Lewis yn newid cwrs ei fywyd a’n gobeithio am yrfa gyfforddus

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Lewis O’Neill – newid cwrs ei fywyd.

Mae Lewis O’Neill o Lannau Dyfrdwy wedi troi cornel yn ei fywyd ac mae’n edrych ymlaen at yrfa ym maes clustogwaith dodrefn diolch i Rhaglenni Hyfforddeiaethau gan Lywodraeth Cymru.

Roedd Rhaglenni Hyfforddeiaethau Ymgysylltu a Lefel 1 a Dyfarniad Estynedig City & Guilds Lefel 1 mewn Cyflogadwyedd yn ddigon i berswadio Lewis, 17, o Garden City, i geisio gyrfa lle câi weithio â’i ddwylo.

Gadawodd Lewis yr ysgol heb gymwysterau a bu trwy’r system gyfiawnder ond dywedodd, erbyn hyn, ei fod wedi mwynhau dysgu am y tro cyntaf yn ei fywyd.

Trefnwyd lleoliad gwaith gyda Westbridge Furniture, Glannau Dyfrdwy a, gan i Lewis greu’r fath argraff dda, cafodd ei recriwtio’n brentis. Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Clustogwaith Dodrefn, gan helpu prentisiaid eraill pan fydd angen.

Mae datblygiad Lewis wedi’i gydnabod yn awr wrth iddo gyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dywedodd Paula Blundell, tiwtor dosbarth Lewis yng Ngholeg Cambria: “Cyn gynted ag y sylweddolodd Lewis bod y gwaith yr oedd gofyn iddo’i wneud yn mynd i’w gwneud yn haws iddo gael gwaith, fe roddodd ymdrech o 100%.

“Dylid gweld ei stori fel esiampl i bobl eraill o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy fod yn benderfynol a gweithio’n galed.”

Dywedodd Lewis: “Pan ddechreuais i’r Hyfforddeiaethau, doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud, ond mi wnes i fachu’r cyfle i weithio â fy nwylo pan ges i gynnig y brentisiaeth. Erbyn hyn, mae gen i swydd dda a rhagolygon da ac rwy’n gobeithio y gall fy stori i ysbrydoli rhywun arall.”

Dywedodd Alison Roberts, swyddog Swyddog Adolygu a Lleoliadau yng Ngholeg Cambria fod Lewis wedi newid cwrs ei fywyd ac wedi magu hyder diolch i’r Rhaglenni Hyfforddeiaethau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —