Goresgyn rhwystrau wrth adeiladu dyfodol gyda Phrentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Kirstie Rowe and Lauren Prescott

Kirstie Rowe a Lauren Prescott
Clwb Golff Brenhinol Porthcawl

Byth er pan oeddent yn eu harddegau, bu Kirstie Rowe a Lauren Prescott yn breuddwydio am ddilyn gyrfa ym maes lletygarwch. Ar ôl gweithio yn y diwydiant am flynyddoedd, penderfynodd y ddwy gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa, trwy gymorth prentisiaeth.

Mae Kirstie a Lauren yn staff blaen tŷ yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl sydd wedi ennill nifer o wobrau.

Ar ôl cwblhau eu NVQ Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain, mae Kirstie a Lauren wedi symud ymlaen i gwrs Rheoli ym maes Lletygarwch Lefel 4.

Trwy gydol yr amser y buont ar y rhaglen, bu’n rhaid i Kirstie a Lauren wynebu llu o rwystrau a’u goresgyn. Y brif her i’r ddwy oedd pandemig Covid-19 ac effaith andwyol hwnnw ar y diwydiant lletygarwch. Yn ogystal â bod yn gyfnod anodd i weithio trwyddo, roedd gan Kirstie a Lauren waith cwrs i’w gwblhau. Hyd yn oed ar yr adegau mwyaf heriol, dangosodd y ddwy fenyw ymroddiad aruthrol i gwblhau eu holl waith cwrs yn brydlon, ac i safon uchel.

Ar ôl cael ei diagnosio â Sglerosis Ymledol yn ddiweddar, bu’n rhaid i Lauren jyglo ei llwyth gwaith, pwysau Covid a’i phroblemau iechyd. Er gwaetha’r holl rwystrau hyn, llwyddodd i gwblhau ei phrentisiaeth.

Roedd Kirsty a Lauren yn barod iawn i ganmol eu hasesydd, Nick Snell, am y gefnogaeth a gawsant ganddo.

Meddai Lauren: “Yn y math hwn o amgylchedd, mae cael perthynas agos â’ch asesydd yn gwneud y byd o wahaniaeth ac yn gwneud y broses gymaint mwy pleserus a hwylus. Mae’r berthynas onest a thryloyw gyda Nick wedi fy helpu’n fawr i gyrraedd y nod.”

Mae’r ddwy yn canmol Itec a’r rhaglen brentisiaethau am eu helpu i ddatblygu, trwy roi gwell dealltwriaeth iddynt o’u cyfrifoldebau craidd, gwahanol strategaethau ar gyfer rheoli eraill, yn ogystal â thactegau a syniadau ar gyfer cynyddu boddhad cwsmeriaid.

Dywedodd Kirsty: “Roedd cael y cyfle i fireinio fy sgiliau presennol a datblygu set newydd sbon ar yr un pryd o fudd mawr i mi.”

Mae Kirsty wedi rhoi ei sgiliau arwain newydd ar waith ac wedi cael dyrchafiad i fod yn Oruchwyliwr Bwyd a Diod, lle mae’n gyfrifol am ei thîm ei hun. Ar brentisiaeth arall y mae bryd Lauren sy’n bwriadu parhau â’i thaith ddysgu gan ddatblygu ei sgiliau rheoli a lletygarwch ymhellach.

Cysylltwch ag ITEC Skills and Employment i gael gwybod sut y gall Prentisiaethau’ch helpu i recriwtio a gwella sgiliau eich staff.

More News Articles

  —