James a’i gwmni’n elwa ar gymwysterau galwedigaethol

Postiwyd ar gan karen.smith

James Pepper, a strong advocate of vocational learning.

James Pepper, hyrwyddwr cryf o ddysgu galwedigaethol.

Mae theori’n wych, ond gall profiad ymarferol sy’n gysylltiedig â datblygiad parhaus a chymwysterau fynd tipyn ymhellach, yn ôl James Pepper, cyfarwyddwr a chyfranddaliwr Vista Retail yng Nghaerdydd.

Mae James wedi codi trwy rengoedd y busnes sy’n tyfu sy’n arbenigo mewn adeiladu, gosod, cefnogi a chynnal a chadw systemau EPOS i gwsmeriaid yn y marchnadoedd adwerthu a lletygarwch a QSR. Llynedd, bu wrthi’n goruchwylio’r gwaith i Reolwyr Brynu’r cwmni, gan ddod yn gyfranddaliwr ei hun.

Priodola lwyddiant y Prynu gan Reolwyr i’w ddatblygiad galwedigaethol parhaus yn y busnes a’i yrfa.

Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae’n un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

Mae James hefyd wedi cyflwyno mentrau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd sydd wedi gwella effeithlonrwydd ac wedi arwain at arbedion sylweddol yng nghostau’r cwmni ond gan barhau i gynyddu niferoedd y cyflogeion yn y cwmni sydd bellach yn cyflogi dros 200 o bobl.

“Gallwch ddysgu cryn dipyn drwy theori, ond pan ddaw hi i roi pethau ar waith, nid oes dim byd tebyg i ddysgu yn y swydd,” meddai James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Vista Retail Support.

Ers ymuno â’r cwmni pan oedd yn fusnes bach ym 1998, mae James wedi cyflawni Uwch Brentisiaeth mewn Rheolaeth ac ers hynny, wedi mynd ymlaen i gael BTEC Diploma mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Lefel 5 ac NVQ Diploma mewn Rheolaeth Lefel 5 gyda chefnogaeth Acorn Learning Solutions. Ariannwyd rhai o’r cymwysterau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ar hyn o bryd, mae James yn astudio gradd mewn Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ogystal â rhedeg busnes twf uchel.

“Ffurfia astudiaethau galwedigaethol a chymwysterau parhaus ran bwysig o’n busnes. Gallaf weld yn uniongyrchol sut mae’n helpu cryfhau sgiliau personol a datblygiad gyrfaoedd,” ychwanegodd James. “Anogwn hyn yn weithgar yn y gweithle ac rydym yn gweld y canlyniadau yn ddi-os.”

Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; cyn-ddysgwyr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yng Nghanolfan Farchogaeth Fferm Shardeloes, Amersham; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn Insurance Services BPW, Casnewydd; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy’n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r cyn ddysgwyr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo’n sylweddol yn eu maes.

Gan longyfarch Casey a’r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —