Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru i Lansio Ŵyl Sgiliau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae’r GŵylSgiliau Datblygu Rhagoriaeth yn gyfres o ddigwyddiadau DPP cyffrous sy’n anelu at godi’r sgiliau, y safonau a’r wybodaeth ar draws addysg a diwydiant yng Nghymru.

image showing different skills being carried out

Bydd y digwyddiad wythnos o hyd sy’n cael ei lansio ym mis Hydref yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr o fyd diwydiant ac addysg. Bydd hyfforddiant ymarferol yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o bynciau galwedigaethol i weithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Bydd y gweithdy Celfyddydau Coginio yn cael ei arwain gan y cogydd enwog Hywel Griffith, perchennog a chyfarwyddwr bwyty seren Michelin Beach House yn Oxwich a chystadleuydd blaenorol ar Great British Menu. Bydd y cwrs Technoleg Modurol yn cael ei arwain gan un o gyfranogwyr WorldSkills São Paulo 2015 Elijah Sumner, sydd ers cystadlu yn rhedeg ei fusnes ei hun, Sumner Automotive.

Gyda ffocws ar ragoriaeth a chodi sgiliau, bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar alinio safonau â gofynion rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae gweithdai wedi’u cynllunio i ymestyn a herio tiwtoriaid, cyflogwyr ac aseswyr, gan eu galluogi i fynd â’r hyn a ddysgwyd yn ôl a chyflwyno rhagoriaeth i genhedlaeth nesaf y gweithlu galwedigaethol.

Bydd cyfuniad o hyfforddiant wyneb yn wyneb ochr yn ochr ag elfennau o ddarpariaeth o bell, gyda ffocws allweddol ar adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth.

Trwy gymryd rhan yn y gweithdai hyn, gobeithio y bydd mwy o unigolion medrus yn cymryd rhan mewn cystadlaethau; mwy o wybodaeth a dealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol yn y sector a gweithlu cryfach a mwy effeithlon yn y dyfodol.

Dywedodd Huw Morgan, Darlithydd Arlwyo yng Ngholeg Ceredigion:
“Mae gweithdai Ysbrydoli Sgiliau yn fantais fawr i ni fel addysgwyr i ddod â sgiliau ac arferion yn ôl i’r coleg a’u defnyddio gyda’r holl fyfyrwyr o fewn ein cwricwlwm.”

I ddarganfod a chofrestru ar gyfer unrhyw un o’n gweithdai GŵylSgiliau ewch i: https://inspiringskills.gov.wales/events.

I siarad â ni am ein cyfleoedd DPP a’n dull o wella addysgu a dysgu:
Ffôn: 01554 478199 / 07385 419 219
E-bost: info@inspiringskills.wales
Wefan: Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —