Menter gymdeithasol yn gosod esiampl trwy recriwtio 28 o brentisiaid anabl

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cyfarwyddwyr Legacy International Group, Sara ac Arran Flay a’u partner busnes Leighton Morris gyda Kyle Wood, Kathryn Bennett a Luke O’Neill sy’n brentisiaid.

Chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc, anabl rhag cael gwaith yw’r brif flaenoriaeth i fenter gymdeithasol ym Merthyr Tudful sydd newydd recriwtio 28 o brentisiaid gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Legacy International Group, sy’n cynnwys y chwaer-gwmnïau LIG Enterprise ac ENW, wedi cael cymorth o’r Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr gan Lywodraeth Cymru, sef £4,500 am bob prentis anabl sy’n cael ei recriwtio.

Mae’r grŵp yn gweithio i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc, anabl rhag cael eu cyflogi ac i ddarparu cefnogaeth arbenigol i gyflogwyr i’w helpu i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle.

Mae’r prif weithredwr Sara Flay a’i phartner busnes Leighton Morris wedi lansio ymgyrch #IAM1IN21 – https://iam1in21.bitrix24.site/ – i annog 300 o gyflogwyr ledled Cymru i addunedu i gyflogi un person anabl yr un erbyn diwedd 2021.

Mae pecyn cymorth Legacy yn cynnwys anogwr swydd ar gyfer pob prentis anabl sy’n cael ei recriwtio er mwyn helpu i oresgyn unrhyw rwystrau posibl i’r cyflogwr a’r prentis.

“Allen ni ddim disgwyl i gyflogwyr eraill gefnogi’r ymgyrch heb i ni recriwtio prentisiaid ein hunain a dangos iddyn nhw sut i’w wneud,” esboniodd Sara, sydd wedi arwain twf rhyfeddol y fenter gymdeithasol i 90 o staff mewn dim ond pum mlynedd.

“Gan amlaf, dangosir i bobl sut i wneud rhywbeth yn hytrach na sut mae’n gweithio. Daw pobl i’n safleoedd ni i weld ein staff anabl yn gwneud gwaith go iawn, nid mewn swyddi tocenistaidd.

“Dyw llawer o gyflogwyr ddim yn teimlo’n hyderus i gyflogi pobl anabl. Ac mae llawer o bobl ifanc, anabl yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyflogwyr a all ddarparu yr hyn y mae arnyn nhw ei angen er mwyn gallu gweithio. Rydyn ni’n ceisio bod yn y canol yn y broses hon yn helpu’r ddwy ochr.

“Pan fydd cyflogwr yn cael cymhelliant o £4,500 gan Lywodraeth Cymru i gyflogi person ifanc, anabl yn brentis, mae’r risg yn gostwng yn fawr ac mae ein hanogwyr swyddi yno i’w helpu i setlo a magu hyder.”

Pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor yw 75% o weithlu Legacy International Group. Mae gan Sara, 40, ei hun gyflwr niwro-gyhyrol ac mae’n defnyddio cadair olwyn weithiau.

“Dod o hyd i gyfleoedd gwaith i bobl ifanc, anabl yw fy mhrif reswm dros godi yn y bore,” meddai. “Gall y byd fod yn hollol anhygyrch i bobl anabl ac rwy’n benderfynol o wneud rhywbeth am y peth.”

Mae Sara wedi cydweithio’n agos â Thîm Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n delio â holl ymholiadau cyflogwyr am brentisiaethau trwy Borth Sgiliau Llywodraeth Cymru, ac â Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ym maes Prentisiaethau.

Mae Joanne O’Keefe, rheolwr datblygu Rhaglen Brentisiaethau NTfW yn ne-ddwyrain Cymru, wedi helpu Sara i ddod o hyd i’r Fframwaith Prentisiaeth a’r darparwr dysgu gorau ar gyfer pob prentis.

Darperir prentisiaethau sy’n amrywio o Lefelau 2 i 4 mewn Gweinyddu Busnes, TG, Marchnata, y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, Arweinyddiaeth, Cymhwyso Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid gan ACT ac ALS yng Nghaerdydd.

“Mae cefnogaeth Jo a’r Tîm Prentisiaethau wedi bod yn anhygoel,” meddai Sara. “Allen ni ddim fod wedi ei wneud hebddyn nhw. Mae’r gwaith o gyflogi’r prentisiaid a’r anogwyr swyddi newydd wedi cymryd pob ceiniog o’n hadnoddau a mwy, felly allen ni ddim fforddio gwneud camgymeriadau.”

Meddai Jo: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi gallu helpu Sara. Mae’n stori mor galonogol am grŵp o gwmnïau sy’n cynnig cyfleoedd am brentisiaethau i bobl ifanc, anabl a allai fod wedi cael trafferth dod o hyd i waith fel arall.”

Canmolwyd y Legacy International Group gan Humie Webbe am gyflwyno anabledd mewn ffordd mor gadarnhaol. “Mae Sara’n berson mor ddeinamig a chadarnhaol ac mae’n hyrwyddo pobl ifanc, anabl fel y genhedlaeth nesaf o weithwyr,” meddai.

“Mae hi’n annog cyflogwyr i weld y doniau a’r posibiliadau cyn iddyn nhw ystyried anabledd person ifanc, sy’n ddim ond un agwedd ar eu cymeriad.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwy’n falch iawn bod y Legacy International Group wedi recriwtio 28 o brentisiaid anabl gyda chefnogaeth ein Cynllun Cymhelliant i Gyflogwyr.

“Mae prentisiaid yn gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi ac yn rhoi cyfle hollbwysig i bobl ddysgu sgiliau newydd, magu profiad a hyder gwerthfawr, ac ychwanegu at eu gwybodaeth.

“Rydyn ni eisoes wedi cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon ac rydyn ni’n ymdrechu i wneud hyd yn oed fwy i hybu cynhwysiant. Gall sicrhau amrywiaeth mewn amgylcheddau gwaith sy’n gynrychioliadol ac yn agored i bawb roi mantais gystadleuol ychwanegol i fusnes.”

Caiff Tîm Prentisiaethau NTfW a Rhaglen Brentisiaethau Cymru eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Bydd y Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr, sy’n rhedeg tan 30 Medi 2021, yn helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, gan gefnogi datblygiad gweithlu a all addasu wrth i anghenion busnes newid. Rhoddir y taliadau ar gyfer hyd at 10 prentis i bob cyflogwr. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Thim Prentisiaethau NTfW yn https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau

More News Articles

  —