu rhaglen brentisiaethau sy’n ddeniadol i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol, o Flynyddoedd 11 ac 13.

Ers blynyddoedd lawer, bu pobl yn galw am roi ‘parch cyfartal’ i addysg alwedigaethol ac addysg academaidd. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod byd prentisiaethau wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y gorffennol, roedd prentisiaethau’n cael eu cynnig ar Lefel 2 (sy’n cyfateb i TGAU) a Lefel 3 (sy’n cyfateb i Lefel AS/A). Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, bu datblygiadau sylweddol ar Lefel 4 (sy’n cyfateb i HNC) ac uwch, ac threfnwyd bod mwy a mwy o Brentisiaethau Uwch ar gael. Yn y dyfodol, fe welwn Brentisiaethau Gradd yn cael eu datblygu yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Mae’r datblygiadau hyn yn cynnig ‘llwybrau sgiliau’ sy’n galluogi rhywun i ddilyn prentisiaeth i addysg lefel uwch. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl sy’n gwneud prentisiaethau lefel uwch (Lefel 3 ac uwch) yn llawer mwy tebygol o gael gwaith a/neu ennill rhagor o arian trwy gydol eu hoes na graddedigion sy’n gwneud graddau ‘newydd’.

Fodd bynnag, mae cryn dipyn o waith i’w wneud er mwyn newid y syniad sydd gan bobl am brentisiaethau. Mae Arolwg Gyrfa Cymru o Hynt Disgyblion ar gyfer 2015 yn dangos mai dim ond 488 o ddisgyblion 16 oed, allan o garfan o bron 33,000 o ddisgyblion oedd yn gadael yr ysgol, aeth ymlaen yn syth i wneud prentisiaeth – dim ond 1.5% o’r garfan.

Bu’r NTfW yn dadlau ers amser nad diffyg parch cyfartal yw’r broblem ond diffyg cyfle cyfartal. Er mwyn i Gymru gysoni ei rhaglen brentisiaethau ag anghenion economi’r wlad, mae angen sicrhau bod y disgyblion mwyaf disglair ar gael i gyflogwyr. Mae’r NTfWNTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael iddynt i annog pobl ifanc i ystyried prentisiaeth fel llwybr at gyflogaeth hirdymor mewn sectorau twf y cyfrifir eu bod yn bwysig i economi Cymru.

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan eithriadol o bwysig hefyd. Mae llawer o dystiolaeth eu bod o’r farn nad oes gan bobl ifanc, ar y cyfan, y sgiliau meddal sy’n angenrheidiol er mwyn goroesi a ffynnu yn y gweithle. Mae prentisiaethau’n ffordd ddelfrydol i gyflogwyr chwarae rhan yn datblygu’r gweithlu y bydd ar Gymru ei angen yn y dyfodol. Yn ogystal â’u cyfnod o ddysgu ‘i ffwrdd o’r gwaith’, mae prentisiaid yn meithrin sgiliau meddalach y gweithle yn ystod eu cyfnod wrth y gwaith.

Mae dyfodiad yr Ardoll Brentisiaethau ym mis Ebrill, 2017 wedi cynyddu awydd cyflogwyr i ymwneud â’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru, sef yr union beth a fwriadwyd. Fodd bynnag, mae angen i’r cyflogwyr hynny a fydd yn talu’r ardoll – yn cynnwys y Sector Cyhoeddus – fynd ati i ymwneud â’r rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau safonol yng Nghymru er mwyn darparu cyfleoedd deniadol i bobl ifanc sy’n ystyried eu dyfodol. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio’r rhaglen brentisiaethau yn sylfaen ar gyfer trefniadau recriwtio.

Elfen allweddol arall o Gynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru yw’r pwyslais a roddir ar sicrhau bod anghenion cyflogwyr wrth galon y system. Aethpwyd ati i wneud hyn mewn dau faes pwysig. Yn gyntaf, sicrhau bod rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru’n cael ei chysoni ag anghenion cyflogwyr, fel y nodir gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Mae’r sefydliadau hyn rhan eithaf newydd o’r byd sgiliau a’u nod yw canfod pa sgiliau y bydd ar gyflogwyr eu hangen ar lefel ranbarthol fel y gallant roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa ddarpariaeth y bydd ei hangen yn y dyfodol i lenwi bylchau sgiliau. Hoffwn annog pob cyflogwr i ddechrau trafod gyda’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol cyn gynted ag y bo modd.

Yn ail, mewn amgylchedd economaidd sy’n newid yn gyflym, mae’n bwysig bod gan y gweithlu y sgiliau angenrheidiol fel y gall ymateb i rymoedd y farchnad, yn awr ac i’r dyfodol. Er mwyn ateb y galw gan gyflogwyr a’r economi ehangach, mae’n hanfodol bod y ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau yn ‘addas at y diben’.Felly, rwy’n annog cyflogwyr i gydweithio â rhwydwaith Llywodraeth Cymru o ddarparwyr prentisiaethau safonol i ddatblygu rhaglen brentisiaethau sy’n ateb eu hanghenion.

More News Articles

  —