Ers lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau PSPRC 2019-22, bu newid enfawr yn y ffordd y mae pobl yn gweithio a’r mathau o swyddi sydd ar gael. Yn bwysicach fyth, bu newid sylweddol yn y sgiliau y mae ar ddiwydiant eu hangen i roi hwb ymlaen i fusnesau mewn byd ôl-bandemig. O ganlyniad i’r ddwy flynedd gythryblus ddiwethaf, gwelwyd bod angen llawer o sgiliau newydd ar fusnesau. Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod pobl yn dysgu’r sgiliau cywir yn ein colegau a’n prifysgolion a thrwy ein darpariaeth dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau).
Byddai tîm PSPRC yn gwerthfawrogi petaech yn clicio ar y ddolen isod i lenwi ein Harolwg Cyflogaeth a Sgiliau. Ni fydd yn cymryd mwy na 10 munud i chi ei lenwi. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cyfrannu at ein Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau newydd ar gyfer 2022-2025. Mae’r cynllun hwn yn allweddol wrth ddylanwadu ar y dirwedd sgiliau ranbarthol, ac wrth roi gwybod i Lywodraeth Cymru am ofynion sgiliau a hyfforddiant, ac i ble mae angen dyrannu cyllid er mwyn ateb y galw. Byddem yn ddiolchgar hefyd pe gallech rannu’r arolwg ar eich rhwydweithiau perthnasol.