Cystadleuwyr o Gymru benbaladr yn dathlu llwyddiant wrth i 267 o bobl ifanc ennill gwobrau sgiliau o fri

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

iseiw medals

Mae 89 o gystadleuwyr wedi ennill medalau aur am eu llwyddiannau yn dilyn gwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ddydd Iau.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol a gynhaliwyd o Fôn i Fynwy, a ddenodd llu o bobl ifanc dawnus.

Mae’r cystadlaethau’n herio cystadleuwyr mewn pum sector gwahanol i fod y gorau yn eu maes arbennig, gan gynnwys Adeiladu a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw, TG a Menter a’r Cyfryngau a Chreadigol.

Aeth 800 a mwy o bobl ifanc ati i gystadlu dros y tri mis diwethaf, gyda chyfanswm o 89 o fedalau aur, 87 arian a 91 o fedalau efydd.

Seremoni wobrwyo rithiol a gafwyd eleni, gyda chwe digwyddiad lloeren yn cael eu cynnal gyda darparwyr ar hyd a lled Cymru, fel y gallai ffrindiau a theuluoedd o bob cwr o’r wlad wylio.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, drwy’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy feithrin sgiliau galwedigaethol pobl ifanc a dathlu eu cyflawniadau.
Dywedodd Esther Taylor, enillydd medal aur yn y categori Dylunio Ffasiwn a Thechnoleg: “Fe wnes i fwynhau’r gystadleuaeth sgiliau yn fawr iawn. Roedd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd ac roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael digon o gymorth ac anogaeth ar hyd y daith!”

“Dysgais sut i gynllunio a gweithio’n effeithlon o fewn amserlen dynn yn ystod y gystadleuaeth a dysgu sgiliau newydd fel creu taflen manyleb dilledyn – rhywbeth doeddwn i erioed wedi’i wneud o’r blaen.
“Roedd fy nhiwtor yn anhygoel. Roedd hi’n anfon negeseuon ata i ar Teams gydol yr wythnos ac yn ffonio i sicrhau fy mod i’n barod ac yn gwybod beth oedd angen ei wneud. Dw i mor falch ohonof fy hun am ddod yn gyntaf, mae’n dipyn o gamp!”

Yn amodol ar rownd arall o geisiadau, gallai enillwyr y rownd derfynol fynd ymlaen i gymryd rhan yng nghystadlaethau Prydeinig a rhyngwladol WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills. Bydd ceisiadau ar gyfer cystadlaethau WorldSkills UK eleni yn cau yn ddiweddarach y mis hwn.

Grwp Llandrillo Menai celebration

Ym mis Hydref eleni, cynhelir cystadleuaeth WorldSkills rhif 45 yn ninas Shanghai, Tsieina. Ym mis Ebrill, bu pymtheg o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru am y gorau yn cystadlu am le i gynrychioli Team UK ar lwyfan byd-eang yng nghystadleuaeth bob dwy flynedd WorldSkills International yn Shanghai, Tsieina.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething: “Mae ein pobl ifanc ni’n allweddol i lwyddiant y wlad hon yn y dyfodol, felly mae’n wych gweld mentrau fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn dathlu ac yn arddangos doniau’r ifanc.

“Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn helpu i roi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc fel rhan o’u datblygiad personol a phroffesiynol. Mae’n cynnig cyfle i unigolion fagu hyder a sgiliau cyflogadwyedd gan ganiatáu i gyflogwyr addysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol a’n bod yn parhau i gynnig cyfleoedd fel Cystadleuaeth Sgiliau Cymru er mwyn rhoi llwyfan i bobl ifanc arddangos eu galluoedd. Mae cystadlaethau sgiliau yn sbardun i bobl gamu ymlaen a datblygu’n weithwyr hynod fedrus, a chyfrannu’n ôl at yr economi.”

Ychwanegodd y cyflwynydd, Ameer-Davies Rana: “Roedd hi’n brofiad arbennig ac yn gyfle gwych cael cyflwyno’r gwobrau ar y cyd â Mari Lovgreen. Rydyn ni wedi gwobrwyo doniau anhygoel ledled Cymru ac roedd gwylio teuluoedd pawb yn dathlu’n fyw yn y partïon gwylio ar y diwedd yn ychwanegu at awyrgylch arbennig y noson.

“Bu’n gystadleuaeth a hanner eto eleni, felly llongyfarchiadau mawr i bawb am gymryd rhan. Roedd hi’n fraint go iawn dathlu llwyddiannau cymaint o gystadleuwyr ar draws ystod o sectorau ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a rhoi cynnig ar gynrychioli eich gwlad yn 2023, ewch i Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

More News Articles

  —