O Fotswana i Flaenafon: uchelgais dysgwraig i fod yn athrawes

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jessica Apps – esiampl ddisglair.

Mae Jessica Apps, a symudodd o ben draw’r byd i gychwyn bywyd newydd yn ne Cymru gyda’i mam a’i chwaer iau ym mis Tachwedd 2019, wedi’i disgrifio fel esiampl ddisglair wrth iddi anelu at yrfa fel athrawes.

Er bod ganddi gymwysterau cyfatebol i TGAU pan ddaeth i Brydain, doedd Jessica ddim yn cael mynd i goleg ac felly collodd ei hyder ac roedd yn teimlo’n unig tan iddi ymuno â Sgiliau Cyf.

Roedd dilyn Rhaglen Ymgysylltu Creadigol ar Hyfforddeiaeth yn fodd i Jessica ddatblygu ei diddordeb mewn ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol a bu hynny’n hwb i’w hyder. Trwy hyn, a gwneud Gwobr Efydd Dug Caeredin, gwnaeth Jessica lawer o ffrindiau newydd.

Yn awr mae’n astudio ar gyfer Lefel A mewn Cymdeithaseg, Ffotograffiaeth a Llenyddiaeth yng Ngholeg Gwent ac mae’n gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio cymdeithaseg a mynd yn athrawes.

Erbyn hyn, mae Jessica wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ogystal, mae Jessica, sy’n byw yn Ger yr Efail, Blaenafon, yn awyddus i barhau i wirfoddoli gyda Sgiliau Cyf er mwyn helpu pobl ifanc eraill sy’n teimlo wedi ymddieithrio oddi wrth addysg a gwaith fel yr oedd hi ar un adeg.

“Ymuno â Sgiliau i wneud yr Hyfforddeiaeth oedd y penderfyniad gorau a wnes i achos ges i fy nerbyn yn syth. Roedd y dysgwyr a’r athrawon mor groesawus,” esboniodd Jessica. “Ar ôl dim ond pum mis, roeddwn i’n teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd newydd ac ro’n i’n cymryd y camau nesaf tuag at swydd fy mreuddwydion.

“Alla i ddim diolch digon i Sgiliau am fy helpu i ddatblygu i’r person ydw i heddiw. Rwy wedi bod yn awyddus i helpu pobl erioed ac rwy wir yn mwynhau gwirfoddoli gyda’r cwmni. Mae hynny wedi rhoi hwb i fy awydd i fod yn athrawes.”

Dywedodd Charlotte Evans, un o gyfarwyddwyr Sgiliau Cyf, yn Risga, fod datblygiad Jessica ers iddi ddechrau ar yr Hyfforddeiaeth yn “anhygoel” a chanmolodd hi am wirfoddoli i helpu eraill sy’n wynebu anawsterau tebyg i’r rhai a wynebodd hi.

“Dydyn ni ddim am ei pherswadio i beidio â mynd i’r brifysgol a hithau mor frwd ac uchelgeisiol, ond bydden ni’n hoffi cyflogi Jessica – mae ganddi’r ‘rhywbeth arbennig’ rydyn ni’n chwilio amdano. Mae’n esiampl ddisglair,” meddai Charlotte.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —