Prentisiaeth Gwynfor wedi arwain at rownd derfynol y gwobrau wrth iddo gyflawni “rhywbeth amhosibl”
Roedd Gwynfor Jones yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn yr ysgol ac roedd yn ofni y byddai’r unigrwydd cymdeithasol yn ystod pandemig Covid yn llesteirio ei ddatblygiad fel oedolyn, ond mae’n rhoi’r clod i ddysgu seiliedig ar waith am ei alluogi i gyflawni “rhywbeth amhosibl”.
Mae’r gŵr ifanc 18 oed o Dreherbert wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol gyda Croeso i’n Coedwig, partneriaeth gymunedol yn y Rhondda Fawr Uchaf sy’n cysylltu trigolion â natur.
Mae Gwynfor nawr wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn.
Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Prif noddwr yw EAL.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at gyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Roedd Gwynfor wedi gwirfoddoli gyda Croeso i’n Coedwig ers ei fod yn 13 oed, ac fe wnaethant gymryd Gwynfor o dan eu hadain ar ôl iddo gwblhau ei arholiadau TGAU ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny, gan helpu gyda nifer o brosiectau amgylcheddol a gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Roedd fy hyder i’n isel yn yr ysgol gan nad oeddwn i’n gweld fy hun fel ‘plentyn clyfar’ a doedd gen i ddim sgiliau defnyddiol,” meddai Gwynfor. “Ond ers dechrau fy mhrentisiaeth, mae fy hunan-barch a fy hyder wedi datblygu y tu hwnt i beth y gallwn fod wedi’i ddychmygu.
“Roeddwn hefyd yn ofni yn ystod Covid fy mod i wedi colli fy sgiliau cymdeithasol trwy ynysu, ond gwelodd fy mhrentisiaeth fi’n cyflawni ‘rhywbeth amhosibl’ trwy wneud cyflwyniadau – i blant mewn ysgolion, i’r cyhoedd ac mewn digwyddiadau cymunedol yn fy ngweithle.”
Fel gweithiwr dwyieithog, mae gwerth Gwynfor wedi cael ei gydnabod mewn fideos sy’n hyrwyddo addysg alwedigaethol yn Gymraeg a Saesneg. Mae ei sgiliau hefyd wedi cael eu croesawu gan ei uwch reolwyr.
“Mae Gwynfor wedi rhoi ei wybodaeth newydd ar waith ac wedi dod â syniadau newydd i’n rhaglenni yn y coetir, ynghylch creu cynefinoedd a bioamrywiaeth,” meddai Ian Thomas, cyfarwyddwr cwmni Croeso i’n Coedwig Cyf.
“Yn ogystal â’i wythnos waith, mae wedi cefnogi ein sesiynau therapi coetir yn frwd, gan weithio un i un gyda chyfranogwyr o’n hysbyty GIG lleol, a phobl a atgyfeiriwyd gan feddygon teulu ac ysbytai arbenigol, fel ysbyty adfer anafiadau ymennydd Rookwood.
“Mae hefyd wedi dod yn arweinydd ieuenctid egnïol ac yn ddylanwadwr cadarnhaol ar bobl ifanc trwy wirfoddoli am ddwy noswaith yr wythnos gyda Phlant o’r Cymoedd mewn sesiynau chwarae tu fas gyda mynediad agored. Mae’n swyddog cymorth cyntaf awyr agored ac yn arweinydd beicio mynydd. Enillodd y cymwysterau ychwanegol hyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gwynfor a’r holl gystadleuwyr eraill yn y rownd derfynol.
“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i ddangos ein gwerthfawrogiad o’n prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill, ac, yn fwy eang, economi Cymru yn ein hysbrydoli. Rwy’n dymuno pob lwc i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – ar gyfer y gwobrau a’u hymdrechion yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i: lyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000
More News Articles
« Cyrraedd y rhestr fer drwy oresgyn rhwystrau sylweddol i wireddu ei breuddwyd trin gwallt — Prentis sy’n gyfrifydd medal aur am i’w gyrfa wneud gwahaniaeth »