Adeiladu Gweithlu Medrus: Rôl Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn Hyfforddiant Galwedigaethol
Diben Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yw helpu dysgwyr ledled Cymru i ddatblygu sgiliau o safon uchel trwy addysg alwedigaethol a chymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae’r cystadlaethau hyn yn rhoi llwyfan i ddysgwyr ddangos eu galluoedd, cael profiad ymarferol, a meithrin digon o hyder i ffynnu yn eu gyrfaoedd. Trwy gystadlu ar y lefel hon, gall unigolion fireinio’u sgiliau technegol, eu gallu i ddatrys problemau, a’u gwytnwch; sef nodweddion allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y gweithlu heddiw.
Ochr yn ochr â’n gwaith gyda cholegau addysg bellach, rydym yn cydweithio â nifer o Ddarparwyr Hyfforddiant Annibynnol (ITPs) fel ACT, ITEC Training Solutions, a Bumblebees – Little Inspirations (sy’n gysylltiedig ag Educ8) eleni. Mae’r darparwyr hyn yn cyflenwi hyfforddiant o ansawdd da mewn gwahanol ddiwydiannau, gan sicrhau bod dysgwyr yn meithrin y sgiliau ymarferol a’r hyder y mae arnynt eu hangen i ragori yn y gweithle.
Yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025, bu rhai sy’n dysgu gyda Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol yn dangos eu harbenigedd, gan ennill medalau a chanmoliaeth mewn sawl categori. Mae eu llwyddiant yn arwydd o gryfder dysgu seiliedig ar waith ac ymroddiad yr ITPs i ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus sy’n barod i ddiwallu anghenion cyflogwyr.
Yn ogystal â llwyddiant unigolion, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau diwydiannau a chefnogi economi Cymru. Trwy annog dysgwyr i fireinio’u sgiliau o dan bwysau, mae’r cystadlaethau’n helpu i greu gweithlu sy’n effeithiol iawn, yn hyblyg ac yn barod i fodloni gofynion cyflogwyr. Mae busnesau’n elwa o gyflogi pobl sydd eisoes wedi dangos y gallant weithio ar lefel uchel, gan ddod â syniadau ffres, sgiliau datrys problemau, ac arbenigedd sy’n benodol i’w diwydiant. Felly, mae cystadlaethau sgiliau yn cyfrannu nid yn unig at dwf gyrfaoedd personol ond hefyd at gynhyrchiant ac arloesedd cyffredinol diwydiannau ledled Cymru.
Trwy gydweithio’n agos â diwydiant a sicrhau bod dysgwyr yn cael hyfforddiant ymarferol o ansawdd da, mae ITPs yn gwneud cyfraniad sylweddol at weithlu ac economi Cymru. A ninnau’n parhau i gefnogi rhagoriaeth alwedigaethol, mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn dal wedi ymrwymo i ddathlu cyflawniadau dysgwyr a rhoi sylw i gystadlaethau sgiliau ledled y wlad.
Llongyfarchiadau i enillwyr y medalau eleni. Enillodd ACT Training Ltd fedal Efydd mewn Cyfrifeg. Yn ogystal, cafodd y darparwyr a ganlyn ganmoliaeth uchel: Bumblebees – Little Inspirations ym maes Gofal Plant, ITEC Training Solutions mewn Sgiliau Cynhwysol mewn Gofal Plant, a Sgiliau Cynhwysol: IT Software Solutions ym maes Busnes.
Canlyniadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024/25
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
More News Articles
« Adnodd i godi hyder cyflogwyr wrth gefnogi prentisiaid dwyieithog — Sut i Osgoi ein Pobl Ifanc Rhag dod yn NEET »


